O sefydlu siop lyfrau Cymraeg cyntaf Caerdydd i grwydro'r byd
- Cyhoeddwyd
Roedd siop lyfrau Cymraeg cyntaf Caerdydd yn Arcêd y Castell yn denu cwsmeriaid fel Dylan Thomas, Saunders Lewis a Dafydd Iwan.
Sefydlwyd The University Bookshop, oedd yn gwerthu llyfrau Cymraeg ac yn daparu llyfrau arbenigol i fyfyrwyr y brifddinas, gan y diweddar Beti Rhys.
Mewn rhifyn diweddar o Cofio ar Radio Cymru, mae archif o Beti yn rhannu straeon am ei theithiau ledled y byd ar ôl gadael byd busnes.
Yr hanesydd Dr. Elin Jones, nith i Beti, sy'n cofio ei modryb arbennig; ei mentergarwch a'i natur feddylgar.
Agor siop lyfrau Cymraeg cyntaf Caerdydd
Ganed Beti i deulu o athrawon, siopwyr a gweinidogion Cymraeg eu hiaith, a theulu hefyd oedd yn awyddus i ddiogelu a dathlu'r iaith honno. Roedd yr Archdderwydd Dyfed (Evan Rees) yn ewythr i'w thad, ac yn arwr i'w deulu. Un o atgofion cynharaf Beti oedd cael ei gwisgo mewn gwisg Gymreig a'i rhoi i sefyll ar stôl fach er mwyn i gynulleidfa glywed ei siars iddynt:
"Chwi dadau a mamau hen wlad y gân
Na thorrwch y felys dant.
Sefwch i fyny dros ein Cymru glân -
A DYSGWCH GYMRAEG I'CH PLANT!"
Ac roedd Cymru a'r Gymraeg yn ganolog i Beti ar hyd ei hoes hir.
Roedd mam Beti'n yn chwaer i'm Mam-gu, ac roedd y ddau deulu'n agos iawn. Cefais fy ngeni yn nghartref teulu Beti yng Nghaerdydd, ac roedd Beti fel modryb i fi - yn ail fam, yn wir, wedi marw fy mam ym 1987.
Enillodd Beti ysgoloriaeth i Ysgol Howells yng Nghaerdydd, cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, i wneud gradd BA, ac MA wedyn, yn y Gymraeg. Yna dilynodd batrwm y teulu a mynd yn athrawes. Ond ni chafodd lawer o hwyl ar y gwaith, a phenderfynodd roi'r gorau i'w swydd ddiogel a mentro i fyd busnes.
Roedd hi wedi cadw cysylltiad gyda nifer o staff coleg y brifysgol yng Nghaerdydd, a sylweddolodd fod angen siop arbenigol ar gyfer y myfyrwyr, lle fyddai'r gwerslyfrau angenrheidiol ar gael iddynt. Felly aeth ati i ddarganfod pa lyfrau a argymhellwyd ar gyfer y gwahanol gyrsiau gradd, a'u harchebu.
Rhentodd siop fach yn Arcêd y Castell a sefydlwyd The University Bookshop yno ym 1950. O le ddaeth yr arian? Gweinidog oedd ei thad. Roedd Beti wedi llwyddo i gael £5 neu £10 gan lu o'i ffrindiau a pherthnasau a chrynhoi digon i dalu am y llyfrau a rhent misoedd cyntaf y siop.
'Dylan Thomas yn gwsmer nad oedd yn prynu dim'
Roedd yn llwyddiant o'r dechrau. Roedd Beti'n gyfarwydd â byd y brifysgol, yn deall gofynion a phroblemau myfyrwyr, ac yn abl i'w trafod yn gall gyda'i chwsmeriaid.
Er ei bod yn annwyl ac yn ddiymhongar, roedd ganddi feddwl miniog a dawn busnes ar ben hynny. Byddai pob archeb yn cael ei gyflenwi'n brydlon, a photensial unrhyw gwsmer i ddenu mwy o fusnes ei asesu'n graff. Llwyddodd i ennill archebion parhaol gan nifer o ysgolion Caerdydd a'r cylch, gan gynnwys Coleg yr Iwerydd.
A'r Gymraeg yng nghanol y bwrlwm busnes? Roedd dau lawr i'r siop fechan, ac roedd y llyfrau Cymraeg i gyd ar y llawr gwaelod. Roedd yn bosibl i bori yno am oriau, er roedd Beti'n cadw llygad barcud ar ei stoc.
Ond roedd mwy i'r siop na busnes yn unig. Roedd personoliaeth annwyl Beti'n troi ei chwsmeriaid yn ffrindiau, a daeth y siop yn ganolfan gymdeithasol i Gymry Caerdydd a'r cyffiniau. Siop fechan iawn ydoedd, ond daeth rhai o fawrion Cymru yno i brynu, i drafod ac - weithiau - i wasanaethu. Credaf fod Dafydd Iwan wedi helpu yno pan yn fyfyriwr yng Nghaerdydd, ac roedd awduron enwog wedi troi mewn i brynu neu jyst i gael sgwrs. Daeth Dylan Thomas yno hefyd, ond yn ôl Beti nid oedd wedi prynu dim.
