Ffliw adar yn cael effaith ddinistriol ar adar y môr
- Cyhoeddwyd
Mae'r RSPB yn rhybuddio bod y ffliw adar yn cael effaith ddinistriol ar boblogaeth adar y môr o amgylch Cymru.
Gostyngodd nifer nythod y fulfran wen (gannet) ar Ynys Gwales yn Sir Benfro o 34,491 yn 2022, i 16,482 y llynedd.
Dyma brif nythfa y mulfrain gwyn yng Nghymru, ac ar un adeg dyma oedd y bedwaredd nythfa fwyaf yn y byd, gyda 10% o'r adar yn nythu yng Nghymru dros yr haf.
Mae'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau y mae'r ffliw adar wedi effeithio arnynt i ffwrdd ar y môr dros y gaeaf.
Dywed Llywodraeth Cymru nad oes achosion o ffliw ymhlith adar gwyllt ar hyn o bryd ond eu bod yn cadw golwg ar y sefyllfa.
Mae'r adroddiad newydd gan yr RSPB yn ceisio mesur effaith Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) ar adar môr y DU.
Mae'r adroddiad yn dweud bod y fulfran wen, môr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid pigddu ymhlith yr 11 rhywogaeth oedd ar gynnydd yng Nghymru cyn yr achos mawr cyntaf o HPAI yn 2021.
Yn achos y fulfran wen, gostyngodd y niferoedd ar Ynys Gwales fwy na 50% rhwng 2022 a 2023.
'Dadwneud 50 mlynedd o dwf'
Dywedodd Julian Hughes, pennaeth rhywogaethau RSPB Cymru: "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod Gwales bellach yn ôl i'r hyn yr oedd yn 1969.
"Mewn un flwyddyn, mae HPAI wedi dadwneud mwy na 50 mlynedd o dwf."
Mae bron pob un o fôr-wenoliaid pigddu (sandwich tern) Cymru yn nythu yng Nghemlyn ar Ynys Môn.
Mae ffigyrau Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn dangos bod rhwng 2,200 a 2,400 o nythod yno yn 2022. Y llynedd, roedd y nifer wedi gostwng i 1,100.
Ar y cyfan, mae nifer y môr-wenoliaid cyffredin (common tern) a'r môr-wenoliaid pigddu yng Nghymru wedi gostwng mwy na 40%, yn ôl yr RSPB.
Mae niferoedd y gwylanod penddu (black-headed gull) - a oedd ar y rhestr goch cyn ffliw'r adar - wedi gostwng 77% yng Nghymru ers y cyfrifiad manwl diwethaf.
Roedd rhywogaethau eraill, fel yr wylan goesddu (kittiwake gull) a gwylan y penwaig (herring-gull) eisoes yn prinhau oherwydd bygythiadau eraill sy'n wynebu adar y môr - ffermydd gwynt môr a newid hinsawdd - ac mae'r tuedd hynny wedi parhau, meddai'r elusen.
Mae Julian Hughes yn dweud bod yr adroddiad yn dangos faint o adar sydd wedi'u colli yng Nghymru, ac mai ffliw adar sy'n debygol o fod yn gyfrifol.
"Mae adar y môr yn byw am gyfnodau hir ond gan e bod ond yn dodwy un neu ddau gyw y flwyddyn mae'r ffliw adar yn debygol o effeithio ar y niferoedd am flynyddoedd i ddod," meddai.
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai eu nod yw cyflwyno strategaeth gadwraeth ar gyfer adar y môr.
"Mae'r strategaeth yn dod yn ei blaen yn dda ac yn cael ei llunio ar y cyd â'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (British Trust for Ornithology) a'r RSPB.
"Bydd yn dangos i ni sut mae sicrhau bod ein hadar môr yn gwrthsefyll ffliw adar yn ogystal ag argyfyngau hinsawdd a natur."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023