Trafodaethau 'adeiladol' rhwng ffermwyr a'r llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr rhai o'r protestiadau diweddar gan ffermwyr wedi dweud iddyn nhw gael trafodaethau "adeiladol" â Llywodraeth Cymru ddydd Llun.
Bu dirprwyaeth o ffermwyr yn cwrdd â'r Prif Weinidog yn gynharach yng Nghaerdydd.
Daw yn sgil cyfarfodydd a ddenodd filoedd o amaethwyr ym marchnadoedd y Trallwng a Chaerfyrddin.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud iddyn nhw ymrwymo "i barhau i siarad a gwrando" ar bryderon ffermwyr ynglŷn â'u Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y drefn newydd o ariannu'r diwydiant ar ôl Brexit yn cau ar 7 Mawrth.
'Rhaid iddyn nhw wrando'
Mae'r undebau wedi dadlau bod gofynion y cynllun - sy'n cynnwys sicrhau bod 10% o dir fferm â gorchudd coed a 10% yn cael ei reoli fel cynefin - yn peryglu hyfywedd busnesau fferm.
Wrth siarad ar Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru dywedodd Aled Rees, ffermwr llaeth o Aberteifi, iddo ef a'i gyd-ffermwyr dreulio dros awr yn trafod gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford a'r gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths.
"Y neges oedd 'digon yw digon' - 'naethon ni'n glir iddyn nhw fod rhaid iddyn nhw wrando a allwn ni ddim cario 'mlaen fel hyn," meddai.
Ond dywedodd fod y sgwrs yn un "adeiladol iawn", wrth gyfathrebu cwynion ffermwyr tra'n cynnig "atebion".
"Yr addewid gathon ni yw bod nhw yn gwrando a mynd i edrych ar yr argymhellion o'n ni'n mynd i'w rhoi," meddai.
Gofynnwyd i Gary Howells, ffermwr defaid a gwartheg o Landysul, a oedd amaethwyr wedi bod yn hwyr yn deffro i oblygiadau'r cynllun newydd, o gofio ei fod wedi bod dan ddatblygiad ers blynyddoedd.
"I ddweud y gwir, odyn," meddai Mr Howells, gan ychwanegu bod ffermwyr wedi sylweddoli "pa mor wael" yw'r cynllun o ganlyniad i gyfarfodydd diweddar a drefnwyd gan y llywodraeth a'r undebau fel rhan o'r ymgynghoriad.
"Dros y ddwy, dair blynedd ddiwethaf falle nad y'n ni wedi cymryd digon o sylw ohono fe ond nawr mae wedi dod i'r golwg."
'Cyfle i wrando'
Roedd y cyfan wedi dod ar ben pryderon eraill sydd gan y diwydiant ynglŷn â chlefyd TB mewn gwartheg a chyfyngiadau llymach a chostus ar storio a gwasgaru gwrtaith a slyri, esboniodd.
"Mae e gyd yn cumulative effect - TB a'r NVZs ar ben ei gilydd a mae i gyd yn berwi drosodd nawr," meddai Mr Howells.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yr hoffent "ddiolch i'r ffermwyr am eu hamser".
"Roedd yn gyfle i Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog Materion Gwledig wrando ar bryderon y ffermwyr a hefyd eu hawgrymiadau ar gyfer newidiadau o fewn gwahanol feysydd.
"Cafwyd ymrwymiad i barhau i siarad a gwrando."
Pryder yn parhau yn Rhuthun
Roedd bron i 50 o aelodau NFU Cymru mewn cyfarfod yn Rhuthun nos Lun i drafod y newid dadleuol gan Lywodraeth Cymru i daliadau amaeth.
Nod y cyfarfod oedd casglu barn aelodau'r undeb i fwydo i'r ymgynghoriad.
Er i'r gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths ddweud ddydd Sul y bydd newidiadau i'r cynllun yn dilyn yr ymgynghoriad, roedd nifer o'r ffermwyr yno yn dal yn bryderus.
"Mae'r coed 'ma'n poeni fi," dywedodd Trefor Jones.
"Mae genna' i lot o goed, ond os ydy nhw isio plannu 10%, mae o dros ben llestri.
"Mae glaswellt yn gwneud cyn gymaint o ddaioni â coed."
Dywedodd Gareth Jones: "Mae'n amser pryderus iawn i ni. Y penderfyniad yma, dyna fydd y sail am y blynyddoedd nesaf yma.
"Mae'n gonsyrn garw am y plannu coed, a habitats. 'Di rhywun ddim isio rhoi tir sy'n cynhyrchu bwyd - tir gorau ni - i blannu coed.
'Di o'm yn gwneud rheswm bod ni'n gorfod gwneud y fath beth a bwyd yn brin yn barod. Dyna'n consyrn mwyaf ni."
Yn ôl Hefin Hughes, mae'r cynllun yn "annheg".
"Fydd rhai ffermwyr yn mynd i mewn i'r scheme os ydy'r coed gynnyn nhw'n barod, ac os ydyn nhw'n denantiaid fyddan nhw ddim yn gorfod tyfu coed," dywedodd.
"A fydd ffermydd teuluol sy'n berchen eu tir yn gorfod tyfu'r coed ar dir da a fydd 'na ddim digon o incwm yn dod i fewn i'r ffermydd i gynnal y teuluoedd.
"Mae diwydiannau trwm yn twlu carbon allan, so dylsen nhw fod yn torri'n ôl ar eu carbon deuocsid."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Chwefror