Person wedi marw mewn tân ym Meidrim, Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod person wedi marw mewn tân yn Sir Gaerfyrddin bron i bythefnos yn ôl.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn adeilad dau lawr ym mhentref Meidrim yn oriau mân ddydd Gwener, 9 Chwefror.
Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Iau bod un person wedi marw yn y digwyddiad.
Roedd y difrod i'r adeilad yn "sylweddol" ac mae ymchwiliad bellach ar waith i achos y tân.
Bydd y ffordd ym Meidrim yn parhau ar gau wrth i'r heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru barhau â'u hymchwiliadau.
Mae swyddogion wedi rhannu eu cydymdeimlad â theulu'r unigolyn ac wedi diolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror