Pen-blwydd hapus Emma Walford yn 50!
- Cyhoeddwyd

Mae Emma Walford yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn llais cyfarwydd ar y radio, ac yn berfformwraig adnabyddus ar lwyfan.
Dros y 25 mlynedd diwethaf mae hi wedi perfformio gyda'r band Eden, actio mewn cyfresi comedi i blant, bod yn feirniad ar Wawffactor a chyflwyno rhaglenni fel Casa Dudley, Pryd o Sêr, Wedi 3, Heno, Priodas Pum Mil a Prosiect Pum Mil.
Ers mis Tachwedd 2020 mae hi'n cyd-gyflwyno rhaglen boblogaidd ar BBC Radio Cymru gyda Trystan Ellis-Morris.
Heddiw, mae hi'n dathlu ei phen-blwydd yn 50, felly dyma ambell lun o'r ferch o Abergele.

Emma yn un o'r prif rannau yn sioe ieuenctid yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy yn 1989, gyda Gwynedd Parry

Emma a Gwynedd yn ystod eu hymddangosiad ar Noson Lawen ar S4C

Emma, Non a Rachael a'r record hynod boblogaidd o 1997

Roedd Emma'n rhan o'r cast yn y gyfres boblogaidd i blant, Hotel Eddie, ar ddiwedd y 90au

Rhaglen arall i blant ble'r oedd gan Emma ran flaenllaw oedd Ysbyty Hospital yn 2014

Ond mae'n debyg mai'r rhaglen fwyaf adnabyddus i Emma fod yn rhan ohoni yw Priodas Pum Mil. Mae Emma wedi cyflwyno'r gyfres boblogaidd ar S4C gyda Trystan Ellis-Morris ers 2016

Fe ail-ffurfiodd Eden ychydig flynyddoedd yn ôl gan ddenu cynulleidfaoedd brwdfrydig ledled Cymru

Fe berfformiodd Eden ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Sir Fynwy, 2016

Emma ac Eden yn perfformio gyda Bwncath yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, Awst 2023. Roedd hyd at 11,000 o bobl yno'r noson honno

Mae Trystan ac Emma'n rhaglen boblogaidd ar Radio Cymru sydd yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener rhwng 9 a 11

Emma gyda'i phartner ar sgrîn a radio, Trystan Ellis-Morris, yng ngwobrau Bafta Cymru, 15 Hydref 2023

Emma'n mynd am dro gyda'i chi, Lili
Pen-blwydd hapus, Emma!
Hefyd o ddiddordeb: