Ffermwyr yn protestio'n erbyn y llywodraeth ar yr A48
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr wedi cynnal protest ar ffordd brysuraf Sir Gâr er mwyn dangos anfodlonrwydd gyda'r hyn maen nhw'n eu galw'n sawl "argyfwng" o fewn y sector amaeth.
Roedd nifer o gerbydau a thractorau wedi bod yn gyrru'n araf, ar gyflymder o ryw saith cilomedr yr awr, ar yr A48 gan deithio o gylchdro Pensarn, Caerfyrddin i gyfeiriad Cross Hands.
Dywedodd ein gohebydd ar y safle bod o leiaf 100 o gerbydau'n cymryd rhan.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae grwpiau ffermwyr wedi honni bod gwleidyddion ym Mae Caerdydd wedi troi cefn ar gefn gwlad.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod eu cynlluniau wedi'u "datblygu gyda ffermwyr", ac maen nhw'n annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sydd ar agor tan 7 Mawrth.
Daeth tua 3,000 o ffermwyr a phobl sydd ynghlwm â'r byd amaeth i gyfarfod tanllyd yng Nghaerfyrddin ar 8 Chwefror.
Ymhlith y materion sy'n poeni amaethwyr mae'r cynllun i ariannu ffermwyr ar ôl Brexit, gofynion amgylcheddol newydd gan y llywodraeth ac achosion o TB mewn gwartheg.
'Ni gyd yn llefen'
Ymhlith y protestwyr roedd y teulu Roberts sy'n ffermio yn Llangynin, a hynny'n "fater o raid", yn ôl Adrian Roberts.
Dywedodd bod penderfyniadau'r llywodraeth "yn rhoi pwysau arnon ni fel amaethwyr a 'di o'm yn dderbyniol o gwbl".
"Y'n ni gyd yn llefen yma - ddim yn gweiddi ac yn sgrechian, ond yn llefen ar y funud achos y'n ni'n poeni gymaint am y dyfodol ac am ein busnesa'," dywedodd ei wraig, Myfanwy.
"O'n ni gyd gyda'n gilydd fel criw a pawb wedi bihafio, a pawb wedi mwynhau'r achlysur, 'swn i'n feddwl."
Dywedodd eu merch 15 oed, Olwen, ei bod yn pendroni a ddylai hi ddilyn pynciau tu hwnt i amaeth yn y chweched dosbarth, ynteu "cymryd y risg" a mynd i goleg amaethyddol er mwyn dychwelyd i'r fferm deuluol.
"'Sa i'n gw'bod alla i 'neud e ar y funud achos 'sa i'n gweld dyfodol yn y diwydiant - ond heddi, ar ôl gweld pawb gyda'i gilydd... falle bod bach o obaith i ni fel yr ifanc."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gweithio mewn partneriaeth gyda'r sector ffermio yn allweddol. Dyna pam y cafodd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ei ddatblygu gyda ffermwyr.
"Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ynghylch y cynllun a hoffem ddiolch i'r miloedd o ffermwyr sydd eisoes wedi ymateb ac sydd wedi mynychu Sioeau Teithiol Llywodraeth Cymru ledled Cymru.
"Ni fydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch y cynllun hyd nes y bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben a hoffem annog pawb i ymateb erbyn 7 Mawrth."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fore Gwener: "Rydym yn ymwybodol o amhariad posib i draffig ar yr A48 rhwng Pensarn a Phont Abraham o hanner dydd ymlaen heddiw.
"Os rydych yn bwriadu teithio rhwng y ddau leoliad ar yr adeg yma, ystyriwch newid eich taith neu amseriad eich taith i osgoi oedi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd9 Chwefror