'Byddai Dad mor prowd bo fi'n chwarae yn yr haen uchaf'

  • Cyhoeddwyd
Modlen GwynneFfynhonnell y llun, Stadiwm Dinas Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Modlen Gwynne: "Mae'n gyfle arbennig i ni fynd ati i chwarae yn erbyn y timau gorau"

Dywed un o chwaraewyr ieuengaf tîm pêl-droed merched Aberystwyth y byddai ei diweddar dad wedi bod mor falch ohoni hi a gweddill y tîm wrth iddyn nhw sicrhau lle yn haen uchaf y brif adran.

Bu farw Eifion Gwynne, a oedd yn chwaraewr rygbi dawnus, wedi iddo gael ei daro gan gar yn Sbaen ym mis Hydref 2016.

Bellach mae ei ferch Modlen, 16, yn un o sêr tîm hŷn merched Aberystwyth wedi i brofion asesu Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddangos ei bod yn gymwys i chwarae ar lefel uwch.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Eifion Gwynne a Modlen ei ferch - un o sêr ifanc tîm hŷn merched Aberystwyth

"Mae'n teimlo'n arbennig cynrychioli Aberystwyth ar lefel senior yn yr Adran Premier," meddai Modlen wrth siarad â Cymru Fyw.

"Fi'n meddwl y byddai Dad yn prowd iawn yn gweld fi'n chwarae pêl-droed ar y lefel hyn.

"O'dd e wastad yn mwynhau dod i weld fi yn chwarae pêl-droed. Er efallai y byddai fe bach mwy prowd petawn i'n chwarae rygbi!

"Mae bod yn un o'r pedwar uchaf yng nghynghrair cyntaf Cymru yn anhygoel.

"Ni nawr yn symud ymlaen i phase 2 i chwarae yn erbyn Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.

"Mae'n gyffrous iawn. Mae'n mynd i fod yn heriol ond fi'n excited iawn. Mae'n gyfle arbennig i ni fynd ati i chwarae yn erbyn y timau gorau."

Ffynhonnell y llun, Tîm pêl-droed merched Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Modlen yn un o dair merch 16 oed yn nhîm merched Aberystwyth, a dim ond tair ohonyn nhw sydd dros 20 oed

Ers yn ifanc mae Modlen Gwynne, plentyn canol Eifion Gwynne a Nia Gwyndaf, wedi ymddiddori'n fawr mewn chwaraeon.

Cyn y cyfnod clo bu'n chwarae i dîm pêl-droed Y Celtiaid, gan fod yr unig ferch yn y tîm ar adegau.

Mae hi hefyd wedi chwarae i dîm Siarcod Llanilar ac wedi bod yn rhan o Ganolfan Datblygu Merched Aberystwyth.

"Yn 2014 roeddwn i a fy ffrind Niamh Duggan yn fascots i'r tîm - dim ond saith oed ro'n i ar y pryd a nawr ni'n dwy yn chwarae i'r prif dîm - mae e fel breuddwyd sydd wedi dod yn wir," ychwanegodd Modlen.

"Dyw hi ddim wastad wedi bod yn hawdd.

"Yn ystod y cyfnod clo fe ges i anhwylder ar yr arennau ac fe gollais i'r awydd i chwarae pêl-droed a cholli fy ffitrwydd, ond fe wnaeth gwylio gemau Euros y merched yn haf 2022 fy ysbrydoli i chwarae eto - ac ers hynny dwi wedi gweithio'n galed iawn i ddod yn ffit a gwella fy gêm."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dwy o chwaraewyr presennol Aberystwyth - Niamh Duggan a Modlen Gwynne - yn fascots yn 2014

Mae Modlen yn un o dair merch 16 oed yn y tîm, a dim ond tair ohonyn nhw sydd dros 20 oed.

"Mae lot ohonon ni'n ifanc iawn ond ry'n yn dysgu llawer gan y rhai hŷn a phrofiadol - yn enwedig pobl fel y capten Amy Jenkins oedd yn chwarae i'r tîm pan ro'n i'n fascot," meddai Modlen.

"Mae yna sesiwn ymarfer ddwywaith yr wythnos sydd ddim yn rhy ddrwg ac yna dwi'n trio cadw'n ffit pan dwi'n gallu wedyn - yn enwedig os nad oes gemau."

