Traffig Twickenham yn atal Camp Lawn yn '94?

  • Cyhoeddwyd
emyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Wedi'r golled yn erbyn Yr Alban ym mhenwythnos agoriadol Chwe Gwlad 2024, mae carfan Warren Gatland yn teithio i Lundain i wynebu tîm Lloegr sydd hefyd yn ailadeiladu yn dilyn Cwpan y Byd.

Prif Sylwebydd Rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies, sy'n hel atgofion cyn-flaenasgellwr Cymru, Emyr Lewis.

line

Dyddiau tywyll dechrau'r 90au

Wedi oes aur y 70au fe ddaeth 'na gyfnod hesb i dîm rygbi Cymru ar ddiwedd yr 80au a dechrau'r 90au, ac roedd y disgwyliadau'n pylu fesul blwyddyn.

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer y bencampwriaeth 30 mlynedd yn ôl doedd dim argoel o'r hyn fyddai'n dod dros y ddeufis nesa', pan ddaeth y tîm yn agos i gipio Camp Lawn am y tro cyntaf ers 1978. Ond, Lloegr a digwyddiad amheus fyddai'n atal tîm Ieuan Evans yn y pen-draw, ond mwy am hynny yn y man.

Er mwyn cael y darlun cyflawn mae'n rhaid gosod y flwyddyn honno yn ei gyd-destun. Yr Hydref blaenorol fe gollodd Cymru am y tro cyntaf yn erbyn Canada yn yr hen Stadiwm Cenedlaethol yng Nghaerdydd, ond er gwaetha'r teimlad o anobaith ymhlith y genedl, doedd hyn ddim yn cael ei rannu ymysg y garfan yn ôl blaenasgellwr y tîm, Emyr Lewis.

canadaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Canada'n dathlu buddugoliaeth enwog yng Nghaerdydd o 26-24, 10 Tachwedd, 1993

"Ethon ni ar rhyw daith gyda'n gilydd wedi'r gêm yn erbyn Canada, a oedd llawer yn gryfach bryd hynny gyda llaw.

"Ethon ni fewn i'r gêm gyntaf yn erbyn Yr Alban, oedd hi'n arllwys y glaw - Nigel Walker yn mynd bant ag anaf i'w ben, bron yn ceisio ymladd y ffysio Mark Davies, a mwy ne' lai yn gorfod cael ei gario o'r cae, a Mike Rayer yn dod arno i sgori dau gais a cael buddugoliaeth. Dwi'n credu o'r foment yno fe dyfodd y momentwm a'r hunan-gred."

Curo'r Alban ac Iwerddon

Ac roedd y Tarw, fel roedd Emyr yn cael ei adnabod ymhlith ei gyfoedion, yn iawn i deimlo'r hyder yma. Ar ôl 'sgubo'r Alban o'r neilltu o 29-6 fe drechwyd y Gwyddelod mewn gêm glos a chorfforol yn Lansdowne Road.

moonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rupert Moon, mewnwr y tîm cenedlaethol pan enillodd Cymru yn Nulyn yn 1994

Yr awygylch a'r angerdd

Yn y drydedd gêm fe ddaeth 'na her enfawr ar y gorwel wth i'r Ffrancwyr ymweld â'r brifddinas heb golli yn erbyn Cymru mewn deuddeg mlynedd.

"Honna oedd y gêm oedd pawb yn poeni amdano achos doedden i heb faeddu Ffrainc ers achau a fe roedd gymaint o enwe mawr ganddyn nhw - sêr rhyngwladol drwyddi draw fel Benazzi, Benetton, Roumat a Sella. Tîm anhygoel, ond aethon ni mas a rycio popeth oedd o'n blaenau... weden i ein bod ni wedi rycio tamed bach yn ormodol!

"Ond doedd Ffrainc ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ac yn methu'n lân â dygymod a'r awyrgylch, yr angerdd a phob dim."

