Lluniau ddoe a heddiw: Dydd Gŵyl Dewi

  • Cyhoeddwyd
Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yng Nghaernarfon ar Fawrth 1 2024
Disgrifiad o’r llun,

Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yng Nghaernarfon ar Fawrth 1 2024

O nosweithiau llawen, i eisteddfodau a gorymdeithiau, dyma olwg ar ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf.

Dydd Gŵyl Dewi hapus a gwnewch y pethau bychain!

Ysgol y Castell, Dydd Gwyl Dewi 1929Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Gwisgo i fyny fel Cymry o'r chweched ganrif wnaeth disgyblion Ysgol y Castell, Cydweli ar 1 Mawrth 1929. Ac yn y canol, neb llai na Dewi Sant ei hun

Noson Lawen i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, Mawrth 1956Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Noson Lawen i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, Mawrth 1956. Y plant yn eu gwisgoedd traddodiadol a'r ddresel Gymreig yn addurno'r llwyfan

Plant ac athrawon Ysgol Gynradd Llanddewi-Brefi gyda Ficer y Plwyf tu allan festri'r Eglwys. c.1960Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Plant ac athrawon Ysgol Gynradd Llanddewi-Brefi gyda Ficer y Plwyf tu allan i festri'r Eglwys tua 1960

plant 1915Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ar 1 Fawrth 1915 fe aeth merched Ysgol Pontrhondda i'r ysgol yn eu gwisg Gymreig; het uchel bob un a siôl. Mae llawer o'r merched yn y llun yn gweu, tra bod merch yn y rhes flaen yn dal cwpan a soser

Grŵp o Llanddona yn Eisteddfod y Pasg Biwmares 1920 ac yn edrych yn drawiadol yn eu gwisg traddodiadolFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Grŵp o Llanddona yn Eisteddfod y Pasg Biwmares 1920 ac yn edrych yn drawiadol yn eu gwisgoedd traddodiadol

Tair Gymraes ddireidus yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Llandudno a chenhinen i bob unFfynhonnell y llun, Hulton Archive/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tair Gymraes ddireidus yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Llandudno a dwy genhinen yn llaw bob un

Chwifio'r ddraig goch i groesawu Tywysog William wnaeth rhai o blant yn Llandaf yn 1991Ffynhonnell y llun, Tim Graham Photo Library/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwifio'r ddraig goch i groesawu Tywysog William, darpar Dywysog Cymru ar y pryd, wnaeth rhai o blant yn Llandaf yn 1991

Gwisgo i fyny fel y gantores o Tiger Bay, Shirley Bassey, wnaeth un ddynes rai blynyddoedd yn ôl yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwisgo i fyny fel y gantores o Tiger Bay, Shirley Bassey, wnaeth un ddynes rai blynyddoedd yn ôl yng Nghaerdydd

cenhinenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon'... (nid yn dy geg!)

Tywysoges Cymru yn derbyn tusw o flodau gan ferch saith mlwydd oed ar Fawrth 1 yng Nghaerdydd yn 2023Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Tywysoges Cymru yn derbyn tusw o flodau gan ferch saith mlwydd oed ar 1 Mawrth yng Nghaerdydd yn 2023

Rhai o orymdeithwyr parêd Caerdydd yn chwifio baneri Dewi Sant a Chymru o flaen Neuadd y Ddinas ar Fawrth 1 2023. Roedd y gorymdeithwyr yma yn gwrthwynebu ymweliadau brenhinol â Chaerdydd ar Ddydd Gŵyl DewiFfynhonnell y llun, Wong Yat Him/SOPA Images/LightRocket/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o orymdeithwyr parêd Caerdydd yn chwifio baneri Dewi Sant a Chymru o flaen Neuadd y Ddinas ar 1 Mawrth 2023. Roedd y gorymdeithwyr yma yn gwrthwynebu'r ymweliadau brenhinol â Chaerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi

Cŵn Vizla yn teimlo yn wladgarol iawnFfynhonnell y llun, Claire Millar
Disgrifiad o’r llun,

Cŵn Vizla yn teimlo'n wladgarol iawn

Roedd baner enfawr tu allan i dafarn Penlan Fawr, Pwllheli yn 2019 lle roedd croeso cynnes am ddiod i ddathlu dydd nawddsant Cymru60562540Ffynhonnell y llun, Penlan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd baner enfawr tu allan i dafarn Penlan Fawr, Pwllheli yn 2019 lle roedd croeso cynnes am ddiod i ddathlu dydd nawddsant Cymru

Cario cwryglau Caerfyrddin ar orymdiath Gŵyl Ddewi yng Nghaerfyrddin ym mis Mawrth 2019Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Cario cwryglau Caerfyrddin ar orymdaith Gŵyl Ddewi yng Nghaerfyrddin ym mis Mawrth 2019

Parêd Gŵyl DdewiFfynhonnell y llun, Alun Lenny
Disgrifiad o’r llun,

Parêd Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn 2016

Clochwyr Y Fenni yn canu'r gloch ar Ddydd Gŵyl Dewi a pha grys gwell i wisgo na chrys rygbi Cymru?
Disgrifiad o’r llun,

Clochwyr Y Fenni yn canu'r gloch ar Ddydd Gŵyl Dewi, a pha grys gwell i wisgo na chrys rygbi Cymru?

Wytnos Cymreictod Cymru Fyw
Wytnos Cymreictod Cymru Fyw

Pynciau cysylltiedig