'Bydd newidiadau i gynllun amaeth', meddai'r gweinidog

  • Cyhoeddwyd
Arwydd digon yw digon

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am faterion gwledig yng Nghymru yn dweud y bydd yna newidiadau i polisi amaeth dadleuol y llywodraeth yn dilyn cyfres o brotestiadau.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw ateb Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu'r diwydiant ar ôl Brexit, ac mae'n rhoi llawer o bwyslais ar yr amgylchedd.

Dan y cynigion, er mwyn cael cymorthdaliadau byddai'n rhaid i ffermwyr ymrwymo i blannu 10% o'u tir â choed, a chlustnodi 10% arall fel cynefin i fywyd gwyllt.

Dywedodd Lesley Griffiths wrth raglen BBC Politics Wales "rydyn ni'n gwybod y bydd yn rhaid gwneud newidiadau", ond mae hi eisiau clywed "yr holl ymatebion" yn gyntaf i ymgynghoriad ar y cynlluniau.

Ond dywedodd un undeb amaeth nad oedd sylwadau'r Gweinidog yn ddigon i dawelu pryderon ffermwyr.

Yn ôl Ms Griffiths mae rhai newidiadau eisoes wedi eu cyflwyno, gan gynnwys bod y cynllun ar agor i bob ffermwr o 2025 ymlaen, ac addasiad i'r gofyniad am 10% o goetir i gynnwys coed presennol.

Ychwanegodd bod addasiadau i ffermwyr tenant, ac na fyddai'r gofyniad yn dod i rym nes 2030 er mwyn rhoi mwy o amser i weithredu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths ar Politics Wales bod y llywodraeth yn gwrando ar bryderon y sector amaeth

"Gwyddom fod pobl yn anhapus ynghylch y 10% o goed yn gyffredinol. Nid yw bob person yn anhapus, ond byddwn yn dweud bod y mwyafrif o bobl yn anhapus.

"Os rhowch eich ymateb i'r ymgynghoriad yna byddwn yn edrych arno. Mae angen i bawb ymateb i'r ymgynghoriad - mae angen yr holl adborth arnom er mwyn inni edrych ar yr hyn y gellir ei wneud."

Daw sylwadau Ms Griffiths ddyddiau ar ôl i Brif Weinidog Rishi Sunak ymuno â beirniadaeth o gynigion Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Wyn Jones yn cwestiynu diben cynnal ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy

Mae Gareth Wyn Jones, un o ffermwyr amlycaf Cymru, wedi beirniadu'r llywodraeth ac yn awgrymu nad oes llawer o bwynt i'r ymgynghoriad.

Dywedodd ar raglen Bore Sul bod y prif weinidog, Mark Drakeford "yn barod wedi dweud yn y Senedd dydi'r ffermwyr ddim yn mynd i cael ddeutha fo lle i wario'r pres, so be 'di'r pwynt o'r consultation i ddweud y gwir?

"Ma' 'di deud hefyd bod y ffarmwrs di fotio am Brexit a fod o'n fai arna ni. Fotio i aros nes i a llawer iawn arall dwi'n nabod."

"Mae pobl yn teimlo'n rhwystredig - oedd pobl eisiau cwrdd â Mark Drakeford a Lesley Griffiths yn y gogledd a dyna pam aethon nhw allan i trio gael y cyfle i siarad.

"Mae bob dim wedi bod jest i trio agor y drws i ni gael siarad - mae ffermwyr wedi cael llond eu bol i ddweud y gwir. Mae TB yng Nghymru yn lladd y diwydiant ac mae'r NVZs 'ma yn mynd i fod yn gymaint o gur yn pen eto i gymaint o bobl.

"Mae'r cwmnïa anferthol dŵr 'ma yn cael gneud be bynnag maen nhw'n licio ond mae pwysa' i gyd a bys yn pwyntio at yr amaethwyr, pan mae amaethwyr ar y funud ar eu pennau-gliniau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Prif Weinidog wrth Gareth Wyn Jones fod y cynlluniau amaeth "ddim yn iawn"

Er hynny, mae Mr Jones yn cydnabod ochr amgylcheddol y ddadl:

"Oes, mae 'na broblem, ond mae 'na ffyrdd fedran ni weithio arno fo - maen 'na wyddoniaeth allan yno.

"Dydi hi ddim jest yn 10% - mae nhw hefyd isho 10% o biodiversity. Ma' hynny'n 20% o dy dir di yn cal ei dynnu allan o gynhyrchu bwyd.

"Mae'n amser mor galed ar gymaint o deuluoedd bach yn cefn gwlad a ni ydi calon cefn gwlad Cymru - mae'n bwysig i ni gwffio. Os ydyn ni eisiau cadw bwyd ar platia' pobl mae'n rhaid i ni gael ffermwyr yn y cefn gwlad."

Er bod y cynllun yn wirfoddol, mae Mr Jones yn credu bod yna fwy i'r mater nag arian yn unig.

"Mae'n siŵr fydd lot o ffermwyr lawr gwlad yn well allan yn peidio cymryd o. Dydi hyn ddim amdan y pres dim mwy, mae o amdan neud yn siŵr bod na dyfodol i'n plant ni ar y tir yn neud be sy'n bwysig."

'Ysu am sicrwydd'

Dywedodd Abi Reader, Dirprwy Lywydd undeb ffermio NFU Cymru: "Rydym eto i weld unrhyw sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod unrhyw beth yn mynd i newid.

"Rydym yn ysu i weld rhywfaint o sicrwydd gan Lywodraeth Cymru eu bod yn gwrando ac y byddan nhw'n newid pethau oherwydd ar hyn o bryd mae yna ymchwydd enfawr o ddicter allan yna, sy'n anelu at y Senedd."

Ychwanegodd bod "dim byd" wedi ei gyflawni yn ystod cyfarfod "siomedig" yr wythnos diwethaf rhwng undebau a gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru.

Roedd yr undebau eisiau cyfarfodydd rheolaidd gyda gweinidogion i barhau â thrafodaethau ac i sefydlu "panel gwyddonol ymgynghorol" i archwilio atebion amgen i blannu coed.

Disgrifiad o’r llun,

Abi Reader

Dywedodd Hywel Morgan, cadeirydd Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur Cymru, bod angen cyfaddawd ar y gofyniad dadleuol i blannu 10% o dir amaeth â choed.

Mae angen mwy o dystiolaeth wyddonol, meddai, i brofi taw plannu coed yn benodol "yw'r opsiwn gorau i ddal carbon".

"Mae'n rhan o'r ateb [ond] roedd tiroedd glaswellt cynhenid yn wych hefyd."

Mynegodd pryder bod y cynllun dadluol wedi achosi i ffermwyr ac amgylcheddwyr fynd benben â'i gilydd mewn cyfnod o "argyfwng hinsawdd [ble] mae angen i ni gydweithio".

Disgrifiad o’r llun,

Mae plannu coed yn rhan o'r ateb, ond mae yna ffyrdd eraill hefyd o ffermio'n gynaliadwy, medd Hywel Morgan

Dywedodd yr AS Plaid Cymru Llyr Gruffydd bod angen "arwydd llawer cryfach gan y llywodraeth nad yw ond am fwrw ymlaen gyda'r cynigion yma".

Mae'n dadlau dros adolygu'r polisi plannu coed gan ddweud bod y ffigwr o 10% yn un "fymwpyol" nad sy'n addas i bob fferm.

"Rhaid i ni fod yn fy creadigol o lawer, a mwy hyblyg o lawer," dywedodd.

Mae'r llywodraeth wedi apelio eto ar ffermwyr i gydweithio gyda'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan bwysleisio mai nod y cynllun yw cefnogi pob ffermwr.

"Rydw i wastad wedi ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cyfathrebu â gymaint o ffermwyr â phosib," meddai Ms Griffiths.

"Mae gennym ni dros 24,000 o ffermwyr yma yng Nghymru - alla i ddim siarad â phawb yn unigol.

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 7 Mawrth.

Pynciau cysylltiedig