Sefyllfa ariannol Cyngor Gwynedd yn 'argyfyngus'
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod penderfyniadau anodd yn eu hwynebu, ar ôl datgelu fod angen canfod £15m o arbedion yn y flwyddyn ariannol i ddod.
Mae'r cyngor yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi digon o gyllid i awdurdodau lleol allu parhau i gynnal gwasanaethau allweddol o Ebrill ymlaen.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd y cyngor y bydd cynghorwyr yn gorfod dewis naill ai torri gwasanaethau y mae trigolion y sir yn ddibynnol arnynt, cynyddu Treth y Cyngor neu daro cydbwysedd rhwng y ddau.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi gorfod gwneud arbedion a thoriadau o £70m, ac maen nhw nawr yn wynebu darganfod £15m arall yn 2024/25.
Er bod Llywodraeth Cymru'n cydnabod y diffyg, maen nhw'n dweud nad yw Llywodraeth San Steffan wedi rhoi setliad ariannol digonol i Gymru.
Bydd cynghorwyr Gwynedd yn cytuno ar gyllideb derfynol yng nghyfarfod y cyngor llawn ar 7 Mawrth.
Mae'r cyngor yn dweud y bydd rhaid iddynt ystyried codi Treth y Cyngor 9.15% er mwyn gwarchod gwasanaethau hanfodol i drigolion Gwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd: "Yn anffodus, mae mwy o alw nag erioed am wasanaethau lleol fel gwasanaethau cymdeithasol i blant ac oedolion bregus a rhoi to uwchben y nifer gynyddol o bobl sy'n ddigartref yn y sir.
"I wneud sefyllfa ddyrys yn saith gwaeth, mae'n costio cymaint mwy i ni ddarparu'r holl wasanaethau.
£Rydym i gyd yn gwybod fod costau dydd-i-ddydd pawb - pethau fel trydan, nwy, petrol a bwyd - wedi codi'n sylweddol.
"Yn anffodus mae'r un peth yn wir i'r cyngor ond ar raddfa llawer mwy.
"Rydym wedi bod yn rhybuddio'r llywodraeth ers amser maith fod diffyg arian flwyddyn ar ôl blwyddyn yn rhoi'r gwasanaethau sydd ar gael i'n trigolion yn y fantol.
"Mae gen i wirioneddol ofn fod pethau wedi cyrraedd y pen draw a nad oes opsiwn bellach ond i dorri gwasanaethau a chynyddu'r dreth."
Ychwanegodd y Cynghorydd Ioan Thomas, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros gyllid: "Eleni, mae Cyngor Gwynedd yn un o'r ddau gyngor sy'n derbyn y swm isaf o arian gan Lywodraeth Cymru gan fod ein poblogaeth wedi gostwng yn fwy na'r un awdurdod arall yn y wlad.
"Ond mae ein costau yn parhau i fod yn uchel - er enghraifft, dydi'r ffaith fod canran fechan yn llai o blant yn mynychu ein hysgolion ddim yn ei gwneud yn rhatach i gynhesu'r ystafell ddosbarth, i redeg y bws ysgol nag i wneud yn siŵr fod adeilad yr ysgol yn gadarn a diogel.
"Fel mae pethau'n sefyll, rydym yn rhagweld fod y sefyllfa dros y ddwy flynedd nesaf yn edrych yn argyfyngus."
Rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU
Wrth ymateb fe roddodd Llywodraeth Cymru y bai ar ysgwyddau Llywodraeth San Steffan, gan ddweud nad oedden nhw "wedi darparu setliad ariannol digonol i Gymru" a bod eu cyllideb nhw yn werth £1.3bn yn llai oherwydd chwyddiant.
Dywedodd llefarydd: "Tra'r ydym wedi gwneud rhai penderfyniadau anodd i ailsiapio'n cyllideb ni, ry'n ni'n gwarchod y setliad llywodraeth leol trwy ddarparu'r cynnydd o 3.1% a addawyd y llynedd, gyda chyfraniad craidd blynyddol o £5.7bn.
"Ry'n ni'n cydnabod bod y setliad yma islaw yr hyn sydd angen i gwrdd â'r pwysau chwyddiant sy'n cael ei wynebu ar wasanaethau, a bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau anodd wrth osod eu cyllidebau.
"Mae'n bwysig eu bod yn trafod yn ystyrlon gyda'u cymunedau lleol wrth flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod."
Mae Llywodraeth y DU yn dadlau fod gan Lywodraeth Cymru y setliad ariannol mwyaf yn hanes datganoli.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Ionawr