Deiseb heddwch menywod yn dychwelyd i Gymru ar ôl canrif
- Cyhoeddwyd
Mae deiseb heddwch wedi dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf ers iddi gael ei gyrru i'r Unol Daleithiau 100 mlynedd yn ôl.
Bu'r ddeiseb yn cael ei chadw a'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Hanes America, neu'r Smithsonian, ers 1923.
Cafodd ei harwyddo gan bron i 400,000 o fenywod oedd yn galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.
Bydd y gwaith o ddigido'r ddeiseb nawr yn dechrau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, trefnodd menywod yng Nghymru ymgyrch dros heddwch, gan alw ar America i ymuno ac arwain cynghrair newydd o genhedloedd.
Annie Hughes-Griffiths fu'n arwain yr ymgyrch honno, wrth i lofnodion gael eu casglu o ddrws i ddrws ar draws Cymru mewn cwta saith mis.
Arwyddodd 390,296 o fenywod y ddeiseb, a bu'n rhaid dylunio ac adeiladu cist arbennig i'w chludo i Washington DC.
Gadawodd Annie Hughes-Griffiths, Mary Ellis, Elined Prys a Gladys Thomas gyda'r gist yn 1923.
Pan gyrhaeddodd y menywod, fe ddisgrifiodd gwasg Efrog Newydd y ddeiseb fel "un anferth, saith milltir o hyd".
'Rhywbeth i ni gyd yw'r ddeiseb'
Mae gan Meg Ellis gysylltiad personol iawn â'r ddeiseb, am mai ei nain yw Annie Hughes-Griffiths.
Meddai: "Mae'r hanes yn bwysig ofnadwy, nid oherwydd yr unigolion na chwaith Mam-gu ond oherwydd y cannoedd o ferched 'naeth lofnodi y ddeiseb hon.
"Rhywbeth i ni gyd yw'r ddeiseb. Dwi'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli pobl i weithio dros heddwch mewn gwahanol ffyrdd.
"Mae'n amser emosiynol iawn i mi, ac yn addas iawn bod y ddeiseb yn dychwelyd i Gymru, ac i Aberystwyth hefyd."
'Stori'n dod yn fyw i bobl Cymru'
Cafodd y merched groeso i'r Tŷ Gwyn lle cafwyd sicrwydd gan Lywydd America ar y pryd, Calvin Coolidge, y byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw'n ddiogel yn Amgueddfa'r Smithsonian yn Washington DC - a dyna lle cafodd ei chadw yr holl amser.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, prif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fod rhyddhau y ddeiseb yn ôl i Gymru yn gam "rhyfeddol".
"Mae'n anodd dychmygu sut y casglodd y merched gymaint o lofnodion, mewn cyfnod cyn cyfleustra'r we sydd gennym ni heddiw," dywedodd, "Mae'n anhygoel.
"Mae'n bwysig bod yr archif yn cael ei gadw yma yn y Llyfrgell Genedlaethol fel ei fod yn rhan o arddangosfa barhaol."
Ychwanegodd: "Mae'n rhyfeddol bod y Smithsonian wedi rhyddhau archif neu gasgliad mor bwysig i sefydliad cenedlaethol arall.
"Rwy'n meddwl eu bod yn cydnabod ein bod mewn gwell sefyllfa i ddathlu'r ddeiseb odidog hon, ac i rannu cyfoeth y casgliad gyda phobl Cymru a'r byd."
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi ddydd Mercher y bydd £250,000 ar gael i gefnogi'r prosiect hwn, fydd yn golygu "bod y stori'n dod yn fyw i bobl Cymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd20 Awst 2022
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018