Roedd Cymru'n drech na grym y Ffrancwyr, a cheisiau Scott Quinnell a Nigel Walker (oedd nôl yn holliach) yn sicrhau buddugoliaeth gofiadwy o 24-15. Tair allan o dair felly ac roedd Cymru'n anelu am y Gamp Lawn. Ond yn benderfynol o darfu ar y parti o'dd yr hen elyn, Lloegr, a oedd â'u bryd hefyd ar ennill y bencampwriaeth.

scott quinnellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Scott Quinnell yn sgorio cais gofiadwy yn erbyn Ffrainc yn y fuddugoliaeth 24-15, ar 19 Chwefror

Fe lwyddodd Cymru i lorio'r hen elyn yn gwbl annisgwyl y flwyddyn gynt. Ond un peth oedd gwneud yng Nghaerdydd; her cwbl wahanol fyddai ennill yn 'HQ', a oedd yn dipyn o gadarnle bryd hynny o dan arweinyddiaeth Will Carling.

'Paratoadau ar chwâl'

Roedd maint y dasg yn amlwg ond yn un nad oedd tu hwnt i'r criw y flwyddyn honno. Doedd Cymru heb golli a'r hyder yn llifo drwy'r gwythiennau, a doedd Lloegr heb fod ar eu gorau y flwyddyn honno ac eisoes wedi colli yn erbyn y Gwyddelod.

Fe roedd 'na gyfle gwirioneddol felly i greu hanes ond yn anffodus fyddai 'na anawsterau cyn hyd yn oed cicio pêl!

"Droeon ni lan yn hwyr i Twickenham - o'n ni'n disgwyl i'r heddlu ddod i'r gwesty i'n cludo ni at y maes a droeon nhw ddim lan ac felly o'n ni'n styc mewn traffig. O'dd hi mor wael rhyw 40 munud cyn y gic gyntaf gyrhaeddon ni!

"Bu'n rhaid i ni newid ar y bws felly mi oedd ein paratoadau ar chwâl, oedd ein meddylia ni ddim ar y gêm a dechreuodd Lloegr ar dân, oedden ni ar ei hôl hi o fewn dim a gaethon ni waith ddod nôl."

cymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y canolwr Phil de Glanville yn hollti amddiffyn Cymru

A dyna fel y bu, Lloegr enillodd y gêm ond roedd gwahaniaeth pwyntiau'r Cymry y flwyddyn honno ar hyd yr ymgyrch yn ddigon i sicrhau'r Bencampwriaeth, a theimlad rhyfedd oedd gweld Ieuan Evans yn codi'r gwpan er gwaetha'r golled.

cwpanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ieuan Evan yn codi tlws y Pum Gwlad yn dilyn y golled yn erbyn Lloegr yn Twickenham

"O'dd hi'n fflat iawn - rhyw deimlad hanner gwag. Gollon ni gyfle does dim dwywaith ac mae'r ymgyrch yn cael ei anghofio i raddau oherwydd fethon ni ennill y Gamp Lawn na chipio Coron Driphlyg. Doedd ennill y Bencampwriaeth ddim yn hawlio'r un statws ag yw hi yn yr oes fodern ac falle bod llwyddiant '94 wedi mynd yn angof rhywsut."

Gwir gamsyniad neu rywbeth yn fwy sinistr ar waith - pwy a ŵyr? Ond 30 mlynedd yn ddiweddarach siawns mai grym y gwrthwynebwyr ar y cae ac nid traffig de orllewin Llundain fydd yr unig rwystr y tro hwn...

caiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un chwaraewr fydd ar y fainc yn erbyn Lloegr yn Llundain ddydd Sadwrn fydd Cai Evans, mab Ieuan. A fydd y garfan mae Cai'n rhan ohoni'n gallu cyflawni'r hyn a oedd tu hwnt i afael tîm '94, ac ennill yn Twickenham?

Hefyd o ddiddordeb: