Ateb canllawiau newydd ar gŵn Bully XL yn 'straen'

  • Cyhoeddwyd
XL BullyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er mwyn cadw cŵn Bully XL Americanaidd mae'n rhaid cael trwydded a sicrhau bod y cŵn yn gwisgo ffrwyn ac ar dennyn mewn mannau cyhoeddus

O ddydd Iau ymlaen mae gwaharddiad wedi ei gyflwyno ar gadw cŵn Bully XL yng Nghymru a Lloegr.

Bellach, er mwyn eu cadw mae'n rhaid cael trwydded a sicrhau bod y cŵn yn gwisgo ffrwyn ac ar dennyn mewn mannau cyhoeddus.

Daw hyn ar ôl i'r anifeiliaid gael eu hychwanegu at restr o gŵn peryglus ar ôl nifer o ymosodiadau, gyda rhai pobl wedi cael eu lladd.

Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'r gwaharddiad yn amddiffyn pobl yn sgil yr hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel "nifer anghymesur o ymosodiadau".

'Wedi bod reit stressful'

Un perchennog sydd wedi dilyn y canllawiau a sicrhau tystysgrif er mwyn cadw ei chi ydy Elliw Hughes o Benrhyndeudraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Elliw Hughes a'i chi, Storm

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd fod y broses o sicrhau trwydded i'w Bully XL, Storm, wedi bod yn "stressful" ond ei bod wedi cymryd y camau angenrheidiol cyn i'r gwaharddiad ddod i rym.

"Dwi 'di bod yn muzzle trainio fo. Pan ges i o [Storm] do'n i'm yn gorfod gwneud llawer o training hefo fo oherwydd oedd o jyst mor dda yn gwrando ac yn gwneud bob dim yn syth," meddai.

"Mae o wedi bod reit stressful i Storm hefo'r muzzle - mae o wedi bod yn trio ei gnoi o a ballu a 'da chi'n gorfod reassurio fo 'na', a mae o'n gwrando a dwi finally wedi cael i'r pwynt dwi'n cael cau'r muzzle arno rŵan.

"Y step nesa ydi mynd a fo allan.

"Dwi'n proud iawn o Storm - dydy o erioed wedi brifo neb, mae o wrth ei fodd hefo plant.

"Mae merch chwaer fi yn dair oed ac maen nhw'n best buds, mae o'n brilliant o gi all round."

Dim rheswm i bobl edrych yn gas

Ond dywedodd fod pobl yn syllu arnyn nhw pan yn cerdded o gwmpas yr ardal.

"Y looks 'da ni'n gael... dwi'n ignorio fo am fod ni'n gwneud dim yn wrong.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Elliw Hughes: "Dwi'n proud iawn o Storm - dydy o erioed wedi brifo neb, mae o wrth ei fodd hefo plant"

"Dwi 'di gwneud yr exemption. Mae o wedi cael eu neutrio ac yn muzzle trained. Does dim rheswm i bobl roi dirty looks i fi.

"Ond dwi'n deall pam fod pobl yn poeni achos mae rhai pobl yn defnyddio cŵn nhw fel weapons neu'n trin nhw'n horrible, ac maen nhw'n troi wedyn."

Cŵn Bully XL yw'r pumed brîd i gael eu cyfyngu o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991, gyda'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am dystysgrif eithrio wedi dod i ben ddydd Mercher.

Gall yr heddlu nawr atafaelu cŵn gwaharddedig sydd heb eu cofrestru ac mae perchnogion yn wynebu cofnod troseddol a dirwy ddiderfyn.

Does dim ystadegau swyddogol am faint o gŵn Bully XL sydd yn y DU, ond dywedodd yr RSPCA fod amcangyfrifon yn amrywio rhwng 40,000 a 100,000.

Yn y cyfnod cyn y dyddiad cau, dywedodd Llywodraeth y DU fod mwy na 30,000 o geisiadau eithrio wedi dod i law, gan ychwanegu eu bod wedi comisiynu adolygiad ar berchnogaeth cŵn cyfrifol.

Pynciau cysylltiedig