Ffynhonnell y llun, Tîm pêl-droed Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Modlen Gwynne (ar y chwith) yn ystod gêm ddiweddar

Dywedodd hefyd ei bod hi ac un aelod arall o'r tîm yn ffodus o gael nawdd gan gwmni Impetus - cwmni ar-lein sy'n cefnogi merched mewn chwaraeon.

Dywed mam Modlen, Nia Gwyndaf, ei bod hi hefyd yn hynod o falch o'i merch.

"Dwi wrth fy modd," meddai. "Mae hi wedi dod mor bell.

"Mae hi wedi bod yn chwarae pêl-droed ers o'dd hi tua chwech neu saith oed ac mae cyrraedd y lefel yma mewn byr amser yn rhyfeddol a hynny wedi cyfnod lle gollodd hi'r awch i chwarae pêl-droed wedi salwch.

"Allen i ddim bod mwy balch ohoni.

"Ac wrth gwrs byddai Eifion wrth ei fodd. Gollon ni Eifion dros saith mlynedd yn ôl. Roedd Modlen yn naw, Mabli yn 11 ac Idris yn bump oed."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu: Nia, Modlen, Idris, Mabli ac Eifion

Ychwanegodd: "Ro'dd Eifion yn gymaint o ysbrydoliaeth i Modlen.

"Ro'dd e'n chwaraewr rygbi arbennig - yn chwarae i Aberystwyth a thra'n chwarae i Lanymddyfri yn Stadiwm y Mileniwm fe gafodd ei ddewis yn ddyn y gêm.

"Roedd o wastad yna gyda Modlen - mynd â hi i chwarae pêl-droed, i'r clwb rygbi ac yn ei chefnogi ymhob mabolgampau a chystadlaethau traws gwlad. Byddai fe wrth ei fodd.

"Mae lot yn deud bod hi'n debyg iawn iddo fo pan maen nhw'n gwylio hi'n chwarae.

"Ond rwy'n falch o'r ddau arall hefyd wrth gwrs. Mae Mabli rŵan yn 18 ac wrth ei bodd yn astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Lerpwl ac Idris yn 12 ac yn chwarae rygbi i dîm o dan 13 Aberystwyth."

'Dwi mor nerfus'

Yn ystod y misoedd diwethaf, er bod tîm merched Aberystwyth wedi perfformio'n dda ar y cae, dyw hi ddim wedi bod yn gyfnod hawdd oddi ar y cae wedi i fwrdd y clwb ddiswyddo'r rheolwr Gavin Allen ym mis Ionawr.

Ychydig ddyddiau cyn hynny roedd e wedi'i benodi yn rheolwr tîm dynion Pontypridd United - tîm sy'n chwarae yn erbyn tîm dynion Aberystwyth.

Ond o dan arweiniad Gari Lewis fe lwyddodd y merched i gael gêm gyfartal (3-3) yn erbyn y Seintiau Newydd, oedd, yn sgil perfformiadau blaenorol, yn ddigon i sicrhau lle yn y pedwar uchaf.

Ffynhonnell y llun, Eado Photo
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Modlen ei bod hi a'r tîm yn llawn cyffro am yr hyn sydd i ddod yn ystod yr wythnosau nesaf

"Dwi'n swp sâl yn ystod gemau," ychwanegodd Nia Gwyndaf.

"Dwi'n mynd lawr bob tro ma' gynnyn nhw gêm adre'. Dwi'm yn gallu eistedd - dwi'n sefyll wrth yr ochr.

"Dwi'n browd iawn ond yn andros o nerfus ac o'n i'n nerfus ofnadwy yn ystod y gêm yn erbyn y Seintiau Newydd.

"O'dd hi'n gêm andros o agos - ond yn ddigon i'r merched gael lle yn y pedwar uchaf."

Mae Modlen ar hyn o bryd yn astudio Bioleg, Cemeg a Chwaraeon ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch ac yn gobeithio "gwneud rhywbeth â phêl-droed yn y dyfodol".

Ond am y tro dywed ei bod yn llawn cyffro am yr hyn sydd i ddod yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Bydd e'n gyfle arbennig a dwi'n edrych ymlaen," meddai.

Pynciau cysylltiedig