Cynllun peilonau yn 'sarnu lle bendigedig i fyw'

  • Cyhoeddwyd
Brynhawn Iau roedd rhwng 40 a 50 o bobl yn protestio yn erbyn y cynllun peilonau y tu allan i Neuadd Mileniwm Cellan ger Llanbedr Pont Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Brynhawn Iau roedd rhwng 40 a 50 o bobl yn protestio yn erbyn y cynllun peilonau y tu allan i Neuadd Mileniwm Cellan ger Llanbedr Pont Steffan

Mae cynllun i osod peilonau trydan ar hyd Sir Gâr a rhan o Geredigion wedi cael ei ddisgrifio fel y "Tryweryn newydd" gan bobl leol.

Bydd y cynllun yn gosod peilonau am dros 20 milltir o Landyfaelog i Lanfawr.

Brynhawn Iau roedd rhwng 40 a 50 o bobl yn protestio yn erbyn y cynllun peilonau y tu allan i Neuadd Mileniwm Cellan ger Llanbedr Pont Steffan, lle roedd sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal gan y ddau gwmni y tu ôl i'r cynllun.

Dywed y ddau gwmni, Green Gen Cymru a Bute Energy, eu bod eisiau gweithio gyda chymunedau i sicrhau dyfodol adnewyddadwy i Gymru.

Mae Geraint Williams yn ffermio ger Cellan ac mae'n bosib y bydd y peilonau yn cael eu gosod ar ei dir.

"Bydd dim modd rhedeg tractor neu dim byd rownd neu oddi tanyn nhw. So byddwn ni'n colli lot o dir pan fydd y peilons yn dod," meddai.

Ers 40 mlynedd mae Euros Jones wedi byw yn yr ardal, ac mae'n poeni am yr effaith gall y cynllun yma gael ar y tirwedd.

"Mae fel nefoedd ar y ddaear byw yn y cylch yma. Does dim helynt, mae jest yn le bendigedig i fyw. Ond mae hwn yn sarnu pethau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Brynhawn Iau roedd llawer yn ciwio i arwyddo deiseb yn erbyn y prosiect ym mynedfa neuadd Cellan

Mae disgwyl i'r sesiwn roi gwybodaeth bara tan 19:00 nos Iau a dywed llawer o'r protestwyr eu yn bwriadu aros tu allan drwy'r brynhawn.

Brynhawn Iau roedd llawer yn ciwio i arwyddo deiseb yn erbyn y prosiect ym mynedfa'r neuadd.

'Dyma'r Tryweryn newydd'

Symudodd Carol Siager i Gellan o New Mexico yn yr Unol Daleithiau chwe mlynedd yn ôl ac mae e'n un o arweinwyr yr ymgyrch yn erbyn y cynllun.

"Dydyn ni ddim yn erbyn ynni gwyrdd. Dwi'n meddwl bod angen ei ddatblygu. Ond mae yna ffyrdd gwahanol a does dim angen dewis y ffordd rataf."

Byddai modd plannu gwifrau trydan o dan y ddaear yn hytrach na rhoi peilonau ar dir ond yn ôl Bute Energy a Green Gen Cymru byddai cost hynny hyd at chwech i wyth gwaith yn ddrutach.

Bwriad y cynllun yw cysylltu Parc Ynni Lan Fawr yng Ngheredigion ag is-orsaf newydd y Grid Cenedlaethol yng Nghaerfyrddin.

Mae teulu Rhys Williams wedi bod yn ffermio yng Nghellan am dros 300 mlynedd. Byddai'r cynllun yn golygu gosod peilonau ar eu caeau.

"Mae sawl un wedi crybwyll taw dyma'r Tryweryn newydd i'n cenhedlaeth ni. Ma' fe'n hollol wir - yr unig wahaniaeth yw y tro yma mae'r gorchymyn wedi dod o Gaerdydd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai'r cynllun yn arwain at osod peilonau ar dir sydd yng ngofal teulu Rhys Williams ers 300 mlynedd

Byddai taliadau i'r rheiny sy'n gorfod gosod peilonau ar eu tir, mae Rhys a'i deulu ar ddeall.

