Tafarn eiconig yn chwilio am staff yn Sain Ffagan
- Cyhoeddwyd
![Tafarn y Vulcan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D15D/production/_132579535_ba2b7dea-be7b-4a84-92d4-ac97ae172691.jpg)
Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio y bydd y Vulcan yn agor yn Sain Ffagan erbyn yr haf
Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am bobl sy'n fodlon teithio nôl mewn amser i weithio yn un o dafarndai mwyaf eiconig Caerdydd.
Cafodd tafarn y Vulcan yn ardal Waunadda'r brifddinas ei dymchwel yn 2012 a'i symud i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Nod yr amgueddfa yw codi adeilad sy'n adlewyrchu sut byddai'r dafarn wedi edrych a theimlo yn 1915 - a hynny gan ddefnyddio cynlluniau'r pensaer o'r cyfnod.
Mae'r amgueddfa'n gobeithio agor y dafarn yn yr haf, gan werthu bwyd a diod sy'n gweddu i'r cyfnod, ac maen nhw bellach yn chwilio am staff i weithio ar y safle.
Dau dŷ teras bach oedd y Vulcan yn wreiddiol, cyn i'r waliau gael eu dymchwel i greu un adeilad mwy.
Cafodd ei chofrestru fel 'tŷ cwrw' am y tro cyntaf yn 1853, ond cafodd gwaith adnewyddu sylweddol ei gynnal ym 1915 - a dyna pryd cafodd y teils eu gosod ar flaen yr adeilad, yn dangos yr enw newydd.
![Vulcan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1355E/production/_110589197_vulcan466pa.jpg)
Fe wnaeth tafarn y Vulcan gau yn 2012 ar ôl bod ar agor ers bron i 160 o flynyddoedd
Wedi troad y ganrif roedd bygythiad cyson y gallai'r adeilad gael ei ddymchwel, ac yn 2009 pan roedd perygl gwirionedd y byddai hynny'n digwydd fe wnaeth dros 5,000 o bobl lofnodi deiseb yn galw am ei ddiogelu.
Ond ym mis Mai 2012 fe wnaeth y bragwyr SA Brain gau'r dafarn, gan ddweud nad oedd dyfodol masnachol iddi.
Cafodd yr adeilad ei gynnig yn ffurfiol i Amgueddfa Cymru'r flwyddyn honno, ac ers hynny mae'r gwaith o ddatgymalu ac ail-adeiladu'r Vulcan ar dir Sain Ffagan wedi bod yn mynd rhagddo.
Mae'r amgueddfa yn chwilio am oruchwylydd bwyd a diod a gweithwyr bar i weithio yn y Vulcan, a'r dyddiad cau os am geisio am un o'r swyddi hynny yw 19 Chwefror.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012
- Cyhoeddwyd30 Awst 2023