Tŵr Marcwis yn ailagor i'r cyhoedd wedi degawd ynghau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Tŵr Marcwis yn Ynys Môn wedi ailagor i'r cyhoedd wedi degawd ynghau, a'n gohebydd Carwyn Jones aeth yno fore Gwener

Mae atyniad poblogaidd ar Ynys Môn, sydd wedi bod ar gau ers dros ddegawd yn ailagor i'r cyhoedd unwaith eto ddydd Gwener.

Bu'n rhaid cau Tŵr Marcwis ger Llanfairpwll, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, yn 2012 yn sgil pryderon fod y grisiau yn beryglus.

Ers hynny mae ymdrechion wedi bod i ailagor y golofn, sy'n cynnig golygfeydd panoramig o ogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Eryri, Ynys Môn a Phen Llŷn.

Ar ôl sicrhau £1.4m o gyllid mae gwaith cynnal a chadw wedi ei gwblhau, sy'n golygu bod modd croesawu ymwelwyr i'r golofn unwaith eto

Ffynhonnell y llun, Tŵr Marcwis
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan ymwelwyr newydd wedi ei hadeiladu ar y safle

Cafodd y tŵr ei godi yn 1817 fel cofeb i nodi cyfraniad Marcwis cyntaf Môn, Henry William Paget, ym Mrwydr Waterloo.

Am bron i 200 mlynedd roedd modd i ymwelwyr a thrigolion lleol ddringo'r 115 gris i fyny'r tŵr i fwynhau'r golygfeydd o uchder o 27 medr.

Mae caffi a chanolfan ymwelwyr newydd wedi ei adeiladu a'r gobaith yw y bydd Llanfairpwll a'r gymuned ehangach yn elwa o ailagor yr atyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tŵr i'w weld yn glir o lannau'r Fenai

Dywedodd rheolwr yr atyniad, Delyth Jones-Williams, wrth Cymru Fyw ym mis Ionawr fod llawer o'r diolch i'r gwirfoddolwyr a gychwynnodd yr ymddiriedolaeth i ail agor y golofn.

Wrth ail agor y lle i'r cyhoedd heddiw, dywedodd Delyth Jones-Williams : "Mi oedd y golofn wedi cau oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch, felly mi wnaeth dau wirfoddolwr oedd yn gweithio ym Mhlas Newydd, oedd yn siomedig fod y lle wedi cau, ddod at ei gilydd gyda grŵp o bobl i ddechrau'r holl broses i allu ail agor y lle".

Ychwanegodd: "Nid yn unig y tŵr, ond mae gennym ni ganolfan ymwelwyr newydd sy'n cynnwys digon o wybodaeth, mae 'na ardal i ysgolion ar y safle, ac mae'r graig blueschist, craig arbennig iawn sy'n brin iawn. Mae 'na bobl o America Tsieina ac ati wedi dod yma i weld y graig"

Fe lwyddodd yr ymddiriedolaeth i godi'r arian yr oedd ei angen i gwblhau'r gwaith gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu £872,800 tuag at y cynllun.

Pynciau cysylltiedig