Canlyniadau Adran Dau: Casnewydd a Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Buddugoliaeth dda i Gasnewydd ond colli oedd hanes Wrecsam yng ngemau Adran Dau ddydd Sadwrn.
Casnewydd 2-1 Swindon
Sicrhaodd Casnewydd dri phwynt gwerthfawr yn erbyn Swindon yn Rodney Parade.
Er i'r hanner cyntaf orffen yn ddi-sgôr, cafwyd llawer mwy o gyffro yn yr ail hanner gyda'r ymwelwyr yn mynd ar y blaen o fewn munudau i'r ail-gychwyn gyda gôl gan Glatzel.
Funudau'n ddiweddarach, fe wnaeth y tîm cartref unioni'r sgôr diolch i ymdrech Will Evans - ei ugeinfed gôl i'w dîm y tymor hwn.
Gyda chwarter awr o'r gêm yn weddill, fe rwydodd Palmer-Houlden gan sicrhau buddugoliaeth bwysig i Gasnewydd gan godi'r tîm o Dde Cymru i'r deuddegfed safle yn y tabl.
Salford 3-1 Wrecsam
Colli'n annisgwyl o 3-1 fu hanes Wrecsam yn erbyn Salford brynhawn Sadwrn.
Aeth y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen wedi chwarter awr o chwarae, Theo Vassell yn sgorio'r gyntaf â pheniad wedi chwe munud yn unig gydag Elliot Watt yn dyblu mantais y tîm cartref ddeng munud yn hwyrach.
Tarodd Wrecsam yn ôl drwy beniad Sam Dalby bedair munud cyn yr egwyl.
Ychwanegodd Salford at eu mantais wedi 56 munud wrth i Matt Smith daro'r bêl i gornel isa'r rhwyd.
Yn sgil y golled, mae Wrecsam wedi syrthio i'r pedwerydd safle yn yr Ail Adran.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2024