Cyn-chwaraewr rygbi, Dafydd Jones, yn cyfaddef iddo yfed a gyrru
- Cyhoeddwyd

Cyfaddefodd Jones ei fod wedi yfed cwrw cyn y gwrthdrawiad
Mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi pledio'n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru.
Ymddangosodd Dafydd Jones, cyn-chwaraewr y Scarlets a Chymru sy'n 44 oed ac o Borth-y-rhyd, Sir Gaerfyrddin, yn Llys Ynadon Llanelli fore Mawrth.
Cafodd ei ddal gyda 71mg/100ml o alcohol yn ei system yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin ar 11 Ionawr.
Y lefel cyfreithiol yw 35mg/100ml.

Cyfaddefodd Jones ei fod wedi yfed cwrw cyn y gwrthdrawiad
Clywodd y llys fod Jones wedi cyfaddef i'r heddlu ei fod wedi bod yn yfed cwrw cyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd am tua 18:30 ar y diwrnod hwnnw.
Dywedodd ei gyfreithiwr ei fod wedi "camfarnu" ac heb gael unrhyw fwyd cyn taro i mewn i gefn tractor gyda threlar oedd "heb oleuadau".
Cafodd Jones ei wahardd rhag gyrru am 18 mis, a chafodd orchymyn i dalu cyfanswm o £1,054 mewn dirwy a chostau llys.
Os fydd yn cwblhau cwrs ymwybyddiaeth yfed a gyrru cyn Ionawr nesaf, bydd y gwaharddiad yn cael ei ostwng.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2021