Ychwanegodd: "O beth rwy'n deall, go fach fydd y taliad i ateb yr annibendod y byddan nhw'n creu. Bydden i'n hapusach i dalu nhw i beidio â dod yma."

Rhys yw'r wythfed cenhedlaeth o'i deulu i ffermio'r tir.

Dywedodd: "Rwy'n benderfynol o ymladd am y dyfodol. Ond i fod yn hollol onest i chi, gyda'r heriau i ni gyd yn delio gyda nawr, fi ddim yn siŵr a fydden i'n hapus i annog 'y mhlant i fynd mewn i amaethyddiaeth, sy'n rhywbeth trist ofnadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Ar hyd yr A487 o Gaerfyrddin i Lanbed mae arwyddion yn dangos gwrthwynebiad i'r peilonau trydan.

Trwy mis Chwefror mae Green Gen Cymru a Bute Energy wedi bod yn ymgynghori â phobl leol ar hyd y llwybr arfaethedig.

Mae'r cwmnïau ar hyn o bryd yn penderfynu ar lwybr i'r peilonau cyn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru. Fydd yr ymgynghoriad yn cau ar 6 Mawrth cyn yr ail ymgynghoriad yn 2025.

Pam fod angen mwy o beilonau trydan?

Gareth Clubb yw cyfarwyddwr WWF Cymru ac mae'n arbenigo mewn ynni adnewyddadwy.

Dywedodd fod y grid i "drawsgludo trydan yn gwegian mewn gwirionedd".

"Hyd nawr nes 2050 bydd angen o leiaf dyblu os nad treblu'r maint o ynni adnewyddadwy 'dan ni'n cynhyrchu o ffermydd gwynt ar y tir. Fel canlyniad, bydd angen lot mwy o isadeiledd trawsgludo trydan.

"Mae yna opsiynau eraill. Mae rhoi gwifrau o dan y ddaear lot yn fwy drud na rhoi gwifrau uwchben y ddaear.

"Ond mewn gwirionedd mae newid hinsawdd yn mynd i gael effaith sylweddol ar dirweddau ar arfordir Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgrifiodd Gwyneth Alban y peilonau fel pethau "salw"

Mae Gwyneth Alban wedi byw yn New Inn am dros 20 mlynedd, ac yn mynd am dro bob dydd o gwmpas yr ardal.

"Dyw e ddim yn deimlad neis o gwbl. Dyw nhw ddim yn bethe' hardd, maen nhw'n salw. A dyw nhw ddim yn bethe sydd i fod yn ein hamgylchedd ni."

Ychwanegodd: "Bydd e'n 'strywio unrhyw gerdded rownd yr ardal achos o bron bob llwybr o fan hyn i Lambed a fan hyn lawr i Gaerfyrddin byddwch chi yn gallu gweld nhw. Mae hynny'n beth ofnadwy i feddwl am."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Linda Evans yn cwestiynu pa mor fuddiol fydd y peilonau i'r amgylchedd

Linda Evans yw is-arweinydd Cyngor Sir Gâr ac mae hi o'r farn y dylai rhedeg y llinellau o dan ddaear.

Dywedodd: "I roi peilon yn ei le mae eisiau concrit. Chi'n siarad bythdi pump neu chwe llwyth o goncrit i bob peilon. Ni'n siarad 140 neu 150 o beilonau. Pa mor dda mae hynny i'r amgylchedd?"

Mewn datganiad fe ddywedodd Green Gen Cymru a Bute Energy: "Rydym wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn ymgysylltu â chymunedau, yn rhannu gwybodaeth am ein prosiectau ac yn gwrando ar unigolion a grwpiau sydd â phryderon.

"Rydym am ateb eu cwestiynau a sicrhau bod ein gwaith yn y rhanbarth yn adlewyrchu barn cymunedau ac yn cefnogi dyheadau Cymru ar gyfer dyfodol gwyrddach."

Pynciau cysylltiedig