Carcharu dyn wedi ymosodiad gan gi ym Mhwllheli

  • Cyhoeddwyd
Luke EvansFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Luke Evans ei garcharu am 15 mis ar ôl i'w gi frathu wyneb dyn ym Mhwllheli

Mae dyn o Flaenau Ffestiniog wedi cael ei garcharu am gyfanswm o 15 mis ar ôl i'w gi ymosod ar ddyn ym Mhwllheli.

Roedd Luke Evans yn feddw pan wnaeth ei gi frathu dyn oedd yn ceisio ei helpu yn ei wyneb ar 5 Medi 2023.

Cafodd Evans, 30, ei garcharu am flwyddyn ar ôl cyfaddef bod yn berchen ar gi oedd yn beryglus allan o reolaeth.

Dywedodd yr erlyniad fod y ci, a gafodd ei gymryd oddi ar Evans ar ôl ymosod ar Huw Hickey, yn debygol o fod yn Bully XL, ond ni chafodd asesiad ei gynnal ar y pryd i sefydlu'r brîd yn bendant.

Mae'r barnwr wedi gofyn am asesiad cyn iddo benderfynu ar dynged y ci.

Roedd perchnogaeth Evans o'r anifail hefyd yn mynd yn groes i waharddiad pum mlynedd a wnaed yn 2018, pan oedd ganddo gi peryglus arall.

Mân anafiadau yn 'lwc pur'

Fe wnaeth y Cofiadur Wyn Lloyd Jones wahardd Evans rhag cael ci ar ôl clywed mai hwn oedd y trydydd achos ci peryglus yn ymwneud ag ef.

Fe ddedfrydodd Evans i dri mis ychwanegol o garchar am dorri gorchymyn cymunedol.

Dywedodd y barnwr wrtho yn y Llys y Goron Caernarfon: "Dylech fod â chywilydd llwyr o'ch hun am bopeth a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw."

Yn ôl Rosemary Proctor ar ran yr amddiffyn, mae trafferthion Evans gydag alcohol yn "ddwfn", ond mae "rhai arwyddion cadarnhaol" ei fod yn dechrau newid ei fywyd.

Dywedodd y Cofiadur Lloyd Jones fod y ci, oedd ddim ar dennyn, wedi achosi mân anafiadau i Mr Hickey.

"Rwy'n gwbl fodlon mai lwc pur na chafodd anafiadau difrifol o ganlyniad i'r ymosodiad," meddai'r barnwr. "Fe allai fod wedi bod yn llawer gwaeth."