'Dim cymuned ar ôl' os yn dymchwel Ysgol Godre'r Graig
- Cyhoeddwyd
"Does gennym ni ddim byd heb yr ysgol."
Yn ystod haf 2019, fe gaeodd Ysgol Gynradd Godre'r Graig ger Ystalyfera ei drysau oherwydd pryderon bod risg o dirlithriad yn gysylltiedig â thomen chwarel gyfagos.
Fe symudodd y disgyblion i gabanau dros dro gyferbyn ag Ysgol Gymunedol Cwmtawe ym Mhontardawe.
Ar 1 Mawrth mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu dechrau'r gwaith o ddymchwel y safle gwreiddiol, gan ddweud bod opsiynau eraill - gan gynnwys cael gwared ar y domen - "wedi eu diystyru".
Mae trigolion lleol yn gwrthwynebu'r cynlluniau gan ddadlau byddai'r adeilad o ddefnydd i'r gymuned fel hwb cymunedol.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi gofyn am ganiatâd gan swyddogion addysg i adeiladu ysgol newydd ar safle gwahanol.
Mae rhieni a thrigolion lleol yn gwrthwynebu'r cynlluniau i ddymchwel Ysgol Godre'r Graig, gan ddweud mai'r ysgol yw "calon y gymuned", ac maen nhw'n galw am ailagor y safle.
Yn ôl y Cynghorydd Emyr Wyn Williams, pe bai'r adeilad yn diflannu dim ond "casgliad o dai" fyddai ar ôl yn hytrach na chymuned.
Mae Lisa Williams a Bethan Thomas yn byw yn Godre'r Graig ac mae gan y ddwy blant yn yr ysgol.
Yn ôl Bethan mae ei merch yn colli allan ar brofiad o fod yn rhan o gymuned.
"Nid yw fy ieuengaf erioed wedi cael profiad o fod yn yr ysgol hon, nid yw erioed wedi bod yn rhan o gymuned yn y ffordd y mae fy mhlant hŷn wedi cael," meddai.
"Mae'n rhaid iddi fynd ar fws am dair milltir lawr i'r ysgol gyfun. Mae'n brofiad brawychus iawn iddi ddod bant y bws a mewn i ysgol gyfun."
Ychwanegodd fod y "diffyg cyfathrebu â rhieni eraill, a'r diffyg teimlad cymunedol yn wirioneddol drist. Mae hynny i gyd wedi mynd".
'Dal methu credu'r sefyllfa'
Ychwanegodd Lisa: "Y rheswm wnes i anfon fy mhlant i Godre'r Graig oedd oherwydd y teimlad cymunedol agos.
"Ond gyda fy merch ieuengaf yn cael ei dysgu mewn cabanau dros dro mae hi wedi colli hynny i gyd.
"Yr ysgol oedd canolbwynt y gymuned. Dyma lle wnaethon ni wneud y cysylltiadau hynny gyda phobl eraill.
"Heb yr ysgol mae'n rhwygo calon y gymuned allan a heb yr ysgol does gennym ni ddim byd.
"Fi dal methu credu'r sefyllfa. Ni'n gweld pobl yn byw ar y stryd hon yn hapus heb unrhyw broblemau, ond eto mae'r ysgol ar gau oherwydd maen nhw'n dweud ei bod hi'n anniogel.
"Mae'n gwbl ddisynnwyr ein bod ni'n dal yn y sefyllfa hon pum mlynedd yn ddiweddarach."
Y llynedd fe wnaeth y cyngor ddileu cynlluniau dadleuol ar gyfer ysgol enfawr newydd yn yr ardal, fyddai wedi golygu cau ysgolion cynradd Godre'r Graig, Alltwen a Llangiwg.
Fel rhan o'r cynlluniau, byddai'r ysgolion hynny wedi bwydo mewn i ysgol newydd ym Mhontardawe ar gyfer 630 o ddisgyblion llawn amser a 140 o ddisgyblion meithrin rhan amser.
Yn dilyn gwrthwynebiad gan ymgyrchwyr iaith a thrigolion, dywedodd dirprwy arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot, Alun Llewelyn, ar y pryd "ei bod yn bwysig bod y cyngor yn gwrando ar deimladau'r gymuned, y rhieni, a llywodraethwyr a disgyblion".
Dywedodd fod y cyngor am weld pa ddyfodol sydd i'r ysgolion cymunedol a bod "llawer o waith i'w wneud".
'Risg lefel ganolig'
Yn 2021 comisiynodd y cyngor adroddiad ar y safle gan Bartneriaeth Gwyddor Daear Caerdydd.
