Caerdydd yn dod i gytundeb gydag asiant Emiliano Sala
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi dod i gytundeb y tu allan i'r llys gydag asiant Emiliano Sala dros ryddhau dogfennau a negeseuon yn ymwneud â throsglwyddiad y chwaraewr o Nantes.
Fe ddaw y cytundeb gyda'r asiant pêl-droed Willie McKay ar ôl iddo ef a'i fab Mark drefnu hediad preifat, di-drwydded ar gyfer yr Archentwr ym mis Ionawr 2019.
Bu farw Sala a'r peilot David Ibbotson mewn damwain awyren wrth deithio o Ffrainc i ymuno â'i glwb newydd yng Nghymru.
Roedd achos sifil gan y clwb pêl-droed yn erbyn Mr McKay, oedd yn ymwneud â'u camau cyfreithiol yn erbyn clwb Nantes, i fod i gael ei glywed yng Nghaerdydd ddydd Iau ond cafodd yr achos ei ddiddymu ddydd Mercher.
Esboniodd llefarydd ar ran Capital Law, cyfreithwyr clwb Caerdydd: "Daeth y clwb ag achos yn erbyn McKay am ddatgelu ei ddogfennau a'i e-negeseuon.
"Daethpwyd i gytundeb ar hyn, felly nid oedd angen y gwrandawiad. Mae telerau'r cytundeb yn gyfrinachol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023