Cynllun ysgol enfawr Pontardawe yn 'anghyfreithlon'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Uchel Lys wedi dyfarnu bod penderfyniad i godi ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg yn ardal Pontardawe yn "anghyfreithlon" oherwydd methiant i asesu effaith y cynllun ar ysgolion Cymraeg lleol.
Bwriad Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw cau tair ysgol gynradd Saesneg - Alltwen, Godre'r Graig a Llangiwg - er mwyn sefydlu un ysgol fawr ar safle Parc Ynysderw.
Llwyddodd y mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) i sicrhau adolygiad barnwrol a gafodd ei gynnal yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf.
Cyhoeddodd y llys ddydd Llun bod y cyngor wedi camddehongli'r gofyn cyfreithiol, dan God Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, i gynnwys asesiad o'r effaith ar y Gymraeg yn y broses ymgynghorol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot y byddant nawr yn ystyried cynnwys y dyfarniad er mwyn penderfynu ar y camau nesaf.
Cafodd y cynlluniau, i agor ysgol newydd ar gyfer 630 o ddisgyblion a 140 o blant meithrin ym mis Medi 2024, ei hoedi fis Gorffennaf y llynedd gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles.
Gan fod bwriad i'r adeilad newydd gynnwys adnoddau fel pwll nofio newydd a chanolfan arbenigol ar gyfer plant ag awtistiaeth, roedd ofnau y byddai rhieni'n dewis anfon eu plant yno yn hytrach nag i'r ysgol Gymraeg leol.
Ym marn y barnwr, Mr Ustus Kerr, roedd y cyngor wedi methu ag ystyried y byddai ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg lleol yn ysgolion a fyddai'n cael eu "heffeithio" gan yr ysgol enfawr cyfrwng Saesneg newydd.
Fe wrthododd hefyd ddadl y cyngor y bydden nhw wedi bwrw ymlaen â'r ysgol newydd hyd yn oed pe bai'r ymgynghoriad wedi cynnwys yr asesiad angenrheidiol.
Gan groesawu'r dyfarniad, dywedodd Elin Maher, Cyfarwyddwr Cenedlaethol RhAG bod y cynllun "wedi achosi cryn bryder" i'r mudiad a'r gymuned leol "yn enwedig gan fod y Cyngor eu hunain yn cydnabod fod yr ardal yn un o bwysigrwydd ieithyddol arwyddocaol o ran y Gymraeg".
"Pan godwyd y materion hyn gyda'r Cyngor, cafwyd ymateb ffyrnig a bygythiol, ac felly hoffwn ddiolch ar ran RhAG i bawb yng nghymuned ehangach Pontardawe a gefnogodd yr ymgyrch hon.
"Ni chynhaliodd y Cyngor asesiad effaith llawn a phriodol ar yr iaith Gymraeg ac addysg Gymraeg. Oherwydd diffyg asesiad o'r fath, a'r diffyg cydnabyddiaeth o'r bygythiad sylweddol i addysg Gymraeg yn ardal Pontardawe o ganlyniad i fethiannau'r Cyngor, bu'n rhaid i ni ymyrryd. Rydym yn hynod o falch bod y Llys wedi cyfiawnhau ein safbwynt.
"Rydym yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol yn adolygu'r dyfarniad hwn yn ofalus ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cynnal asesiadau effaith ieithyddol trylwyr ar unrhyw ddatblygiadau cymunedol arfaethedig, yn enwedig ym meysydd addysg a hamdden."
'Dyfarniad o bwys i bob rhan o Gymru'
Dywed tîm cyfreithiol RhAG bod y dyfarniad yn gosod "cynsail clir ynghylch pryd y dylid cynnwys asesiad effaith ar y Gymraeg yn ystod proses ymgynghori statudol".
"Ni ddylai awdurdodau lleol barhau i ragdybio nad oes angen asesu'r effaith ar y Gymraeg os mai ysgolion cyfrwng Saesneg yn unig sydd yn cael eu sefydlu neu eu cau," maen nhw'n ychwanegu.
"Mae'r dyfarniad hwn o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru," meddai Gwion Lewis, bargyfreithiwr RhAG.
"Mae'n datgan yn glir fod yn rhaid i gynghorau asesu'r effaith ar y Gymraeg pa bryd bynnag y bydd gwir bosibilrwydd y gallai cynllun i agor ysgol newydd effeithio un ai ar ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli, neu ar hyfywedd y Gymraeg yn y gymuned."
Mae'r dyfarniad "yn newyddion da i Gwm Tawe o ran gwarchod a datblygu'r Gymraeg yn lleol", medd AS Gorllewin De Cymru, Sioned Williams, ac yn "tanlinellu natur wallus yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y cynlluniau ad-drefnu ysgolion cyfrwng Saesneg".
"Mae nawr angen ymgynghoriad newydd ar opsiynau amgen o ran ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe a sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd y cyllid a glustnodwyd ar gyfer y cynllun ac a gafodd ei oedi yn sgil y pryderon hyn, ar gael i'r Cyngor ar gyfer yr opsiynau posib eraill."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Castell-Nedd Port Talbot: "Mae'r cyngor yn nodi dyfarniad y Llys Gweinyddol.
"Bydd ystyriaeth nawr yn cael ei roi i'w gynnwys er mwyn penderfynu ar y camau nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021