Gofalwyr di-dâl yn 'arbed biliynau' i gyrff cyhoeddus Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gweithdy crefft yng Nghanolfan Hermon ar gyfer gofalwyr
Disgrifiad o’r llun,

Gweithdy crefft yng Nghanolfan Hermon ar gyfer gofalwyr

Byddai problemau ariannol mawr yn wynebu cynghorau sir a byrddau iechyd Cymru heb waith ofalwyr di-dâl, yn ôl cysylltydd cymunedol gogledd-ddwyrain Sir Benfro.

Dywedodd Nia George o Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol y sir nad yw gofalwyr di-dâl wastad yn cael eu cydnabod, gan rybuddio y byddai "problemau difrifol" mewn cymunedau pe bydden nhw'n rhoi'r gorau i'w hymdrechion.

Gyda Chyngor Cymuned Crymych wedi sicrhau cyllid ar gyfer gweithgareddau am ddim i ofalwyr di-dâl yng ngogledd Sir Benfro, y gobaith yw eu cefnogi yn lleol, ynghyd â'r rhai maent yn gofalu amdanynt.

"Wrth ymchwilio i ddechrau'r prosiect 'ma, ni 'di dod o hyd i restr sy'n dweud bod dros 100 o ofalwyr yn yr ardal hon [a] rheina yw'r bobl ry'n ni'n gwybod amdanyn nhw," meddai Nia George.

"Mae 'na fwy o bobl mas 'na sydd falle yn ddiweddar wedi cymryd 'mla'n y rôl o ofalu a falle dy'n nhw ddim hyd yn oed wedi rhoi eu henw ymlaen i gael y sylw hynny…

"Be' dwi'n gweld lot yw pobl yn gofalu am ŵr neu gwraig, mam neu thad neu blentyn a maen nhw'n meddwl mai dyna'u rôl nhw. Chi'n gwybod - 'Mam yw e, mae'n ddyletswydd arna' i…'

Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o bobl sy'n gofalu am anwyliaid yn ei weld fel dyletswydd, medd Nia George

"Mae'r ystadegau yn frawychus - y ffigwr mae gofalwyr di-dâl yn arbed i'r cynghorau sir a'r byrddau iechyd.

"Pe bai gofalwyr, ar y cyd, yn dweud, 'ni'n methu gwneud hyn rhagor', mi fyddai problem ddifrifol yn ein cymunedau."

Seibiant, gweithgareddau a gwybodaeth

Mae'r prosiect sy'n cael ei gydlynu gan Gyngor Cymuned Crymych a Gofal Preseli yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau bob pythefnos i ofalwyr di-dâl ynghyd â'r rheiny maent yn gofalu amdanynt, a hynny mewn lleoliadau ar wahân ond cyfagos.

Wedi'u lleoli yng Nghanolfan Hermon ac Y Stiwdio ar foreau Mawrth, y bwriad yw annog pobl i gymryd seibiant, rhannu profiadau a mwynhau gweithgareddau ymlaciol, a hynny dros gyfnod o dri mis.

Mae stondinau hefyd yn rhan o'r sesiynau sy'n rhannu gwybodaeth am wasanaethau a chymorth lleol, ynghyd â chinio am ddim, diolch i grant o £3,500.

Disgrifiad o’r llun,

Un sy'n croesawu'r cynllun yw Anna Latosinski, sy'n gofalu am ei gŵr Stan

Yn ôl pâr lleol a fynychodd y sesiwn gyntaf yn Hermon, mae'r sesiynau "yn syniad arbennig".

"Mae cyn lleied o bethau'n cael eu cynnal i ofalwyr a rheiny sy'n cael eu gofalu amdanynt," meddai Anna Latosinski o Hermon, sy'n gofalu am ei gŵr Stan.

"Dwi'n gweld gweithgareddau i ofalwyr, ond pwy sy'n mynd i ofalu am Stan? Dw'i ddim yn mynd allan, heblaw cerdded y ci."

Wrth ddisgrifio'r prosiect tri mis o hyd, ychwanegodd: "Dwi'n credu bod angen mwy o sesiynau.

"Mae [gofalu] fel rhan anghofiedig o gymdeithas. Ni'n gofalu, ac mae'n arbed arian i'r llywodraeth…

"Rwy'n meddwl ei fod e'n wych bod grant ar gael, ond rwy'n meddwl y dylai rhywbeth fod yno i ni am fwy o'r amser."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bryder i Meinir Jenkins bod dim digon o ofalwyr yn y gymuned i allu rhyddhau cleifion fel ei mam o'r ysbyty yn gynt

Dwy arall sy'n gweld gwerth i'r sesiynau yw Meinir Jenkins o Efail-wen a'i mam.

"Cw'mpodd fy mam i haf llynedd a fuodd hi yn yr ysbyty am bum mis a hanner," meddai.

"Nawr mae hi wedi dod nôl i fyw aton ni fel teulu.

"Dim bod mam yn ffwdanus o gwbl ond mae hi yn y tŷ drwy'r dydd, felly mae mynd i rywbeth fel hyn yn siawns i ddod mas, iddi hi gael cwrdd â phobl arall ac i fi gael cwrdd â phobl arall.

"S'dim digon o carers ar gael i ddod mas i'r gymuned. Ro'dd mam yn yr ysbyty am bron i chwe mis achos doedd dim carers ar gael iddi ddod adref.

"Os fydden ni'n dal i aros am carers, bydde hi dal i fod yn yr ysbyty."

Arbed £10.6bn y flwyddyn

Yn ôl adroddiad diweddaraf elusen Carers Wales, mae yna amcangyfrif bod 450,000 o bobl yn ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Mae ymchwil hefyd yn dangos fod hyn yn arbed £10.6bn i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn - gyda'r cyfanswm ariannol yma wedi cynyddu'n aruthrol dros y degawd diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwerthfawrogi'r rôl hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae yn ein cymunedau ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cefnogaeth yn parhau i fod ar gael.

"Ers 2022, rydym wedi buddsoddi £42m i ddarparu cymorth i ofalwyr di-dâl.

"Mae hyn yn cynnwys Cynllun Seibiannau Byr gwerth £9m i alluogi gofalwyr i gael seibiant o'u rôl ofalu a'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr sydd wedi helpu dros 24,000 o ofalwyr i gael cymorth a gwasanaethau ariannol.

"Rydym yn parhau i hyrwyddo pwysigrwydd pobl sy'n nodi eu bod yn ofalwyr ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i helpu mwy o ofalwyr i gael cyngor a chefnogaeth, gan gynnwys eu hawl i asesiad anghenion gofalwr."

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Cris Tomos yw y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i ardal ehangach

Gobaith Cyngor Cymuned Crymych a Gofal Preseli, sy'n cydlynu'r cynllun yn Hermon, yw y bydd y prosiect yn arwain at ddatblygiadau pellach.

"Mae'n bwysig bod yna gefnogaeth barhaol yna iddyn nhw," meddai cadeirydd Cyngor Cymuned Crymych, Cris Tomos.

"Gobeithio bydd y peilot yma sydd gyda ni yng ngogledd Sir Benfro yn cael ei ledaenu ar draws Sir Benfro a thu hwnt."