Llys Apêl: Dim modd i Lywodraeth Cymru atal ehangu glofa

  • Cyhoeddwyd
AberpergwmFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd a San Steffan wedi bod yn anghytuno ynglŷn â phwy oedd â'r gair olaf ar yr estyniad

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi methu yn eu hymdrech i brofi y byddai gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gallu ymyrryd i atal estyniad i bwll glo Aberpergwm ger Glyn-nedd.

Y llynedd fe ddyfarnodd yr Uchel Lys nad oedd gan Lywodraeth Cymru'r hawl i wrthdroi trwydded a gafodd ei chaniatáu gan yr Awdurdod Glo yn 1996.

Er i ymgyrchwyr golli eu her gyfreithiol wreiddiol, cawson nhw ganiatâd i apelio.

Ond daeth barnwyr yn y Llys Apêl yng Nghaerdydd i'r casgliad bod dyfarniad gwreiddiol yr Uchel Lys yn gywir, ac nad oedd pwerau Lywodraeth Cymru yn berthnasol i drwyddedau a gafodd eu cyflwyno cyn 2018.

Mae 'na fwriad i gloddio am 42 miliwn tunnell ymhellach o lo yn Aberpergwm, gyda'r gweithredwyr Energybuild Mining Ltd wedi sicrhau trwydded i wneud estyniad tanddaearol i'r safle, sy'n ddilys tan 2039.

Ond cafodd y drwydded ei chyflwyno cyn i'r llywodraeth ym Mae Caerdydd dderbyn grymoedd dros byllau glo fel rhan o Ddeddf Cymru 2017.

Disgrifiad o’r llun,

Mae glofa Aberpergwm yn cyflogi 184 o bobl, gan gynnwys 20 o brentisiaid

Fe aeth grŵp ymgyrchu Coal Action Network i'r Llys Apêl er mwyn herio'r dehongliad o'r ddeddfwriaeth ar ôl iddyn nhw fethu yn eu hymdrech i sicrhau adolygiad barnwrol.

Dadl cyfreithwyr ar ran y grŵp oedd y gallai gweinidogion fod wedi camu mewn ac atal mwy o gloddio yn Aberpergwm, a bod yn rhaid iddyn nhw roi caniatâd i'r Awdurdod Glo am unrhyw gloddio pellach.

Mae'r Coal Action Network wedi annog Llywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn atal rhagor o dyllu ar y safle.

Ond mynnu mae cyfreithwyr Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw unrhyw awdurdod dros sut y cafodd cynlluniau'r lofa eu caniatáu, ac nad oes modd cyflwyno ôl-ddeddfwriaeth i atal y drwydded.