Neges yr Urdd yn dathlu deiseb heddwch menywod 1924
- Cyhoeddwyd
Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru eleni yn dathlu canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru i America, gan barhau â'r alwad am heddwch.
Union ganrif yn ôl, ar 19 Chwefror 1924, fe gafodd cist Deiseb Heddwch Menywod Cymru ei hagor o flaen 600 o fenywod yr Unol Daleithiau yng Ngwesty'r Biltmore yn Efrog Newydd.
Roedd y ddeiseb yn apelio am weld cydweithredu dros heddwch yn y byd, ac mae'r stori wedi ysbrydoli criw ifanc o ferched i ddod at ei gilydd i lunio'r neges eleni dan arweiniad y cyfarwyddwr creadigol, Casi Wyn.
Cafodd y ddeiseb ei chadw a'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Hanes America, neu'r Smithsonian.
Bellach mae'r ddeiseb heddwch wedi dychwelyd i Gymru, ac mae'r gwaith o ddigideiddio'r ddeiseb yn digwydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Mae'r Urdd yn dweud fod Neges Heddwch ac Ewyllys Da y mudiad yn rhywbeth unigryw i Gymru, lle mae pobl ifanc yn rhannu negeseuon am bynciau o bwys iddyn nhw.
Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, eu bod yn "awyddus i dalu teyrnged i'r genhedlaeth o ferched Cymru a weithiodd dros heddwch a chydraddoldeb can mlynedd yn ôl, drwy gynnal ymgyrch drws i ddrws arloesol".
Ychwanegodd mai'r "realiti yn anffodus yw ein bod ni'n parhau i ofyn am heddwch, ganrif yn ddiweddarach".
Dywedodd Casi Wyn fod "treulio amser yn pontio'r ddeiseb hanesyddol ysgrifennwyd yn ôl yn 1924 gyda gweledigaeth merched Cymru heddiw yn ysbrydoledig".
Bydd yr Urdd yn cyhoeddi geiriau'r neges ar 8 Mawrth, sef Diwrnod Rhyngwladol y Merched, cyn rhannu'r neges gyda'r byd yn ôl yr arfer fis Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd20 Awst 2022
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023