Gofyn am farn ar gludiant dewisol i'r ysgol yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Bws ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorau gwahanol â rheolau gwahanol o ran teithio ar fysiau i'r ysgol

Mae Cyngor Conwy yn gofyn i bobl rannu eu barn wrth iddyn nhw gynnal ymgynghoriad ar gludiant dewisol o'r cartref i'r ysgol yn y sir.

Mae trefniadau dewisol - rhai anstatudol - yn cynnwys materion fel cludiant i ysgolion enwadol; cludiant ysgol i blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr o fewn y pellter statudol; parhad cwrs yn dilyn newid cyfeiriad; preswyliad deuol; a chludiant ôl-16.

Nid yw cludiant statudol o'r cartref i'r ysgol yn rhan o'r adolygiad, a bydd yn parhau heb ei newid.

Mae Cyngor Sir Conwy yn annog pobl i roi eu barn yn yr ymgynghoriad, gan ddweud fod cludiant ysgol yn "un o'r costau sy'n tyfu gyflymaf yng nghyllidebau blynyddol awdurdodau lleol".

Mae'r awdurdod lleol wedi dweud eu bod yn wynebu "twll du ariannol" o £24.5m, tra bod pris trafnidiaeth ysgol wedi codi o £5.8m i £6.5m yn y flwyddyn ddiwethaf.

'Pwysig adolygu'r gwasanaeth'

Dywedodd Cyngor Conwy fod yr ymgynghoriad yn ymwneud â "chludiant dewisol o'r cartref i'r ysgol", ac nad yw cludiant statudol yn rhan o'r adolygiad.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, yr aelod cabinet dros addysg: "Yn gyffredinol, mae cludiant ysgol yn cael ei gyfrif yn un o'r costau sy'n tyfu gyflymaf yng nghyllidebau blynyddol awdurdodau lleol.

"Oherwydd hynny, mae'n bwysig ein bod yn adolygu'r gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu.

"Fe fyddwn i'n annog dysgwyr, rhieni, llywodraethwyr a phobl eraill sydd â diddordeb i gymryd rhan a rhoi eich barn i ni."

Pynciau Cysylltiedig