Miloedd o ffermwyr yn protestio o flaen y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr amaeth yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar "ofid" cymunedau gwledig, wedi i brotest fawr gael ei chynnal y tu allan i'r Senedd.
Ddydd Mercher fe wnaeth miloedd o bobl deithio i Fae Caerdydd i wrthwynebu newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau amaeth, sy'n "anymarferol" ym marn yr undebau.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod "tua 3,000" o bobl yn rhan or dorf y tu allan i'r Senedd, ond roedd awgrym fod rhai wedi cyrraedd yn hwyr.
Yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Rydym ond yn gallu llwyddo mewn partneriaeth, mae wir angen i ni gydweithio, a dyna rydym yn gwneud."
Yn ddiweddarach fe wnaeth y gwrthbleidiau yn y Senedd bleidleisio o blaid cael gwared â Chynllun Ffermio Cynaliadwy y llywodraeth, ond ni chafodd y cynnig hwnnw ei basio.
Fe deithiodd pobl i Gaerdydd o sawl rhan o Gymru, gan gynnwys Teleri Jenkins, o Abergwaun, sy'n fam i Megan a Hari.
"Ni'n edrych ar ôl y ffermydd i'r plant iddyn nhw gael ffarmo," meddai.
"Mae'r diwydiant ffarmo yn hollol bwysig i bawb sy'n byta ac yfed."
Ychwanegodd ei bod yn anhapus gyda'r pwysau ar amaethwyr i leihau allyriadau carbon.
"Mae ffermwyr yn easy target," meddai.
Meddai Richard Jones o Frynsiencyn ym Môn: "Mwy na'm byd, 'dan ni yma i ddangos i Lywodraeth Cymru bod 'na lais gan bobl cefn gwlad Cymru.
"'Dan ni 'di trio siarad drwy'r undebau, ond 'dan ni rwan yn gorfod dod i galon Llywodraeth Cymru i brofi pwynt, bod y polisi ddim yn mynd i weithio - dydi o ddim yn one-size fits all."
Y cyn-ddyfarnwr rygbi, Nigel Owens, oedd un o'r rhai a wnaeth annerch y dorf.
"Yn 2015, cefais y fraint fawr o ddyfarnu rownd derfynol Cwpan y Byd yn Twickenham - eiliad balchaf fy ngyrfa," meddai.
"Ond heddiw rydw i hyd yn oed yn fwy balch o ddod i siarad o flaen pobl dda, weddus.
"Mae'n anrhydedd cael bod yma i siarad ac i'ch cefnogi heddiw fel cyd-ffermwr."
Ychwanegodd: "Does dim modd cael bwyd ar y bwrdd heb ffermwyr."
Dywedodd hefyd bod ffermwyr wedi protestio a chodi eu llais hyd yma mewn modd "heddychlon a chydag integrity".
"Dyna pam mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn eich cefnogi chi," meddai.
Mewn datganiad ar y cyd ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, restr o gamau gweithredu yn dilyn trafodaethau gydag arweinwyr amaeth.
Maen nhw'n cynnwys ystyried "adolygiad ar sail tystiolaeth" o'r ffyrdd y gallai ffermydd helpu amsugno allyriadau carbon, a chynnal dadansoddiadau economaidd newydd o'r cynllun cymhorthdal newydd wedi Brexit.
Mae gofyn i bob fferm sicrhau bod 10% o'r tir â choed arno er mwyn cael arian yn y dyfodol wedi bod yn hynod ddadleuol.
Ac mae asesiad effaith economaidd gafodd ei gyhoeddi gyda'r ymgynghoriad diweddaraf yn awgrymu y gallai cynlluniau'r llywodraeth arwain at 10.8% yn llai yn niferoedd da byw, ac y byddai angen 11% o doriad yn niferoedd gweithwyr ar ffermydd Cymru.
Mae gweinidogion wedi dweud ers hynny bod y dadansoddiad wedi dyddio ac nad ydyn nhw'n cymryd i ystyriaeth pob elfen o'r cynllun cyllido newydd.
Ond fe sbardunodd y ffigyrau gyfarfodydd protest yn Y Trallwng a Chaerfyrddin a ddenodd filoedd ac mae nifer o ffermwyr wedi bod yn gwrthdystio drwy yrru tractorau'n araf ar ffyrdd mewn sawl rhan o Gymru.
Mae sawl mater arall hefyd wrth wraidd anfodlonrwydd ymhlith amaethwyr - o'r ymateb i TB mewn gwartheg i reolau llymach o ran taenu gwrtaith.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Aled Jones, llywydd NFU Cymru, nad yw, mewn 12 mlynedd fel swyddog undeb, "erioed wedi gweld ymchwydd o deimladau cryf yng nghefn gwlad".
Dywedodd ei fod yn "mawr obeithio y bydd y neges yn cael ei gweld yn glir" yn y brotest heddiw.
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gobeithio gweld "newidiadau cadarnhaol, newidiadau bydd ffermwyr yn gallu parhau i ffermio a chynhyrchu bwyd ac i fod yn gynhyrchiol ac i gyflogi pobl".
