Cynnig trafod â ffermwyr wedi cyfarfod tanllyd Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Miloedd ym mart Caerfyrddin nos Iau, 8 Chwefror
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 3,000 o bobl o fyd amaeth mewn cyfarfod tanllyd ym mart Caerfyrddin nos Iau, 8 Chwefror

Mae trefnwyr cyfarfod cyhoeddus enfawr a ddenodd miloedd o ffermwyr yng Nghaerfyrddin wedi datgelu eu bod wedi cael cynnig cyfarfod gyda'r llywodraeth.

Roedd tua 3,000 o ffermwyr a phobl yn ymwneud â'r byd amaeth yn rhan o gyfarfod tanllyd union wythnos yn ôl ym mart y dref.

Roedden nhw yna, yn ôl un o'r trefnwyr, mewn ymateb i "un argyfwng ar ôl y llall ym myd amaeth".

Yn ystod y cyfarfod roedd yna gefnogaeth unfrydol i gynnig yn rhoi mandad i'r trefnwyr drafod pryderon y sector yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru.

Mewn fideo ar wefan Facebook, o dan y teitl "Digon yw Digon" dywedodd Gary Howells ac Aled Rees eu bod wedi derbyn y cynnig i drafod gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Mae'r ddau wedi annog ffermwyr i "gadw'r heddwch ac ymddwyn yn gyfrifol" ac i "gadw unrhyw weithredu o fewn terfynau'r cyfarfod".

Dyw union fanylion y cyfarfod heb gael eu cyhoeddi, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'r cynnig i drafod.

Pynciau cysylltiedig