Bu'n ystyried nifer o bosibiliadau ar gyfer safle'r ysgol a'r domen, gan gynnwys cael gwared ar y deunydd gwastraff sy'n gysylltiedig â'r domen, yn ogystal â gwneud gwaith peirianneg caled, megis gwaith draenio, i amddiffyn yr ysgol rhag unrhyw lithriad posibl yn y dyfodol.
Yn ôl amcangyfrifon, byddai hi wedi costio dros £6m i gael gwared ar y domen.
Dywedodd yr adroddiad fod y domen "yn nodi risg lefel ganolig" i'r ysgol, a bod y perygl o dirlithriad i dai pobl sy'n byw yn yr ardal yn "isel i isel iawn".
Yn ôl Susie Davis, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Godre'r Graig, mae angen i'r cyngor ateb cwestiynau ynghylch sut y daeth i ddeall yr adroddiad.
"Mae 'na gymaint o gwestiynau heb eu hateb ynglŷn â'r penderfyniad i gau'r ysgol a'r adroddiadau a sut maen nhw wedi cael eu dehongli," meddai.
"Maen nhw wedi cael eu dehongli gyda'r meddylfryd mwyaf o risg.
"Os y' chi'n dehongli unrhyw ysgol gyda'r meddylfryd hwnnw, bydd y rhan fwyaf o ysgolion mewn perygl a bydd yn rhaid iddynt gau, ond am ryw reswm maent wedi dewis cau'r un hon."
Ychwanegodd fod y cyngor wedi "addo na fyddai'r ysgol yn cael ei dymchwel nes i ni ddod o hyd i gartref parhaol arall, ond pum mlynedd yn ddiweddarach ac rydym dal mewn cabanau dros dro".
'Cwmwl du uwch ein pennau'
Yn ôl Emyr Wyn Williams, cynghorydd lleol, mae'r pum mlynedd ddiwethaf wedi bod yn "hunllef".
"Mae gymaint o ansicrwydd wedi bod i ni fel trigolion. Mae wedi bod yn hollol ofnadwy.
"Ni'n gwybod o ran adroddiadau fod y mynydd yn ddiogel, ond dydi'r cyngor sir ddim wedi adrodd hynny i bawb. Mae cwmwl du uwch ein pennau ni oherwydd hyn.
"Tip cerrig sydd ar ben y mynydd. Os bydd y tip yn cael ei symud wedyn fydd yna ddim problem.
"Mae gan y Senedd arian ar gyfer tomenni glo a cherrig a 'da ni eisiau'r cyngor i ddod mas i edrych a gwirio hyn."
Mae'r Cynghorydd Williams hefyd yn dadlau fod y cyfan yn cael effaith ar les unigolion.
"Mae fe'n achosi iselder ofnadwy yma. Yr ysgol yw calon y pentref. Dyma'r peth diwethaf sydd gyda ni ar ôl yn y pentre'.
"Os ydyn nhw'n benderfynol bod angen ysgol newydd, fi'n derbyn hynny. Ond bydd yr adeilad hwn yn berffaith ar gyfer hwb cymunedol, i ni gael defnyddio fel ni eisiau.
"Mae angen i'r adeilad fod yma o hyd. Yn ddelfrydol hoffwn ni weld yr ysgol yn ailagor, ond yr adeilad yw'r peth pwysig.
"Heb yr adeilad, 'sdim cymuned ar ôl. Casgliad o dai yw e, dim cymuned."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Godre'r Graig eu symud i ystafelloedd dosbarth dros dro yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn 2019 ar ôl i arbenigwyr daearegol Earth Science Partnership (ESP) dynnu sylw Cyngor Castell-nedd Port Talbot at risg i'r ysgol o chwarel ar dir uwchben yr ysgol.
"Fe wnaeth aelodau o gyfarfod Bwrdd Cabinet Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydoedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar ddydd Gwener 2 Rhagfyr 2022 gytuno ar gynlluniau i ddymchwel yr ysgol ar ôl cafodd opsiynau eraill, gan gynnwys cael gwared ar y domen, eu diystyru.
"Ar 20 Tachwedd 2023 cytunodd cabinet y cyngor i ofyn am ganiatâd - drwy swyddogion addysg - ar gyfer cynlluniau ar gyfer adeilad newydd, cyfrwng Saesneg, gwerth £17m yn lle Ysgol Gynradd Godre'r Graig ar Heol Gnoll, Godre'r Graig, gan ddarparu lle i 210 o ddisgyblion llawn amser a 30 o leoedd meithrin rhan-amser.
"Mae'r broses honno'n parhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021