A oes llygedyn o obaith i Gymru yn erbyn De Affrica?

  • Cyhoeddwyd
Cymru v De Affrica yng Nghyfres yr Hydref 2021Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Cymru o 18 i 23 yn erbyn De Affrica yng Nghyfres yr Hydref y llynedd

Her eithaf y byd rygbi sy'n wynebu Cymru'r haf hwn gyda thair gêm brawf oddi cartref yn erbyn De Affrica - pencampwyr y byd.

Does braidd neb yn disgwyl llwyddiant i Gymru ar sail eu perfformiad diwethaf - colli gartref yn erbyn Yr Eidal am y tro cyntaf erioed.

Mae De Affrica yn ffefrynnau clir cyn y prawf cyntaf yn Stadiwm Loftus Versfeld yn Pretoria ddydd Sadwrn ond oes yna lygedyn o obaith i'r Cymry?

Disgrifiad,

Mae'r prop Gareth Thomas yn "edrych ymlaen" at y gêm yn Pretoria

Chwaraewyr allweddol yn ôl yn dilyn anaf

Ar bapur bydd Cymru yn dîm cryfach na'r un a gollodd 23-18 yn erbyn De Affrica fis Tachwedd y llynedd.

Roedd Cymru heb sawl chwaraewr pwysig ar y diwrnod hwnnw pryd sgoriodd y Springboks yn hwyr i gipio buddugoliaeth.

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddangosodd Taulupe Faletau ei werth o fewn y tîm yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni

Gyda George North a Taulupe Faletau yn holliach mae gan dîm Wayne Pivac ddau chwaraewr profiadol a thalentog yn dychwelyd.

Dangosodd Faletau ei allu naturiol gyda pherfformiadau gwych ar ôl anaf yn erbyn Lloegr a Ffrainc yn y Chwe Gwlad eleni, tra bod North wedi profi ffitrwydd ac wedi perfformio'n galonogol ddiwedd y tymor i'r Gweilch.

Mae prif hyfforddwr De Affrica, Jaques Nienaber, yn cydnabod bod rhaid i'w dîm fod yn wyliadwrus o North sydd, meddai, yn chwaraewr "rhyfeddol".

Ymosod Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cyfraniad olwyr fel Josh Adams yn allweddol

Mae gan Gymru olwyr peryglus gan gynnwys rhai o'r chwaraewyr mwyaf bygythiol yn y byd gyda'r bêl yn eu dwylo.

Mae'r tri ôl - Liam Williams, Louis Rees-Zammit a Josh Adams - yn enwedig â'r gallu i ddatgloi amddiffyn ystyfnig y Springboks.

Mae gêm gicio'r tîm cartref mor gywir fel arfer ond mi fydd yna gyfle i Gymru wrthymosod ar adegau ac yn yr heulwen ar yr Highveld, bydd angen i olwyr Cymru danio a sgorio ceisiau er mwyn rhoi unrhyw obaith.

Gêm gicio'r Cymry cystal â'r Boks

Gyda'r ddwy gêm gyntaf ar ucheldir yr Highveld yn Pretoria a Bloemfontein a'r bêl yn teithio ym mhellach drwy'r aer tenau, bydd hi'n hanfodol i Gymru ennill y frwydr gicio.

Un o gryfderau pennaf Dan Biggar yw ei gicio tactegol ac mi fydd angen iddo fe geisio llywio'r chwarae a sicrhau bod Cymru'n cael sylfaen i chwarae yn hanner y gwrthwynebwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n 'beth da i fod yn nerfus' cyn gêm brawf yn erbyn tîm mor heriol, meddai Dan Biggar mewn cynhadledd newyddion yn Ne Affrica

Elton Jantjies fydd yn gwisgo'r crys rhif 10 i Dde Affrica yn y prawf cyntaf gyda Hendre Pollard yn cael gorffwys ar ôl ymuno'n hwyr â'r garfan yn dilyn ei ymdrechion diweddar i'w glwb Montpellier yn Ffrainc, ac er nad yw yn ddirprwy gwael, bydd Biggar yn sicr yn gobeithio cael y llaw uchaf.

Oes, mae yna dalcen caled yn wynebu Cymru ac ydy, mae hi yn annhebygol y gall y crysau cochion sicrhau buddugoliaeth gyntaf yn eu hanes yn erbyn y Springboks yn Ne Affrica ond mae yna resymau i beidio anobeithio'n llwyr.

Tri phrawf pendant, tri chyfle i greu hanes.

Pynciau cysylltiedig