Môn: Tŵr Marcwis i groesawu ymwelwyr wedi degawd ynghau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones yn trafod ailagor y tŵr eiconig

Mae disgwyl i atyniad poblogaidd, sydd wedi bod ar gau ers dros ddegawd, allu croesawu ymwelwyr unwaith eto dros yr wythnosau i ddod.

Bu'n rhaid cau Tŵr Marcwis ger Llanfairpwll, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, yn 2012 yn sgil pryderon fod y grisiau yn beryglus.

Ers hynny mae ymdrechion wedi bod i ailagor y golofn, sy'n cynnig golygfeydd panoramig o ogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Eryri, Ynys Môn a Phen Llŷn.

Ond wedi sicrhau £1.4m o gyllid, mae rheolwyr y safle yn targedu diwedd Chwefror i allu croesawu pobl leol i'r safle ar ei newydd wedd, cyn agor yn llawn yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu £872,800 tuag at y cynllun, mae gobaith hefyd y bydd ailagor yr atyniad o fudd i bentref Llanfairpwll ac Ynys Môn yn ehangach.

'Wedi bod yn golled fawr'

Cafodd Tŵr Marcwis ei godi yn 1817 fel cofeb i nodi cyfraniad Marcwis cyntaf Môn, Henry William Paget, ym Mrwydr Waterloo.

Am bron i 200 mlynedd roedd modd i ymwelwyr a thrigolion lleol ddringo'r 115 gris i fyny'r tŵr i fwynhau'r golygfeydd o uchder o 27 medr.

Ffynhonnell y llun, Tŵr Marcwis
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan ymwelwyr newydd wedi ei adeiladu wrth i'r tŵr baratoi i groesawu ymwelwyr am y tro cyntaf ers dros ddegawd

Ond bellach yn cynnig gwell cyfleusterau i ymwelwyr, mae 'na groeso yn lleol fod un o safleoedd eiconig yr ynys bellach ar fin ailagor.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol fod cau'r atyniad wedi ei deimlo'n lleol.

"Mae'r golofn i'w gweld o bob man yn Llanfair, felly mae'r ffaith fod o wedi bod ar gau ers degawd wedi bod yn golled fawr i ni," medd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones.

"Nid yn unig o ran twristiaeth ond mae'n le poblogaidd i bobl leol, ac mae'r golygfeydd o dop y golofn yn wych, a 'da ni wedi colli hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones y bydd yna "fwy o brofiad i bobl ymweld yma rŵan"

"Os welwch chi luniau o Llanfair, ac mae'r golofn i'w weld ar logo clwb pêl-droed y pentref - yn amlwg mae'n adeilad pwysig i ni."

Gan groesawu'r cyfleusterau gwell sydd bellach ar gael, gan gynnwys canolfan ymwelwyr yn ogystal â chaffi, uwchraddio'r parcio a man gwylio i'r anabl, dywedodd y gall yr ardal ehangach elwa.

"Mae'r cyfleusterau wedi eu gwella'n aruthrol a gwelliannau i'r golofn ei hun, a dwi'n meddwl fydd 'na fwy o brofiad i bobl ymweld yma rŵan.

"Fydd hi'n braf dod yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd Llanfairpwll a'r gymuned ehangach yn elwa o ailagor yr atyniad, sydd mor amlwg ar y tirlun

"Mae Llanfair yn bentref poblogaidd iawn hefo lot o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Y gobaith ydi fydd 'na fwy yn dod ac yn defnyddio eu hymweliad â'r golofn i weld y pentref a'r ardal gyfagos.

"Mae'n bwysig i ni ddenu pobl yma a'u bod yn gwario arian tra maen nhw yma."

'Gwaith yn y cefndir'

Yn ôl rheolwr yr atyniad, Delyth Jones-Williams, mae llawer o'r diolch i'r gwirfoddolwyr a gychwynnodd yr ymddiriedolaeth i ailagor y golofn.

"Mae 'na dipyn o waith wedi bod yn mynd ymlaen yn y cefndir," meddai.

"Oedd rhaid i ni wneud cais cychwynnol i'r gronfa dreftadaeth [Y Loteri Genedlaethol] a maen nhw wedi rhoi cryn dipyn i ni.

"Hebddyn nhw fysan ni ddim wedi gallu agor.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Delyth Jones-Williams fod llawer o'r diolch i'r gwirfoddolwyr a gychwynnodd yr ymddiriedolaeth i ailagor y golofn

"Ond oedd rhaid i ni ffeindio arian i fynd ochr yn ochr gyda hwnnw.

"Mae pobl wedi bod yn deg iawn hefo ni ac yn rhoi arian at y gronfa i ni allu gwireddu ailagor.

"Mae 'na waith yn y cefndir angen ei wneud eto - pethau bach sydd angen eu gwneud - ond mae tair ohonom yn gweithio rhan amser yma ac hefyd yn recriwtio gwirfoddolwyr o'r pentref.

"Mae 'na fwy o waith na mae rhywun yn feddwl o ran iechyd a diogelwch. Wyth geith fynd i fyny ar un amser. Does neb yn gallu pasio ar y grisiau felly mae dipyn o reolaeth yna.

"Ond hefyd ar y safle, cael pobl i gael mwy o ddiddordeb yn yr hanes, fel guides a ballu.

"Gwarchod y car park yn gwaelod, gweini. Mae gymaint o swyddi gwahanol ac gallu cynnig profiad gwaith i bobl leol."

Ychwanegodd mai ei gobaith yw y bydd y caffi yn dod yn "hwb cymunedol" yn yr ardal.

"Dwi'n gobeithio daw pobl leol yma, ac wrth gwrs twristiaid, drwy'r flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan ymwelwyr a chaffi bellach yn ran o'r atyniad

"'Da ni am agor yn gychwynnol i bobl leol yn unig a rhoi cyfle iddyn nhw ddod. Fydd hi'n neis cael nhw'n ôl.

"Mae bob dim yn newydd. 'Da ni isio trio gwneud yn siŵr fod bob dim yn gweithio'n iawn... 'Da ni'n anelu at ddiwedd Chwefror - dyna'r targed.

"Dwi'm yn siŵr os fyddwn ni'n agor yn llawn erbyn y Pasg, ond y bwriad ydi cael agoriad swyddogol yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fyddwn ni'n fodlon fod bob dim yn gweithio cystal ag y dylia fo."

'Fydda wedi bod yn falch iawn'

Ond tra bydd ailagor y golofn yn ddiwrnod balch i lawer o drigolion lleol, dywedodd y Cynghorydd Dyfed Jones y byddai un dyn wedi bod yn hapus iawn o weld y tŵr enwog ar ei newydd wedd.

Cyfeiriodd at y cyn-gynghorydd sir lleol, Alun Mummery, a oedd yn cael ei adnabod gan lawer fel "Mr Llanfairpwll", a fu farw yn 2022.

Disgrifiad o’r llun,

'Mr Llanfairpwll' i lawer - byddai'r diweddar Alun Mummery "wedi bod yn falch iawn o weld beth sydd wedi digwydd yma"

"Mi oedd y diweddar Alun Mummery yn gefnogwr mawr o Dŵr Marcwis ac yn frwd iawn i'w weld yn ailagor, a dwi'n meddwl fysa'n falch iawn o weld beth sydd 'di digwydd yma, a'r datblygiadau, a'r budd fydd yn dod i Llanfair," meddai'r Cynghorydd Jones.

"Dwi'n sicr yn meddwl fydda fo wedi bod yn falch iawn o weld beth sydd wedi digwydd yma."

Pynciau cysylltiedig