Gareth Davies: 'Cawdor' nôl yn ei gynefin
- Cyhoeddwyd
Does unman yn debyg i adra yw geiriau'r gân enwog gan Gwyneth Glyn, ac er nad yw Llangwm, Sir Benfro, yn dechnegol yn rhan o filltir sgwâr Gareth Davies... mae'n wrthgyferbyniad llwyr iddo ar ôl treulio sawl blwyddyn ym mhrysurdeb Caerdydd.
Fel pawb arall, roedd y pandemig yn gyfle i ail-brosesu ac i gymryd anadl, ac roedd hynny'n ddigon gwir i fewnwr Cymru ac roedd yr ysfa i symud yn ôl i'r Gorllewin, yn y pen-draw, yn ormod.
"O'n i'n byw yn Gaerdydd am gwpwl o flynydde, a 'nes i fwynhau hwnna ond o'n i wastad yn mynd i symud nôl i'r Gorllewin ar rhyw adeg," eglurodd. "Unwaith dechreuodd y lockdown gyda Covid 'nes i symud nôl gyda'r wejen ar y pryd a des i ddim nôl i Gaerdydd; 'nes i briodi a fi'n hapus iawn lawr 'ma.
"'Nes i joio fy amser yn byw ym Mhontcanna ac roedd lot o bois y Scarlets yn byw yn yr ardal felly roedd y bywyd cymdeithasol yn dda! Ond roedd bod yn agos i'r teulu a ffrindiau yn bwysig a dwi'n falch fel mae pethe wedi troi mas."
Meddwl am fywyd ar ôl y rygbi
Gyda rygbi a'r campau i gyd ar stop yn ystod y pandemig ac yn ymylol yn y darlun cyflawn, mi oedd y cyfnod clo yn gyfle i ffocysu'r meddwl i nifer ynglŷn â'r dyfodol.
Mae gyrfa chwaraewr proffesiynol yn hynod o fyr, a diogelwch a lles chwaraewyr yn dod yn fwyfwy i amlygrwydd. O ganlyniad i'r hisawdd economaidd sydd ohoni yn y gamp ar hyn o bryd, mae nifer cynyddol yn dechrau ac yn gorfod meddwl am gynllun wrth gefn; mae cyn-asgellwr Rygbi Caerdydd Hallam Amos wedi rhoi'r gorau i'w yrfa fel chwaraewr er mwyn canolbwyntio ar ei astudiaethau meddygol
Mae'r gŵr o Ddyffryn Teifi yn gytûn bod yna gyfrifoldeb ar chwaraewyr i ddechrau cynllunio ymlaen llaw am fywyd wedi'r maes chwarae. Un o'r opsiynau hynny yw dilyn ôl traed ei dad, Kevin, sy'n Gadeirydd Gyfarwyddwr cwmni ceir Cawdor - yr enw mae pob un o gyfoedion Gareth bellach yn ei alw!
"Fi'n credu bod chwaraewyr yn meddwl am fywyd ar ôl chwarae. Mae gyrfa chwaraewr rygbi mor fyr i gymharu â phob gyrfa arall. Mae wastod yn rhywbeth 'y ni'n trio cynllunio.
"Mae cwpwl o fusnesau gyda Dad gyda'r garej ceir a portffolio tai. Dwi'n 'neud tamed bach gyda fe ar y foment a gobeithio galla i wneud bach yn fwy yn y dyfodol agos, ac erbyn fydda i'n pennu rygbi bydda i'n mwynhau symud i'r math yna o waith."
Her gêm gynta'r Chwe Gwlad
Ond am y tro mae'r gwaith caib a rhaw dydd i ddydd yn parhau. Yr Albanwyr sy'n glanio yng Nghaerdydd ar benwythnos agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yn anelu am eu buddugoliaeth gynta yn y brifddinas ers 2002.
Dyw'r disgwyliadau i Gymru o bosib ddim yn uchel o ystyried anafiadau a thranc y rhanbarthau eleni a thros y blynyddoedd diwethaf, ond mae'r mewnwr yn mynnu fydd y pwysau i gyd ar yr ymwelwyr:
"Heb os bydd 'na bwysau arnyn nhw. Roedden nhw siŵr o fod yn siomedig â shwd wnaethon nhw yng Nghwpan y Byd a pheidio cyrraedd yr wyth ola' a'r holl sôn am y rhediad siomedig yng Nghaerdydd.
"Dyw'r flwyddyn yma ddim yn wahanol i unrhyw flwyddyn arall ac os 'y ni'n ennill y gêm gynta 'y ni'n gwybod gymaint ni'n gwella gyda'n gilydd, felly ma'r gêm gynta 'na'n anferth."
Doeth fyddai peidio amau 'Cawdor' o gwbl. Ar ôl colli ei le a derbyn sawl ergyd o dan y gyfundrefn hyfforddi flaenorol, mae'r chwaraewr wedi brwydro nôl ac yn un o'r hoelion wyth yn ystod ymgyrch Cwpan y Byd.
Ac er fod 'na bwyslais ar ieuenctid a'r genhedlaeth nesa' yn y garfan mi fydd ambell un o'r to hŷn dal yn allweddol i obeithion Cymru.
Mi fydd sylwebaeth fyw o gêm Cymru v Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2024 ar Radio Cymru ddydd Sadwrn, gyda'r rhaglen yn cychwyn am 16:00.
Hefyd o ddiddordeb: