Cefnogaeth yn Wrecsam i blant sydd â rhieni yn y carchar

  • Cyhoeddwyd
Ioan

"Mae methu ei gweld bob dydd yn torri 'nghalon. Ti eisiau bod yna i dy fam, yn enwedig os wyt ti'n agos iddi, fel ro'n i."

Dim ond 13 oed oedd Ioan pan gafodd ei fam ei charcharu am bum mlynedd am droseddau yn gysylltiedig â chyffuriau.

Bellach yn 15 oed, mae'r bachgen o Wrecsam yn edrych ymlaen at y diwrnod y caiff ei fam ei ryddhau yn yr hydref, ac mae'n cefnogi cynllun newydd sy'n gwella cefnogaeth i ddisgyblion sydd â rhieni yn y carchar.

Gyda'i fam yn y carchar, dywedodd fod y sefyllfa yn un "anodd iawn, gan mai dyna'r blynyddoedd ti eisiau bod gyda dy rieni".

"Ti angen eu gweld mor aml â phosib yn ystod yr oedran yna."

Fe ychwanegodd: "Yr eiliad maen nhw'n mynd - dyna oedd y cyfnod anoddaf i mi gan bod yn rhaid i fi ddod i arfer â pheidio ei gweld mor aml a pheidio cael yr hawl i siarad gyda hi am gyfnod oherwydd y sefyllfa ffôn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pan fydd mam Ioan yn cael dod allan mae e'n edrych ymlaen i roi "cwtsh mawr iddi"

Gyda dyddiad rhyddhau ei fam yn agosáu mae bellach ganddi'r hawl i dreulio diwrnodau gyda'i theulu.

"Dwi wedi addasu tipyn," dywedodd Ioan.

"Mae gan Mam yr hawl i ddod allan am ddiwrnod felly mae jyst fel diwrnod arferol y tu allan. Ond pan mae'n gorfod mynd 'nôl mae'n ddiweddglo trist i'r diwrnod a dwi jyst yn dymuno y byddai hi'n gallu aros am 'chydig o fisoedd."

Pan fydd hi yn cael dod allan mae Ioan yn edrych ymlaen i roi "cwtsh mawr iddi. A fyddai ddim yn ei gadael am awr".

Ei obeithion ar gyfer y dyfodol?

Rwy'n gobeithio y bydd "daioni yn dod allan o'r sefyllfa. Fydd hi ddim yn gwneud unrhyw beth gwael eto ac yn fy ngadael i", meddai.

Fe wnaeth achos ei fam ddenu sylw yn y wasg ac fe gytunodd Ioan y dylai ei gyd-ddisgyblion yn Ysgol Bryn Alun fod yn ymwybodol o'r sefyllfa.

Er bod ambell sylw negyddol gan rai, dywedodd nad oedd gormod o "sylwadau cas" ac unwaith roedd pobl yn gwybod, "roedd pawb yn eitha' da am y sefyllfa".

Mae Ioan yn gwybod pa mor anodd y gall bywyd fod i'r to iau sydd â'u rhieni yn y carchar, ac mae o'r farn y gall y fenter newydd rhwng yr ysgolion a PACT (Prison Advice and Care Trust) helpu pobl sy'n delio â sefyllfa debyg.

Mae ei ysgol yn un o ddwy ysgol a wnaeth gydweithio gyda PACT yn Wrecsam i greu system i helpu addysgu pobl, rhwng 3 ac 16, am yr effaith y mae cael rhiant yn y carchar yn ei gael ar ddisgyblion.

Mae'r adnodd newydd yn cynnwys dau lyfr, jig-so, gêm fwrdd ac animeiddiad, gyda'r gobaith o annog plant i siarad am y sefyllfa er mwyn lleihau'r stigma a'r cywilydd y gall rhai disgyblion ei deimlo.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aimee Hutchinson bod nifer o ddisgyblion yn teimlo gormod o gywilydd i siarad am y sefyllfa

Dywedodd Aimee Hutchinson, rheolwr datblygu ansawdd plant a phobl ifanc gyda PACT, bod gan nifer o ddisgyblion sydd â rhieni yn y carchar ormod o gywilydd i siarad am y sefyllfa ac maen nhw'n ofni cael eu bwlio.

Dywedodd mai gobaith y cynllun yw "annog cyfoedion i ddeall y sefyllfa a deall yr effaith y gallai gael."

Dywedodd: "Mae poblogaeth y rheiny sydd yn y carchar ar ei uchaf erioed ac felly does dim dwywaith fod mwy o blant yn mynd i gael eu heffeithio gyda rhiant yn y carchar."

Mae Ysgol Bryn Alun ac Ysgol Gynradd Gwersyllt yn Wrecsam wedi gweithio'n agos gyda PACT i baratoi'r cynllun, a dywedodd Ms Hutchinson fod y cynllun yn cael ei gyflwyno ledled Cymru yn gyntaf fel "ffordd o ddiolch am gefnogaeth".

Y bwriad yw ei gyflwyno yn Lloegr maes o law.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Johanna Ebrey nad oes llawer o ddealltwriaeth gan athrawon o'r sefyllfa

Dywedodd Johanna Ebrey, dirprwy bugeiliol yn ysgol Bryn Alun, fod rhai o'r athrawon am dreulio diwrnod yn y carchar yn fuan er mwyn deall sefyllfa'r disgyblion pan maen nhw'n ymweld ag aelodau agos yno.

"Mae gennym sawl disgybl sydd wedi eu heffeithio wrth i aelodau o'u teulu dreulio cyfnod yn y carchar ac fel athrawon mae ein dealltwriaeth o'r sefyllfa yn fychan," meddai.

"Mae'r cyswllt gyda PACT yn hynod o ddefnyddiol i ni gael gwella ein dealltwriaeth, a thrwy hynny gefnogi'r disgyblion."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Barbara Evans fod PACT wedi gwneud "cymaint o wahaniaeth"

Dywedodd mam-gu Ioan, Barbara Evans, 69, fod y teulu cyfan mewn "sioc lwyr" pan gafodd ei merch ei charcharu, ond bod Ioan wedi ymdopi yn "anhygoel" diolch i'r gefnogaeth yn yr ysgol a'i ffrindiau.

Dywedodd fod PACT wedi gwneud "cymaint o wahaniaeth".

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, bod y cynllun yn adnodd gwerthfawr a fyddai'n helpu staff ysgol i roi cefnogaeth i blant wrth iddyn nhw gael teimladau negyddol.

Pynciau cysylltiedig