TB: 'Teimlo mai ystadegyn arall oedd fy nhad'

  • Cyhoeddwyd
Mark Harries gyda'i fab Tomi
Disgrifiad o’r llun,

Mark Harries gyda'i fab Tomi

Mae ffermwr ifanc a gollodd ei dad mewn damwain yn ystod prawf TB ar y fferm deuluol wedi honni nad yw sefydlu Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg yn gam ymlaen o gwbl.

Mae Mark Harries, 26 o Gefnrhiwlas ger Llandeilo wedi cwestiynu'r angen i sefydlu'r grŵp pan mae'r dystiolaeth - meddai fe - yn glir.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bwriad i sefydlu Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg ddydd Mawrth i graffu ar y polisi o ddifa ar glos y ffarm, ac i ystyried tystiolaeth a gwybodaeth gan grŵp ffocws TB NFU Cymru.

Er bod Mr Harries yn cydnabod mai damwain oedd achos marwolaeth ei dad, mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i edrych yn fanylach ar eu polisi.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y llywodraeth yn ymwybodol iawn o effaith ofidus TB buchol ar iechyd a lles ffermwyr a'u teuluoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Harries fod y sefyllfa yn "gwneud i ni deimlo, fel teulu, mai ystadegyn arall oedd fy nhad, fel buwch arall, wedi mynd"

"Faint o dystiolaeth sydd angen arni" dywedodd Mr Harries wrth gyfeirio at y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

"Mae hi wedi cael gwybod o Loegr, yr Alban ac Iwerddon mai un ateb sydd yna i leihau TB neu waredu'r clwyf - difa moch daear. Mae e mewn du a gwyn, a dyna pam mae'n gweithio.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "debygol iawn y bydd y grŵp yn dweud yr un peth wrthi. Mi allai fod wedi gwneud y penderfyniad yma y llynedd, mae'n amlwg nad oes diddordeb gyda nhw".

"Mae'r ateb o dan ei thrwyn, pam mae angen grŵp trafod i ddweud yr un peth wrthi, neu i ddadlau mai nad dyma'r ateb, pan taw dyma'r ateb mewn gwirionedd?"

Disgrifiad o’r llun,

Fferm Cefn Rhiwlas ger Llandeilo lle gwnaeth tarw ymosod ar Maldwyn Harries

Bu farw tad Mr Harries wedi ymosodiad gan darw yn ystod prawf TB ar y fferm deuluol ym mis Medi 2022.

Clywodd cwest sut y cafodd Maldwyn Harries, 58, ei daro yn anymwybodol ar ôl ymosodiad gan y tarw, a bu farw yn ddiweddarach.

Cadarnhaodd y swyddog Iechyd a Diogelwch fod yr holl offer priodol ar y fferm ar gyfer cynnal y profion.

Dywedodd y crwner for y digwyddiad yn un anarferol ac anaml, lle y gwnaeth rhywun a oedd yn gwneud gwaith gwerthfawr fel rhan o'r gymuned ffermio, golli ei fywyd.

Cafodd y tarw ei ddinistrio ar ôl profi yn bositif am TB.

'Dwi ddim yn credu bod nhw'n deall'

Gyda'r fferm yn glir o'r clefyd ers blwyddyn, mae Mr Harries yn honni nad yw Llywodraeth Cymru yn deall effaith ddychrynllyd TB ar deuluoedd ffermio a'r busnes.

"Mae'n gwneud i ni deimlo, fel teulu, mai ystadegyn arall oedd fy nhad, fel buwch arall, wedi mynd. Dwi ddim yn credu bod nhw'n deall."

Aeth ymlaen i sôn am effaith hyn ar y fferm: "Fe gafon ni ein cau lawr, ni'n lwcus erbyn hyn ein bod ni yn glir, ond fe gafon ni ein cau lawr am dros ddwy flynedd. Fe gollon ni 130, bron 140 o wartheg.

"Dim ond 30 o wartheg oedd yn cael eu godro bob dydd, dwywaith y dydd. Sut mae disgwyl i chi dalu biliau ar ôl colli 140 o wartheg?"

Mae Mr Harries yn pryderu y gallai'r sefyllfa waethygu yn sgil cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru lle mae disgwyl i 10% o'r fferm gael ei gorchuddio â choed, a 10% i'w glustnodi ar gyfer cynefin i fywyd gwyllt.

"I fi, os ydych chi yn creu 10% o gynefin ar y ffarm, yna mae'n rhoi 10% mwy o dir i'r creaduriaid gwyllt fyw arno. Efallai nid yn y flwyddyn gyntaf, neu'r ail flwyddyn, ond fe fydd y boblogaeth yn cynyddu yn y pendraw.

"Fe fyddan nhw yn palu tyllau newydd. Heb ddifa, chi'n rhoi mwy o lefydd iddyn nhw; bydd mwy o foch daear i ledu'r cyfle."

Ddydd Mercher, fe drefnwyd dadl gan Blaid Cymru ar TB mewn gwartheg.

Dangosodd aelodau'r gwrthbleidiau rwystredigaeth gyda pholisi TB presennol Llywodraeth Cymru

Dywedodd Llyr Gruffydd AS bod Llywodraeth Cymru yn troi mewn cylchoedd: "Rwy'n siwr, bod datganiad eleni yn debyg iawn i'r un deng mlynedd yn ôl. Ar ol degawd o brofi, bach iawn o dir ni wedi ennill."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llyr Gruffydd AS bod polisi TB Llywodraeth Cymru yn troi mewn cylchoedd

Fe heriwyd polisïau'r llywodraeth gan Sam Kurtz AS, llefarydd y Ceidwadwyr ar Faterion Gwledig.

Dywedodd: "Sut mae'r fath afael gan y clefyd yma, ond eto ni'n ceisio gwaredu afiechydon eraill? Pam mae'n cymryd gymaint o amser i gael gafael ar y clefyd hwn? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng TB a chlefydau eraill?"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i feddwl am deulu Mr Harries yn dilyn y digwyddiad trasig hwn.

"Ar fater achosion o TB buchol, er na allwn wneud sylw ar achosion unigol, rydym yn ymwybodol iawn o effaith ofidus TB buchol ar iechyd a lles ein ffermwyr a'u teuluoedd.

"Rydym wedi ymrwymo i archwilio dulliau eraill o ladd ar ffermydd. Blaenoriaeth gyntaf Grŵp Cynghori Technegol TB Buchol fydd edrych ar y polisi presennol o ladd ar y fferm a rhoi cyngor i weinidogion, fel mater o frys.

"Bydd y grŵp yn archwilio tystiolaeth a dogfennaeth berthnasol mewn perthynas â hyn, gan gynnwys barn gryno grŵp ffocws TB NFU Cymru, a gyfarfu fis diwethaf i drafod lladd ar ffermydd."

Pynciau cysylltiedig