Casnewydd yn colli mewn gêm gofiadwy yn erbyn Man Utd

  • Cyhoeddwyd
Will EvansFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Casnewydd allan o gwpan FA Lloegr ar ôl cael eu curo gan Manchester United yn y bedwaredd rownd.

Colli fu hanes Casnewydd o 2-4 yn eu gêm fawr yn Rodney Parade yn erbyn Manchester United.

Gyda thorf fawr yn eu cefnogi, camodd y tîm cartref i'r cae yn llawn hyder.

Ond o fewn chwarter awr, roedd yr ymwelwyr wedi sgorio dwy gôl - y gyntaf yn ergyd o du allan i'r cwrt cosbi gan Bruno Fernandes a'r ail o droed Kobbie Mainoo, ei gôl gyntaf i'r clwb.

Er bod yr ymwelwyr yn llwyr reoli'r gêm, tarodd Casnewydd yn ôl wedi 36 munud, gyda gôl o bellter gan Bryn Morris.

Gyda'r sgôr yn 1-2 ar yr egwyl, roedd gobaith Casnewydd o greu sioc yn erbyn un o fawrion y byd pêl-droed yn fyw iawn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bryn Morris gyda'i gyd-chwaraewyr yn dathlu sgorio ei gôl yn erbyn Man Utd

Dair munud wedi'r hanner, daeth Casnewydd yn gyfartal wrth i Will Evans sgorio.

Fe sgoriodd Antony i Man Utd gydag ugain munud o'r gêm yn weddill, ei gôl gyntaf y tymor hwn.

Er i Gasnewydd frwydro hyd y diwedd, roedd profiad y tîm o'r Uwch Gynghrair yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr gyda Hojlund yn sgorio eu pedwaredd gôl yn y munudau olaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kobbie Mainoo yn dathlu wedi ei gôl gyntaf i Manchester United

Roedd Suzanne Harris a'i mab Macsen, sy'n byw yng Nghasnewydd, yn lwcus i gael tocyn i weld y gêm.

Dywedodd Suzanne, a gafodd ei geni a'i magu yng Nghasnewydd, fod pawb yn "llawn cyffro."

"Am brofiad bod Man Utd wedi dod lawr i Gasnewydd ac am brofiad i'r plant i gyd gallu dod i wylio'r gêm," meddai.

"Ma' gymaint o buzz o gwmpas y dre'."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Suzanne Harris ei fod yn "brofiad i'r plant i gyd allu dod i wylio'r gêm"

Dywedodd Abby Cripps oedd yno i wylio'r gêm ei fod yn brofiad "hollol gyffrous".

"Mae'n fraint i dîm mor fawr ddod lawr i Gasnewydd, mae'n hollol anhygoel i'r ardal leol hefyd," meddai.

Dywedodd fod y ddinas wedi bod yn "brysur iawn" gyda "chymaint o bobl wedi bod mas yn cefnogi".

"Mae'n hollol anhygoel i weld cymaint o bobl yn y ddinas."

Disgrifiad o’r llun,

Jonathan, Abby, Ben a'i fam wrth eu bodd â'r cynnwrf yng Nghasnewydd

Dywedodd Ben ei fod yn gobeithio bod y gêm yma yn "sbarduno rhywbeth newydd yn y gymdeithas".

Aeth ymlaen i sôn am effaith y gêm a'i phwysigrwydd i'r ardal.

"Os mae'n dod â rhywbeth i'r gymdeithas, a'n dod â'r gymuned at ei gilydd, does dim ots beth yw'r sefyllfa."

Disgrifiad o’r llun,

Môr o felyn yng Nghasnewydd ddydd Sul

Roedd Gail Levi a'i mab Adam, o Gasnewydd, yn eu crysau melyn yn barod i'r gêm.

Dywedodd y ddau fod prysurdeb wedi bod yn y ddinas a bod y bariau a'r bwytai wedi bod dan eu sang yr wythnos hon.

Disgrifiad o’r llun,

Gail Levi a'i mab Adam yn eu crysau melyn

Fe fydd Manchester United yn teithio i Bristol City neu Nottingham Forest yn y rownd nesaf.

Bydd Wrecsam yn herio Blackburn Rovers oddi cartref yn y bedwaredd rownd nos Lun, a chroesawu Newcastle i'r Cae Ras fydd eu gwobr os ydyn nhw'n cyrraedd y pumed rownd.