Dyn wedi'i barlysu wrth nofio'n y môr ar Nos Galan
- Cyhoeddwyd
![Anna a Dan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A194/production/_132446314_6d92809e-d107-4a4c-b383-13a5dd1d173a.jpg)
Mae Dan Richards, yma gyda'i bartner Anna Thomas, wedi bod yn cael triniaeth yn Nhreforys ers tair wythnos
Mae partner dyn 35 oed a gafodd ei barlysu ar ôl damwain yn y môr wedi disgrifio'r mis diwethaf fel "hunllef".
Fe gafodd Dan Richards, nofiwr profiadol o Abertawe, anaf i'w wddf ym Mae Langland ganol dydd ar ddiwrnod ola'r flwyddyn.
"Ro'n ni just yn mynd i'r dŵr… nes i blymio mewn i'r don a 'naeth e just cwympo," meddai Dan.
"'Naeth y don fy nhroi i, ac fe darodd fy mhen yn erbyn y tywod.
"Golau llachar, sŵn mawr. Ro'n i wedi fy mharlysu yn syth."
![Dan ac Anna](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/EFB4/production/_132446316_6216030c-91f9-4ddd-9f54-3aa7535ee633.jpg)
Mae Dan ac Anna wedi hen arfer mynd i'r môr
Fe welodd ei bartner, Anna Thomas, 38, y ddamwain yn digwydd.
"Yn y lle cynta' ro'n i'n meddwl mai jôc oedd e," meddai.
"Ond wedyn glywes i: 'Helpwch fi. Alla' i ddim symud fy nghoesau'.
"Roedd fy mam ar y traeth. Dywedodd hi bo' fi'n sgrechian. Ro'n i'n sgrechian ar i bobl ein helpu ni."
'Alla i dal ddim credu'
Fe ddaeth ambiwlans i helpu Dan cyn i'r ambiwlans awyr ddod i'w gludo i ysbyty ym Mryste.
Cafodd driniaeth ar ei wddf yno, cyn cael ei symud i Ysbyty Treforys yn Abertawe.
"Alla' i dal ddim credu sut aeth pethe mor o'i le. Doedd hi ddim y don fwyaf, ddim yr amodau gwaethaf," meddai Dan.
"Ond ry'ch chi'n taro'ch pen a ie - newid byd."
![Dan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13DD4/production/_132446318_cbef85d2-a678-4753-82ea-8fa8a5c1eae2.jpg)
Mae Dan Richards yn nofiwr a syrffiwr profiadol
Mae Dan wedi bod yn cael triniaeth yn Nhreforys ers tair wythnos.
"Mae'r staff yma'n grêt. Mae gen i'n nheulu i gyd yma bob dydd," dywedodd.
Mae Anna wedi bod yn treulio bob dydd gyda Dan yn yr ysbyty.
Dywedodd bod y mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd.
"Ry'n ni'n byw hunllef. Fydden i ddim yn dymuno hyn ar fy ngelyn pennaf," meddai.
"Dyw e ddim yn teimlo'n real. Ond nid y diwedd yw hyn."
![Dan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0602/production/_132483510_437e5e63-9a83-4dac-af5c-0ee2e509edc5.jpg)
Dywedodd Dan ei fod eisiau codi ymwybyddiaeth am beryglon y môr
Dywedodd Dan nad yw'n gwybod beth a ddaw yn y dyfodol, ond mae'n cadw'n bositif.
"Mae rhai wedi dweud wrthon ni y gallai'r broses adfer gymryd dwy flynedd - rhai eraill wedi dweud y gallai fod am byth."
Mae'r ddau wedi bod yn edrych ar driniaeth celloedd stem neu driniaeth breifat.
"Ry'n ni'n gwybod pa mor ddrud a pha mor hir y bydd y siwrne'n ei chymryd," dywedodd Anna.
"Dy'n ni ddim yn naïf."
'Dal i fynd'
Dywedodd Dan mai ei nod yw "cael gymaint o ddefnydd yn ôl yn fy mreichiau a choesau ag sy'n bosib".
"Just dal i fynd. A rhoi'n ôl i'r bobl sydd wedi'n helpu ni."
Dywedodd hefyd ei fod eisiau codi ymwybyddiaeth am beryglon y môr.
"Does dim rhaid i'r amodau fod yn frawychus ac yn fawr. Fe all pethau bach arwain at bethau mawr i ddigwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2021