Maldwyn Harries wedi marw trwy ddamwain ar ôl i darw ei wasgu - cwest

  • Cyhoeddwyd
Maldwyn Harris a'i deuluFfynhonnell y llun, LLun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Maldwyn Harries a'i deulu

Mae cwest wedi cofnodi mai trwy ddamwain y bu farw ffermwr o Sir Gâr ar ôl iddo gael ei wasgu gan darw yn ystod prawf TB ar ei fferm deuluol.

Roedd Maldwyn Harries, 58, yng nghanol cynnal profion TB ar fferm Cefn Rhiwlas yn ardal Penybanc ger Llandeilo, pan ymosododd tarw arno ddiwedd Medi 2022.

Er i wasanaethau brys, gan gynnwys ambiwlans awyr, gael eu galw i'r fferm yn ardal Pen-y-banc y bore Gwener hwnnw, bu farw Mr Harries yn y fan a'r lle am 11:36.

Dywedodd Swyddog y Crwner iddo dderbyn chwe pheint o waed cyn iddo farw.

Disgrifiad,

Y diweddar Maldwyn Harries yn 'ffermwr â natur ffein iawn', medd ei ffrind Huw Evans

Yn ôl Simon Breen, swyddog gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE), fe gafodd Mr Harries ei wasgu yn erbyn wal tra'n ceisio symud tarw o'i gôr yn y sied.

Roedd Mr Harries wedi arfer annog yr anifail i adael y côr drwy gyffwrdd â'i drwyn, ond yn yr achos hwn, wnaeth y tarw ddim symud.

O ganlyniad, aeth Mr Harries i fewn i'r côr at y tarw - fe wnaeth y tarw ymosod arno a'i wasgu yn erbyn y wal.

Yn ôl adroddiad Swyddog y Crwner, fe gwympodd Mr Harries yn anymwybodol i'r llawr.

Roedd ei fab hynaf, Mark Harries, milfeddyg, ynghyd ag aelodau arall o'r teulu yn bresennol.

Fe gafodd y tarw ei ddifa, wedi iddo brofi'n bositif am TB neu'r diciâu.

Disgrifiad,

Mark Harries: Cefnogaeth cefn gwlad "wedi bod yn arbennig" (fideo o fis Ionawr)

Dywedodd Simon Breen o'r HSE fod yr holl offer priodol ar y fferm ar gyfer cynnal y profion.

Daeth Uwch-grwner Dros Dro Sir Gâr a Phenfro, Paul Bennett i'r casgliad fod Mr Harries wedi marw trwy ddamwain.

Roedd wedi derbyn anafiadau difrifol i'w frest, ei fol a'i asgwrn cefn.

Dywedodd wrth y teulu na alla'i "ddychmygu" effaith y farwolaeth arnyn nhw, wrth iddyn nhw barhau i ddelio â TB ar y fferm.

Roedd yr achos, meddai, yn enghraifft "anarferol a phrin" o rywun yn colli ei fywyd tra'n gwneud "gwaith gwerthfawr fel rhan o'r gymuned amaeth".

Pynciau cysylltiedig