Lloegr fy ngwlad: 'Ymfalchïo yn fy hunaniaeth ddeuol'
- Cyhoeddwyd
"Dwi ar fy hapusa’ pan dwi mewn dinas yn Lloegr yn siarad Cymraeg. Dwi’n teimlo’n llonydd rywsut, yn ddiogel."
A hithau'n Wythnos Cymreictod ar BBC Cymru Fyw, dyma ddarn arbennig gan yr awdur a'r academydd Simon Brooks, un o Gymry Llundain, am sut mae ei fagwraeth dros y ffin wedi siapio ei hunaniaeth.
Cymro Llundain
Mae’n siŵr fod y rhan fwyaf o bobl sy’n ymddiddori mewn polisi iaith yn fy nghysylltu efo cymunedau Cymraeg.
Dwi wedi bod yn gweithio yn y maes ers dros 30 o flynyddoedd. Ar hyn o bryd, dwi’n cadeirio’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac yn byw ym Mhorthmadog. Mae fy nghefnogaeth i’r Gymraeg yng Nghymru’n ddiffuant ac yn ddiwyro.
Ond Cymro Llundain ydw i, wedi fy ngeni yn Ysbyty Gorllewin Middlesex a mynd i’r ysgol gynradd yn Hounslow.
Cymraeg yw fy mamiaith, ond collais hi’n ifanc iawn ac yna ei hail-ddysgu yn fy arddegau cynnar efo cymorth dirprwy brifathrawes fy ysgol uwchradd ger Kingston, merch un o weinidogion Capel Cymraeg Clapham.
Treuliais weddill fy arddegau yn yfed efo aelodau o Gell Llundain o Gymdeithas yr Iaith mewn tafarnau yn King’s Cross a Camden.
Roedd bywyd Cymraeg bywiog yn y 1980au ymysg ieuenctid ail genhedlaeth yn Llundain, ac roedd rhai ohonom yn ymgyrchu dros gydnabyddiaeth i’r Gymraeg fel iaith leiafrifol yn y ddinas.
Ar y pryd, doeddwn i erioed wedi byw yng Nghymru.
'Dwy hunaniaeth'
Mae gen i hunaniaeth y bydd cymdeithasegwyr yn cyfeirio ati fel ‘hunaniaeth ddeuol’. Dwy hunaniaeth sy’n ymddangos ar yr olwg gyntaf fel tasen nhw’n groes i’w gilydd ond sydd wedi ymsefydlu oddi mewn i’r un unigolyn.
Mae hunaniaeth ddeuol yn gyffredin ymysg plant mewnfudwyr: y naill hunaniaeth yn gysylltiedig â gwlad eu magwraeth, a’r llall yn deillio’n rhannol o wlad eu rhieni.
Felly, dwi’n ymfalchïo fod fy rhieni, fy neiniau a theidiau, a’m teulu i gyd, o Gymru. Ond dwi’n gwybod fy mod o Loegr fy hun. Dwi’n rhannu llawer o nodweddion diwylliannol Cymry Cymraeg, ond mae fy mydolwg wedi’i siapio gan fy magwraeth mewn lleiafrif yn Llundain.
Hunaniaeth hybrid sydd gen i. Yn Saesneg, fydda i byth yn cyfeirio ata’i fy hun fel ‘Welsh’ oherwydd dydw i ddim o Gymru, ond mae ‘London Welsh’ yn iawn. Yn y Gymraeg, fel dywedodd un Gymraes Lerpwl wrtha i, 'Cymry ydyn ni am ein bod yn siarad Cymraeg'.
Byddwn i’n tybio fod oddeutu 10,000 o bobl yn dod o gefndir felly – Cymry Cymraeg sydd wedi’u geni yn Lloegr a’u magu yno ar aelwydydd Cymraeg.
Mae llawer o’r rhain wedi symud i fyw i Gymru fel gwnes i. Ond mae’r rhan fwyaf yn Lloegr o hyd.
Y Cymry dros y ffin
Ar hyn o bryd, dwi’n ysgrifennu llyfr am y Cymry hyn. Mae pob unigolyn yn wahanol ond gallwch chi weld rhai patrymau cyffredin.
Maen nhw’n falch iawn o’u treftadaeth Gymreig ac yn wirioneddol hoff o Gymru. Ond maen nhw’n driw hefyd i’w cymunedau yn Lloegr – yn gefnogol iawn i’r tîm pêl-droed lleol, er enghraifft – ac wrth gwrs maen nhw’n siarad Saesneg efo acen Seisnig.
Mae rhuglder yn y Gymraeg yn amrywio. Ceir rhai sy’n deall yr iaith ond ddim yn gallu ei siarad. Mae yna lawer sy’n semi-speakers, yn medru peth Cymraeg.
Mae eraill yn rhugl ond heb ddefnyddio Cymraeg ers degawdau: does ganddyn nhw neb i siarad Cymraeg efo nhw.
Mae llawer wedi colli’r iaith oherwydd gwrthwynebiad yr ysgol leol neu weithwyr iechyd, neu oherwydd pwysau cymdeithasol yn gyffredinol. Yn yr ysgol gynradd mae plant yn sylwi nad oes neb arall yn siarad Cymraeg, ac yn dechrau cyfarch eu rhieni mewn Saesneg.
Ond mae eraill yn byw eu bywydau cymdeithasol i gyd bron drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn haws mewn rhannau o Loegr lle mae bywyd Cymraeg trefnedig, fel yng Nghroesoswallt, de Lerpwl, maestrefi Llundain, ac mewn rhai o’r dinasoedd mawrion.
At ei gilydd, mae’r Gymraeg yn darfod yn yr ail genhedlaeth, ond weithiau mae’n parhau hyd y drydedd, ac mae Cymry pedwaredd a phumed genhedlaeth ar Lannau Mersi.
Dwi ddim yn teimlo fod neb yn gofalu am fuddiannau Cymry ail genhedlaeth o Loegr. Does dim cydnabyddiaeth i’r grŵp, nac yng Nghymru na Lloegr. Does yna neb yn lleisio ar ein rhan.
Dylai Cymreictod yr ail genhedlaeth gael ei gydnabod fel rhan o amlddiwylliannedd Lloegr, a dylai fod modd i Gymry yn Lloegr gyfrannu i’r bywyd Cymraeg yng Nghymru heb fod gwaharddiadau rhag cymryd rhan.
Balchder
Mae siarad efo Cymry o Loegr wedi bod yn help garw i mi sylweddoli fod fy hunaniaeth ddeuol yn ‘normal’. Fel plentyn, roedd gen i gymaint o gywilydd fy mod yn cael fy magu yn Lloegr, fod gen i acen Seisnig, fod safon fy Nghymraeg mor sâl, a bod pobl yn fy ngwatwar oherwydd fy nghefndir.
‘Where are you really from?’ oedd hi yn Lloegr, a phobl yng Nghymru yn dweud wrthych chi eich bod yn Sais.
Erbyn hyn, dwi’n falch o hynny i gyd. Yn falch fy mod yn Gymraeg ac yn falch fy mod o Loegr.
Dwi’n mynd adra i Loegr ar y penwythnos yn aml. Pan dwi yno, yr unig beth dwi’n ei wneud ydi mynd i gyfarfod o gymdeithas Gymreig leol. Dwi ar fy hapusa’ pan dwi mewn dinas yn Lloegr yn siarad Cymraeg. Dwi’n teimlo’n llonydd rywsut, yn ddiogel.
Ar ôl y rebel wîcend, bydda’i nôl ym Mhorthmadog yn gweithio dros gymunedau Cymraeg Cymru.
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd8 Chwefror