Sylwadau sgandal rygbi Dawn Bowden 'ddim yn gwbl gywir'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi dod i'r casgliad nad oedd Gweinidog Chwaraeon Cymru "yn gwbl gywir" gyda'i sylwadau ynglŷn â sgandal rhywiaeth Undeb Rygbi Cymru.
Er hynny daethpwyd i'r casgliad nad oedd Dawn Bowden wedi torri'r côd gweinidogol yn ystod cyfweliad â BBC Cymru fis diwethaf.
Roedd yr Aelod Seneddol Llafur, Tonia Antoniazzi wedi cyhuddo Dawn Bowden o "ymdrech sinigaidd i geisio newid yr hanes" yn y cyfweliad.
Dywedodd yr adroddiad nad oedd sylwadau "anghywir" Ms Bowden yn golygu ei bod hi wedi dweud celwydd.
Ym mis Rhagfyr fe ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod Ms Bowden wedi gofyn am yr ymchwiliad ei hun.
Cafodd ei gynnal gan yr uwch was sifil David Richards, sy'n gyfrifol am foeseg o fewn Llywodraeth Cymru.
Mae'r côd gweinidogol yn cynnwys rheolau y mae disgwyl i weinidogion eu dilyn - ac mae'r saith egwyddor bywyd cyhoeddus yn nodi y dylid dweud y gwir bob tro.
Mae hi'n flwyddyn bellach ers i ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates amlygu "diwylliant gwenwynig" o rywiaeth a homoffobia" o fewn URC.
Mae Ms Antoniazzi yn dweud ei bod wedi cysylltu â Ms Bowden i fynegi ei phryderon fisoedd cyn i'r rhaglen ddogfen gael ei darlledu.
Dywedodd Ms Bowden wrth raglen BBC Politics Wales nad oedd yn bosib iddi ymyrryd yn gynt oherwydd ei bod angen "manylion eu cwynion" i roi "sicrwydd iddi fod yr hyn oedd yn cael ei ddweud yn wir".
Ond yn ôl Ms Antoniazzi, fe roddodd hi fanylion cyswllt menywod a gafodd eu heffeithio i'r gweinidog.
'Dwy ddealltwriaeth wahanol'
Mae adroddiad Mr Richards yn nodi fod Ms Bowden wedi dweud yn y cyfweliad fod yr hyn y gwnaeth hi ei dderbyn gan Ms Antoniazzi yn "gyffredinol iawn" a'i bod hi "wedi gofyn am enwau a rhagor o fanylion".
"Roedd hi'n teimlo ei bod hi angen tystiolaeth i gefnogi'r datganiad," meddai'r adroddiad.
"Doedd y ffaith iddi ddweud bod hynny ddim wedi digwydd ddim yn gwbl gywir, gan ei bod hi mewn gwirionedd wedi derbyn tri enw gan yr Aelod Seneddol dros Gŵyr.
"Ond mi oedd y gweinidog yn gywir i ddweud nad oedd hi wedi derbyn unrhyw wybodaeth am natur y cwynion, nac unrhyw ddatganiadau gyn yr unigolion hynny."
Wrth gloi'r adroddiad mae Mr Richards yn dweud ei fod yn credu mai dwy ddealltwriaeth wahanol o'r un set o ffeithiau sydd wrth wraidd y mater.
"Yn fy marn i, doedd sylwadau anghywir y dirprwy weinidog ynglŷn ag enwau ddim yn cyfateb i ddweud celwydd, na chwaith yn mynd yn groes i'r côd gweinidogol."
Wrth ymateb i'r ddogfen, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "derbyn casgliadau'r adroddiad".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023