Drakeford: 'Gething heb dorri'r cod gweinidogol'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi penderfynu nad yw'r ymgeisydd i'w olynu, Vaughan Gething wedi torri'r cod gweinidogol.
Roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi ysgrifennu at Mark Drakeford ar ôl i Mr Gething dderbyn £200,000 mewn rhoddion gan Dauson Environmental, sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Dywedodd Mr Drakeford mewn llythyr nad yw'r cod gweinidogol yn llywodraethu rhoddion i Aelodau'r Senedd.
Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Mr Drakeford o amddiffyn Mr Gething.
Mae disgwyl iddyn nhw ysgrifennu ato eto, ar ôl iddi ddod i'r amlwg ddydd Llun fod angen sêl bendith Gweinidogion Cymru ar yr un cwmni i adeiladu fferm solar ar Wastadeddau Gwent.
Mae Mr Gething yn un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.
Mae'r rhodd o £200,000 - a wnaed mewn dau swm ar wahân o £100,000 - ar gyfer ymladd yr ymgyrch arweinyddiaeth honno.
Dywedodd Mr Davies fod derbyn y rhoddion yn codi amheuaeth ar farn Mr Gething.
Mae Mr Gething yn dweud bod y rhoddion wedi'u "gwirio a'u ffeilio'n gywir".
Dywedodd Mr Drakeford yn ei lythyr: "Nid yw'r Cod Gweinidogol yn llywodraethu'r broses ar gyfer derbyn rhoddion i Aelodau'r Senedd. Mae'r rhain yn cael eu gosod a'u rheoleiddio gan y Comisiwn Etholiadol.
"Mae system ar waith ar gyfer cofnodi a diogelu buddiannau gweinidogion, a byddwn yn disgwyl i roddion a wnaed yn ystod yr ymgyrchoedd hyn gael eu cynnwys mewn datganiadau yn y dyfodol."
Wrth ymateb dywedodd Andrew RT Davies: "Trwy fethu ag ymchwilio i Vaughan Gething, mae'r Prif Weinidog yn caniatáu i ganfyddiad o wrthdaro buddiannau barhau o'i gwmpas.
"Mae maint y rhoddion hyn, ynghyd â'r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn dyfarnu ar gynlluniau busnes y cwmni sy'n rhoi'r rhodd, yn cyfiawnhau ymchwiliad.
"Ni ddylai Mark Drakeford amddiffyn Vaughan Gething rhag ymchwiliad, dim ond oherwydd bod Gething yn rhedeg i fod yn Brif Weinidog."
Mae'r cod gweinidogol yn set o reolau y disgwylir i weinidogion y llywodraeth eu dilyn.
Mae'n nodi: "Rhaid i weinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro'n codi, neu y gellid yn rhesymol ei weld yn codi, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat, boed yn ariannol neu fel arall."
Daeth y newyddion am y cais cynllunio am fferm solar i'r amlwg ddydd Llun, ac mae'r BBC wedi cael gwybod nad oedd Mr Gething yn ymwybodol ohono cyn iddo dderbyn y rhodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Mr Gething na fyddai mewn sefyllfa i benderfynu ar y cais gan fod y rheolau yn atal gweinidogion rhag penderfynu ar faterion yn eu hetholaethau eu hunain.
Mae'r safle arfaethedig yn ardal Tredelerch, Caerdydd, yn etholaeth Mr Gething - De Caerdydd a Phenarth.
Pe bai'n ennill a dod yn Brif Weinidog, byddai gweinidog arall yn gwneud y penderfyniad hwnnw.
Gwrthododd Mr Neal rhag gwneud sylw ar y rhoddion pan gafodd ei holi gan y BBC ddydd Llun.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024