Erbyn i fi gyrraedd fy arddegau hwyr, roedd croeso i fi fynd i helpu yn y siop ar ddydd Sadwrn - a chael dewis unrhyw lyfr yn dâl am fy ngwaith. Unwaith i fi fynd i'r brifysgol, dechreuais aros gyda Beti a rhannu fy amser wedyn rhwng llyfrgell y brifysgol a'r ddwy siop: erbyn y 1960au roedd Beti wedi agor siop arall yn Park Place. Roedd y siop honno'n arbenigo yng ngwerslyfrau'r brifysgol, tra bod siop Arcêd y Castell yn canolbwyntio ar lyfrau Cymraeg, er bod rhai gwerslyfrau yno o hyd.
Gwerthu'r siopau i deithio'r byd
Yr Eisteddfod Genedlaethol oedd un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i Beti. Roedd ganddi garafan fechan fach, a phob haf am flynyddoedd y byddai'n ei llwytho a'i gyrru i'r Eisteddfod. Dwi ddim yn ei chofio'n cael stondin yno ar gyfer y siop ond rwy yn cofio y byddai wrth ei bodd yn y Babell Lên a'r pafiliwn - ac yn cwrdd â'i llu o ffrindiau ar y maes, wrth gwrs.
Dwedai'n gyson y byddai'n ymddeol yn 60 a theithio'r byd: a dyna'n union beth wnaeth hi. Gwerthodd y siopau yn haf 1968, ac aeth ar fws o Lundain yr holl ffordd i'r India. O hynny ymlaen roedd yn teithio'r byd. Cadwodd gysylltiad gyda'r cwsmeriaid/ffrindiau ac ymwelodd â nhw ym Mheriw, Kenya, Mexico, Canada, Rwsia... doedd dim stop arni!
Byddai'n tynnu lluniau a chymryd nodiadau, wedyn rhoi trefn ar bethau a mynd i ddarlithio ar draws Cymru. Rhai o'r darlithiau hyn oedd sail ei llyfrau - I'r India a Thu Hwnt, a Chrwydro'r Byd. Ysgrifennodd Beti gofiant hefyd - Bywyd a Gwaith Dyfed, sef hanes ewythr enwog ei thad.
Erbyn iddi gyrraedd ei 70au rhoddodd Beti'r gorau i grwydro'r byd ar ei phen ei hun ond mwynheodd fynd ar wyliau gyda ffrindiau - a minnau'n un ohonynt weithiau. Roedd ei phersonoliaeth hoffus, ei gwybodaeth eang a'i diddordeb mewn pawb a phopeth yn cyfoethogi'r gwyliau hyn.
Yna, pan oedd Beti ar fin dathlu ei 80, penderfynodd werthu ei chartref yng Nghaerdydd a phrynu fflat ar lan y môr yn Aberystwyth. Jiw, am sioc! Ond, unwaith eto, er bod Beti'n barod i fentro, roedd wedi cynllunio'n ofalus. Roedd ganddi ffrindiau yn Aberystwyth (wrth gwrs), ac roedd y dref honno yn haws iddi nawr na Chaerdydd, meddai - popeth o fewn cyrraedd. Cafodd fywyd llawn a difyr yn ystod y blynyddoedd nesaf ac fe wnaeth ragor o ffrindiau - rhai ohonynt genhedlaethau'n ifancach na hi.
Cefnogaeth, cysur a chariad Beti
Mae'n amlwg erbyn hyn taw person hynod o fentrus a dewr oedd Beti Rhys. Cefais brofi ei dewrder, ei doethineb a'i chariad yn ystod y blynyddoedd enbyd hynny pan roedd Gwyn fy ngŵr yn dioddef o sgitsoffrenia. Un bore, pan roedd Gwyn yn amlwg yn dechrau colli ar ei hun, dwedodd Beti'n blaen; 'Wel, Elin, mae e off ei ben. Beth wyt ti mynd i wneud amdano fe?', gyda'r atodiad ymarferol a nodweddiadol -"... rwy'n nabod seiciatrydd da".
Ei geiriau hi a'm deffrodd i ddifrifoldeb y salwch, a byddaf yn cofio hyd ddiwedd fy mywyd ei charedigrwydd, a'i chroeso i'r ddau ohonom yn y blynyddoedd blin a ddilynodd y bore hwnnw. Hyd yn oed pan oedd Gwyn ar ei waethaf, a llawer o ffrindiau a pherthnasau eraill yn cefnu arnom, mynnodd Beti fod croeso iddo yn ei chartref hi, beth bynnag fyddai ei gyflwr.
Ond mae cymylau'n dod ar ddiwedd oes a dyna oedd hanes Beti hefyd. Er i ni ddathlu ei 90 gyda phartïon ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, dyna ddiwedd y blynyddoedd da. Dechreuodd golli ei golwg - ergyd ofnadwy i rywun oedd yn byw ym myd y llyfrau - ac yna ddechreuodd ei hiechyd ddirywio'n gyflym. Daeth yn ôl i gael gofal nyrsio yng Nghaerdydd, ac yno y bu farw.
Gallwch wrando ar Cofio i glywed Beti Rhys yn tafod ei thaith gyntaf.
Hefyd o ddiddordeb: