Rhodd o groes gan y Brenin Charles yn dod i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Archesgob Cymru'n dweud nad oes modd bod yn siŵr os daeth rhodd gan y Pab Francis o'r gwir groes neu beidio.
Mae'r darn o bren yn rhan o groes newydd a gafodd ei defnyddio yn seremoni cadeirio'r Brenin Charles.
Mae Croes Cymru bellach wedi'i throsglwyddo'n swyddogol i'r Eglwys yng Nghymru wedi seremoni fawreddog yn neuadd y Gofaint Aur yn Llundain ar ddiwrnod Santes Dwynen.
Yn y seremoni, fe ddywedodd cyn-archesgob Caerdydd, George Stack, mai'r Santes Helena oedd wedi dod o hyd i guddfan y groes yn Jerwsalem yn y drydedd ganrif, a'i dychwelyd at yr ymerawdwr Rhufeinig, ei mab, Constantin Fawr.
'Yr hanes sy'n bwysig'
Ond wedi'r seremoni yn Llundain yr wythnos hon fe ddywedodd yr Archesgob Andy John nad oes modd bod yn sicr o darddiad y groes.
"'Dan ni ddim yn siŵr. Yr hanes sy'n bwysig," meddai.
"Mae'r groes yn eistedd reit ar groesffordd hanes ein ffydd ni fel Cristnogion, a 'dan ni'n rhannu'r un Iesu Croeshoeliedig, a dyna'r fath beth sy'n bwysig i ni."
Y gofaint arian, Michael Lloyd, oedd wedi creu'r groes.
Dywedodd yntau nad oedd yn teimlo'n gwbl gyfforddus gyda'r ychwanegiad hwyr i'r cynllun o wir groes Iesu.
"Dydw i ddim yn credu yn y goruwchnaturiol," dywedodd. "Rwy'n credu yn nysgeidiaeth Iesu Grist."
Dadleuol
Mae creiriau sanctaidd wedi bod yn ddadleuol yng Nghymru dros y blynyddoedd, fel mewn llefydd eraill.
Un enghraifft amlwg yw'r penderfyniad gan yr Esgob Barlow i dynnu gweddillion Dewi Sant a Sant Stinian o Eglwys Gadeiriol Dewi Sant yn Sir Benfro ym 1538 mewn ymgais i ymwrthod ag ofergoeledd.
Roedd hyn yn rhan o'r diwygiad Protestannaidd, a does neb yn siŵr lle mae'r gweddillion rheiny erbyn hyn.
Roedd diwygiwr Protestannaidd arall, John Calvin hefyd wedi ysgrifennu yn y 15fed ganrif, bod "Sant Awstin yn cwyno... bod rhai pobl, hyd yn oed yn ei gyfnod ef, yn cynnal masnach anonest, yn gwerthu creiriau'r merthyron," ac mae'n ychwanegu'r geiriau arwyddocaol, "os ydyn nhw wir yn greiriau'r merthyron".
Mae cyn-archesgob Catholig Caerdydd George Stack hefyd yn cydnabod hanes dadleuol creiriau yng Nghymru.
"Ond, mae'n braf clywed bod creiriau sanctaidd, yn raddol bach, yn cael eu cydnabod fel ffynhonnell gyffyrddadwy o gyfarfyddiad â Duw," meddai.
"Mae mwy a mwy o bobl eisiau cyffwrdd pethau sanctaidd a phrofi beth maen nhw'n eu cynrychioli."
Dim byd i'w ofni
Yn ôl yr Archesgob Andrew John, nid yw'r dyhead i deimlo creiriau sanctaidd yn unrhyw beth i'w ofni.
Mae e'n gweld y groes fel symbol eciwmenaidd i ddangos cydweithrediad rhwng yr Eglwys yng Nghymru, yr Eglwys Babyddol a'r eglwysi anghydffurfiol.
"Mae 'na sawl peth yma," meddai.
"Yn gyntaf, rhodd gan y Brenin newydd i gydnabod bod Cymru yn wlad bwysig yn y Deyrnas Unedig, ond hefyd oherwydd ei bod hi'n cynnwys relic y true cross.
"Mae'n arwydd o'r teulu newydd yng Nghymru sy'n golygu ni, yr Eglwys yng Nghymru, yr Eglwys Gatholig a'r Eglwysi Rhyddfrydol hefyd."
Syniad gwreiddiol Graham Davies, cyn-ysgrifennydd preifat y Tywysog Charles cyn iddo gael ei goroni, oedd i gynhyrchu'r groes i nodi 100 mlynedd ers datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru yn 2020.
Daeth y pandemig i atal y dathliadau rheiny, ond daeth cyfle i barhau â'r cynlluniau er mwyn i'r groes arwain gosgordd y Brenin ar ddiwrnod ei goroni.
Dyna pryd y cynigiodd pennaeth yr Eglwys Babyddol, y Pab Francis, i ychwanegu rhan o'r gwir groes yng Nghroes y Brenin Protestannaidd.
'Arwydd o'i berthynas â Chymru'
Yn ôl Graham Davies, mae'r groes yn arwydd o barch y Brenin Charles at Gymru.
"Mae'r Brenin wedi bod yn Dywysog Cymru am hirach na neb arall mewn hanes," meddai.
"Mae e'n caru Cymru, yn defnyddio'r iaith a'n parchu ei hanes a'i thraddodiadau. Mae'r groes yn arwydd o'i berthynas ddofn a phersonol ef â Chymru."
Bydd y groes yn cael ei chadw yn Eglwys Gadeiriol Bangor am flwyddyn, cyn cael ei chynnig i'r Eglwys Babyddol yng Nghymru'r flwyddyn wedyn.
Mae bwriad hefyd i gadw'r groes yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant mewn cam fyddai'n ail-gyflwyno crair sanctaidd dros 400 mlynedd ers i greiriau'r Sant Cenedlaethol gael eu tynnu oddi yno.
Bydd mwy am y stori hon ar Bwrw Golwg BBC Radio Cymru ac ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2023