Tamaid o'r Eidal: Crostini Coch, Gwyn a Gwyrdd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tamaid o'r Eidal: Crostini Coch, Gwyn a Gwyrdd

A dyna ni... mae gêm olaf Cymru yn y Chwe Gwlad ar droed. Efallai nad yw hi wedi bod y bencampwriaeth fwyaf llwyddiannus ar y cae i'r crysau cochion, ond mae'r bwyd wedi bod yn flasus iawn!

Tro Sara Alys Ciancone o Ravenna yng ngwlad y Gli Azzurri yw hi y tro yma i rannu rysáit o'i chartref a fydd yn berffaith i'w fwyta o flaen y gêm:

"Does dim byd gwell na chael ffrindiau'r teulu draw i weld y 6 Gwlad.

"A does dim byd gwell na gêm flynyddol Cymru yn erbyn yr Eidal. Mae Mam yn Gymraes ac yn wreiddiol o Gaerdydd ac mae Dad yn Eidalwr yn wreiddiol o Turin. A dwi'n hanner a hanner!

"Pwy dwi'n cefnogi? Wel, mae hwnna'n gyfrinach mawr…

"Dyma rysáit cyflym a blasus - gallwch chi baratoi o flaen llaw a coginio'n gyflym o un hanner o'r gêm i'r llall."

Ffynhonnell y llun, Sara Alys Ciancone

Crostini Coch, Gwyn a Gwyrdd

Cynhwysion

Bara

Caws

Tomatos

Cigoedd oer (speck, ham Parma neu salami)

Olew olewydd

Garlleg

Basil fres

Halen

Dull

  • Torrwch y tomatos yn fân ac ychwanegwch garlleg, halen a digon o olew mewn powlen neu jar. Cadwch e i marinadu (marinate) am awr neu ddwy

  • Rhowch fwy o olew, garlleg a halen mewn powlen arall

  • Rhowch y ffwrn ymlaen i 230°

  • Tostiwch un ochr y bara. Tynnwch e allan o'r ffwrn ar ôl munud neu ddwy

  • Gyda brwsh rhowch haen o'r olew a garlleg ar y bara ac ychwanegwch y caws

  • Rhowch e nôl yn y ffwrn am gyfnod byr - gwyliwch beidio ei losgi

  • Tynnwch y crostini allan o'r ffwrn ac ychwanegwch ychydig o gigoedd oer neu domatos wedi marinadu, heb anghofio'r basil, wrth gwrs

  • Peidiwch diffodd y ffwrn - bydd pobl yn gofyn am fwy!

  • MWYNHEWCH!

Hefyd o ddiddordeb: