Cofio teithio o Gwm Tawe i Jerwsalem mewn car yn 1959

  • Cyhoeddwyd
Mair a'i brawd Alun gyda theulu o ffermwyr a roddodd ddŵr iddyn nhw a mynnu rhoi bwyd iddyn nhw, yn Tarsus, TwrciFfynhonnell y llun, Mair Godley
Disgrifiad o’r llun,

Mair a'i brawd Alun gyda theulu o ffermwyr a roddodd ddŵr a bwyd iddyn nhw, yn Tarsus, Twrci

Byddai mynd ar wyliau i Jerwsalem heddiw yn daith a hanner, ond dychmygwch wneud hyn yn yr 1950au a hynny mewn car!

Dyna beth wnaeth W Emlyn Jones, awdur y llyfrau teithio Cymraeg cyntaf, a deithiodd i rai o wledydd y Dwyrain Canol o Gwm Tawe gyda'i deulu.

Ei ferch, Mair Godley, fu'n hel atgofion am rai o'r profiadau hynod ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

O orllewin Cymru i'r Dwyrain Canol

"Dim duel carriageways... tracs o'dd y rhan fwyaf ohonyn nhw. Fi'n cofio yn Twrci, 'ma ni'n dod i stop, o'dd afon. O'dd y ffordd ddim yn mynd i unman, ond o'dd rhaid i ni fynd i'r ochr arall.

"O'dd stiwdants yn gweithio yn yr afon, a 'ma nhw'n dod, dau fachgen 18/19 ac yn dweud 'follow us' - doedd yr afon ddim yn ddwfn, ond o'dd cerrig mawr. A 'ma nhw'n guidio ni dros yr afon, a phryd ddaethon ni i'r ochr arall, 'ma crowd ohonyn nhw'n dod a phwsio ni allan o'r dŵr."

Mae atgofion Mair o rai o'r digwyddiadau ar ei gwyliau teuluol yn parhau yn fyw yn y cof, a hynny dros 50 mlynedd yn ddiweddarach.

Bob haf, byddai Mair a'i theulu - ei thad Emlyn, ei mam Rebecca a'i brawd Alun - yn mynd am wyliau am o leiaf mis i leoliadau mae hi'n anodd dychmygu mynd iddyn nhw hyd yn oed heddiw, gan gynnwys Groeg, Moroco a Syria. Mewn car Ford Zephyr Zodiac oedd y teulu'n teithio, a hynny yr holl ffordd o Ystradgynlais.

Ffynhonnell y llun, Mair Godley
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu - Emlyn, Mair, Rebecca ac Alun, gyda 'Nwn', y car ffyddlon. Rhyw fis cyn y daith i Jerwsalem, roedd rhaid mynd i Lundain i ôl y fisas

Chwilfrydedd

Mae Mair yn disgrifio'i thad fel 'dyn oedd eisiau gwybod popeth am bob dim', ac roedd ganddo chwilfrydedd am wledydd eraill, y byd a'u pobl.

Doedd profiad gafodd yntau a'i wraig yn yr Iseldiroedd yn 1939 ddim wedi gwanhau'r chwilfrydedd hynny; llwyddon nhw o drwch blewyn i adael y wlad ar y llong olaf yn dilyn ymosodiad y Natsïaid, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.

Ffynhonnell y llun, Mair Godley
Disgrifiad o’r llun,

Emlyn a Rebecca ger Eglwys y Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem. Pasiodd y cwpl eu hysbryd am antur ymlaen i'w plant

Roedd gwyliau'r teulu yn dechrau wythnosau os nad misoedd cyn y daith ei hun, wrth i Emlyn fynd ati o ddifrif i ymchwilio cyrchfan y gwyliau a'r daith roedden nhw am ei dilyn yn drwyadl, drwy bori drwy lyfrau hanes a theithio, a hyd yn oed y beibl a oedd yn cael ei ystyried ganddo yn 'great source of knowledge' yn ôl ei ferch:

"O'dd e'n hala orie yn gneud ei research. Ac o'dd e'n mwynhau hwnna gyment, o'dd hwnna'n rhan o'r daith iddo fe."

Roedd hyn cyn technoleg sat-nav, wrth gwrs, felly ynghyd â gwaith ymchwil eu tad, roedd rhaid i weddill y teulu astudio mapiau o'u teithiau yn ofalus cyn dechrau'r gwyliau hefyd.

Ffynhonnell y llun, Mair Godley
Disgrifiad o’r llun,

Mair heddiw yn y gadair enillodd ei thad, W Emlyn Jones yn Eisteddfod San Clêr yn 1938

'Do you speak English...?'

O Moroco i Libanus, o Rufain i Syria, cafodd y teulu brofiadau anhygoel ar eu teithiau, ond wrth gwrs, ambell i dro trwstan hefyd. Ynghyd â gorfod gyrru drwy afon yn Nhwrci, cafodd y car anffawd yn yr Iorddonen, cofiai Mair:

"O'n ni wedi mynd yn hwyr yn y nos lan y mynydd. A doedd dim traffig o gwbl, mond ni a'r mynydde. O'dd carreg mawr yng nghanol y ffordd, ac yn lle mynd rownd fe, penderfynu mynd dros ei ben e. 'Naeth e dwll mawr yn y tanc petrol, ac o'dd gwynt y petrol yn immediate.

"O'dden ni bron ar y top, ac aethon ni lawr â thair olwyn, a 'naethon ni stopio mewn pentref, ddim yn bell o Jerico. Roedd dynion yn eistedd tu allan i dai bach, a'n nhad yn gofyn os oedd rhywun yn gallu siarad Saesneg - ac un o'r dynion yn dala'i law lan i ddweud 'arhoswch' a ddaeth e nôl â dyn, meddai 'how can I help you?'.

"O'dd e ddim yn filwr ond o'dd e'n attached i'r fyddin Brydeinig ac yn gweithio ar tancs a jeeps. 'Ma fe'n tynnu'r tanc ffwr' a'i 'neud e, ac o'dden ni'n wide-eyed yn gweld hyn yn digwydd."

Ffynhonnell y llun, Mair Godley
Disgrifiad o’r llun,

Alun, Mair a Rebecca gyda dau ddyn lleol a'u 'mabwysiadodd', uwch Damascus

Bu 'Nwn' (oherwydd y plât rhif, NWN 555) yn gerbyd ffyddlon i'r teulu ar eu hanturiaethau, ac yn wely iddyn nhw ar ambell i achlysur hefyd. Droeon eraill, byddai'r teulu yn cysgu mewn pabell, neu hyd yn oed yn yr awyr agored, eglura Mair:

"Dwi'n cofio yn Groeg ac yn y mynyddoedd ym Macedonia, cysgu o dan y sêr. Blanced ar y ddaear, ac edrych lan a chlywed sŵn anifeiliaid.

"Yn y bore, berwi tegil, a 'neud ring o gerrig a cynnu tân a gneud paned o de, ac ambell waith, cael wyau. O'dden ni'n cael gymaint ag y gallen ni fel tasen ni gartref."

Ar gof a chadw i'r cenedlaethau nesaf

Byddai Emlyn yn ysgrifennu am eu holl brofiadau yn ystod eu gwyliau, gan geisio annog y plant i wneud yr un fath.

"O'dd e'n dweud wrtha i 'cofia bo' ti'n gwneud hwn, achos un diwrnod byddi di moyn gwybod beth, pryd, pam'," eglurodd Mair. "Yr holl amser, o'dd e'n darllen ac yn ysgrifennu. Doedd e ddim yn meddwl fod llyfr am ddod allan ohono fe; o'dd e'n ysgrifennu i ni ac iddo fe."

Yn ffodus, perswadiodd ffrind iddo i droi'r cofnodion yma yn llyfrau. Dyma oedd y llyfrau teithio Cymraeg cyntaf. Cafodd Tua'r Dwyrain, ei lyfr cyntaf, ei ddisgrifio fel 'un o'r cyfrolau mwyaf llwyddiannus a gyhoeddwyd yn Gymraeg'.

Ffynhonnell y llun, Mair Godley
Disgrifiad o’r llun,

Ysgrifennodd W Emlyn Jones nifer o lyfrau yn dogfennu ei anturiaethau ledled y byd

 thirwedd a diwylliannau nifer o'r gwledydd yma wedi newid yn aruthrol ers gwyliau'r teulu yno, mae'r cofnodion yn y llyfrau bellach yn ddarlun gwerthfawr o sut leoedd oedd y gwledydd bryd hynny.

Ac fel un oedd yno mae atgofion Mair yn drysor i'r ceiswyr lloches mae hi'n dysgu Saesneg iddyn nhw mewn canolfan ger lle mae hi'n byw yn ne ddwyrain Lloegr, ac mae hi'n mwynhau siarad a chofio nôl gyda nhw, meddai:

"Mae lot fawr o Syrians, a maen nhw'n siarad am y llefydd maen nhw wedi gadael, ac mae'r enwau wedi dod nôl i fi. A fi'n cofio fe ffordd oedd e, a nawr does dim... maen nhw wedi cael rhyfel, y Russians, mae wedi bod yn ofnadwy 'na. A flwyddyn diwetha, gawson nhw earthquake, ac mae popeth yn fflat.

"Bois ifanc 'yn nhw. Maen nhw moyn gwybod ffordd oedd e flynyddoedd yn ôl, fel tasen nhw'n gofyn i Mam-gu."

Pynciau cysylltiedig