"Mae'n dda o beth fod ffermwyr wedi codi ac wedi dangos pa mor anfodlon ydyn nhw."
Dywedodd fod "'chydig bach o oleuni fod 'na gydnabyddiaeth am yr hyn sydd angen ei wneud" gan ychwanegu mai "o hyn allan sy'n cyfri".
Roedd Gareth Parry, Dirprwy Bennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, hefyd yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher.
Dywedodd fod y "digwyddiadau sy'n mynd i fynd yn eu blaen heddiw yn mynd i fod yn bwysig i ddyfodol amaethyddiaeth".
Fe gyfeiriodd at y datganiad y gwnaeth Llywodraeth Cymru ddoe ynglyn â'r cynlluniau gan ddweud ei fod yn "rhoi bach o obaith i ni... ond dydi o ddim yn ddigon pell".
Dywedodd bod "y ffaith fod y datganiad wedi dod allan ddoe yn dangos bod y digwyddiadau dros yr wythnosau diwethaf wedi gweithio" gan ddweud fod "ryw fath o symud wedi digwydd".
Ffermwyr yn teimlo'n 'ddig'
Fe wnaeth criw o Gorwen gychwyn am Gaerdydd ben bore Mercher.
Un oedd ar y bws oedd Buddug Eidda o Glanrafon. Dywedodd: "Sa 'dan ni'n mynd lawr 'na i ddweud be da ni'n feddwl 'dyn nhw ddim am gael y neges."
Fe ddywedodd bod y ffermwyr yn teimlo'n "ddig".
"'Dan ni ddim isho neud be ma' nhw [y Llywodraeth] yn gofyn i ni 'neud, achos da ni'n rhoi fyny tir da, ffrwythlon i be' ma' nhw eisiau," meddai.
Ychwanegodd: "Dydyn nhw ddim yn gwrando arnon ni, mae'n syml."
Roedd bws llawn o Grymych hefyd wedi cychwyn draw am Gaerdydd fore Mercher.
Dywedodd Brian Thomas sy'n ffermio yn yr ardal bod ffermwyr "wedi cael blynyddoedd o ddiffyg gwrando gyda'r Senedd yng Nghaerdydd, ac yn anffodus mae pen draw ar bopeth... dwi'n gobeithio y g'newn nhw wrando".
Fe ddisgrifiodd John y sefyllfa fel yr "unfed awr ar ddeg ar y diwydiant ac ar y ffordd wledig o fyw... nid dim ond y diwydiant amaeth sydd dan fygythiad fan hyn ond popeth sy'n amgylchynu'r diwydiant amaeth".
Ychwanegodd ei fod yn mynd i Gaerdydd "i chwifio'r faner dros y diwydiant a dyfodol y diwydiant".
Yn y Senedd brynhawn Mercher, fe wynebodd y gweinidog materion gwledig, Lesley Griffiths, gwestiynau gan aelodau.
Cafodd ei chyhuddo o gam "sinigaidd" gan lefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr, Sam Kurtz, yn sgil y cyhoeddiad ddoe y bydden nhw'n adolygu rhai o'u polisïau amaeth.
Dywedodd Mr Kurtz ei fod wedi cymryd "protest fawr a chryfder teimlad mewn cymunedau gwledig i newid pethau".
Dywedodd Llyr Gruffydd, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru bod rhaid i Ms Griffiths ddod â ffermwyr efo hi ar y siwrne yma.
"Heb ffermwyr yn cymryd rhan yn y cynllun yma, ni fydd yna unrhyw un i sicrhau'r canlyniadau y mae pawb yn eu rhannu" o ran taclo newid hinsawdd.
Dywedodd y gweinidog nad oedd unrhyw beth wedi'i benderfynu eto a'i bod hi eisiau cynllun yn y pendraw y bydd "pob ffarmwr eisiau bod yn rhan ohono".
Dywedodd Ms Griffiths hefyd: "Rydym ond yn gallu llwyddo mewn partneriaeth, mae wir angen i ni gydweithio, a dyna rydym yn gwneud.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r undebau ac maen nhw'n hapus gyda strwythur y cynllun.
"Dwi'n meddwl mai'r rheswm i ni wneud y cyhoeddiad ddoe oedd er mwyn tynnu ychydig o stêm o'r sefyllfa."
Ychwanegodd Ms Griffiths mai'r "ffermwyr yw'r bobl gorau i'n helpu" er mwyn cyflawni targedau uchelgeisiol ar gyfer coetir newydd.
Galw am gefnu ar y cynllun
Nos Fercher fe wnaeth y gwrthbleidiau yn y Senedd bleidleisio o blaid cael gwared â Chynllun Ffermio Cynaliadwy y llywodraeth, yn dilyn cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Cafodd y cynnig - un symbolaidd yn unig - gefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond ni chafodd ei basio.
Roedd y bleidlais yn hafal - 26 o blaid a 26 yn erbyn - a dan yr amgylchiadau hynny, gan ddilyn rheolau'r Senedd, fe wnaeth y dirprwy lywydd David Rees bleidleisio gyda'r llywodraeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Chwefror