Caerdydd 'wedi ceisio yswirio Sala y dydd ar ôl iddo farw'

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emiliano Sala ychydig ar ôl iddo arwyddo cytundeb gyda chlwb Caerdydd

Ceisiodd Clwb Pêl-droed Caerdydd yswirio'r chwaraewr Emiliano Sala ddiwrnod wedi iddo gael ei ladd mewn damwain awyren, yn ôl dogfennau yn yr Uchel Lys.

Fe wnaeth yr ymosodwr 28 oed o'r Ariannin ymuno â Chaerdydd o Nantes yn Ionawr 2019, am £15m - y swm uchaf erioed i'r Adar Gleision dalu am chwaraewr.

Ond bu farw pan blymiodd yr awyren i'r môr wrth hedfan o Ffrainc i Gaerdydd.

Mae'r clwb yn gwadu ceisio ei yswirio ar ôl y ddamwain, gan ddweud ei fod yn "deall gan y brocer" bod chwaraewyr wedi eu hyswirio wrth iddynt arwyddo, a bod yr achos yn deillio o ddysgu nad oedd hynny'n wir.

Mae penaethiaid y clwb yn ceisio sicrhau iawndal o dros £10m yn yr Uchel Lys, gan gwmni broceriaid yswiriant Miller Insurance LLP, dros farwolaeth y chwaraewr.

Ond dywed y cwmni yswiriant fod y clwb wedi methu ag yswirio Mr Sala cyn i'r ddamwain ddigwydd, ac maen nhw'n gwrthod talu.

Clwb yn 'hollol ymwybodol'

Mae'r clwb yn honni nad oedd y cwmni wedi dweud wrthyn nhw na fyddai'r yswiriant yn ddilys os nad oedd y cwmni wedi cael gwybod mewn da bryd am unrhyw chwaraewyr newydd oedd wedi cael eu harwyddo ganddynt, megis y blaenwr newydd.

Ond yn ôl cyfreithwyr ar ran y broceriaid, nid eu lle nhw oedd mynd ar ôl y clwb i wneud yn saff bod chwaraewyr newydd wedi cael eu hyswirio, a bod Caerdydd yn "hollol ymwybodol" nad oedd Sala wedi'i yswirio.

Dywedodd Alistair Schaff KC wrth yr Uchel Lys fod clwb Caerdydd wedi cysylltu gyda'r cwmni yswiriant ynglŷn â Sala ar 22 Ionawr, 2019 - y bore ar ôl i'r awyren fynd ar goll ger ynys Alderney ym Môr Udd.

Ffynhonnell y llun, AAIB/PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Emiliano Sala ei dynnu o weddillion yr awyren ar waelod Môr Udd

Dywed Mr Schaff fod y clwb wedi cysylltu trwy e-bost yn ceisio yswirio Sala am £20m, ond mae'r cwmni'n mynnu nad oes arnyn nhw ddim arian i Gaerdydd.

Ar ran y clwb, dywedodd David Phillips KC eu bod yn disgwyl cofnodi eu hymateb i'r Uchel Lys yn Llundain yn fuan.

Mewn datganiad ddydd Iau, ychwanegodd y clwb nad oedd wedi ceisio yswirio Mr Sala ar ôl y digwyddiad, a bod "staff y clwb yn deall gan y brocer bod pob chwaraewr wedi ei yswirio o'r foment yr oeddent yn arwyddo, ac mae'r achos yn deillio o ddysgu nad oedd hynny'n wir".

Yn 2022 cafodd David Henderson, 67, ei garcharu am 18 mis am drefnu'r daith awyren a chyflogi David Ibbotson fel peilot er nad oedd yn gymwys ar gyfer yr hediad.

Cafwyd hyd i gorff Emiliano Sala yn dilyn ymgyrch breifat i ganfod yr awyren yn y môr, ond ddaeth corff Mr Ibbotson byth i'r fei.

Pynciau cysylltiedig