Llaneirwg: Swyddog heddlu yn destun ymchwiliad troseddol
- Cyhoeddwyd
Mae un o swyddogion Heddlu Gwent yn wynebu ymchwiliad troseddol, yn sgil amheuaeth ei fod wedi ffugio ei ddatganiad ei hun, yn dilyn gwrthdrawiad pan gafodd tri o bobl ifanc eu lladd.
Cafodd Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21, a Rafel Jeanne, 24 eu darganfod yn farw mewn car yn ardal Llaneirwg Caerdydd ym mis Mawrth 2023 - a hynny bron i ddeuddydd wedi iddyn nhw gael eu gweld diwethaf.
Fe gafodd Shane Loughlin, 32, a Sophie Russon, 20, eu hanafu yn ddifrifol yn y digwyddiad hefyd.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cadarnhau bod saith o swyddogion Heddlu Gwent bellach dan ymchwiliad am gamymddygiad difrifol mewn cysylltiad â'r achos.
Mae'r IOPC wedi bod yn ymchwilio i'r ffordd y deliodd Heddlu Gwent gydag adroddiadau fod y pump ar goll, ac yn dweud eu bod wedi edrych ar "swm sylweddol o dystiolaeth" ac wedi derbyn "cwynion manwl" gan deuluoedd y bobl ifanc.
Mae dau swyddog wedi derbyn rhybudd o gamymddygiad difrifol yn gysylltiedig ag a wnaethon nhw archwilio cartrefi dau o'r bobl oedd ar goll ai peidio.
Mae un o'r swyddogion yma hefyd dan ymchwiliad troseddol am gynnwys gwybodaeth ffug yn ei dystiolaeth.
Mae'r swyddogion eraill sy'n wynebu ymchwiliadau o gamymddygiad difrifol yn cynnwys dau swyddog fu'n adolygu adroddiadau fod yr unigolion yma ar goll, un am y modd y bu'n cyfathrebu gyda'r teuluoedd yn swyddfeydd yr heddlu, a dau arall yn sgil sylwadau honedig wnaethon nhw ar safle'r gwrthdrawiad.
Pwysleisiodd yr IOPC nad yw'r ffaith fod y swyddogion yma wedi derbyn rhybuddion o reidrwydd yn golygu eu bod yn mynd i wynebu camau disgyblu neu gamau troseddol.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC David Ford: "Ers dechrau ymchwilio rydyn ni wedi ehangu ein gwaith er mwyn edrych ar nifer o gwynion manwl a gafodd eu cyflwyno gan y teuluoedd.
"O ganlyniad, mae saith o swyddogion Heddlu Gwent wedi cael gwybod eu bod yn destun ymchwiliad.
"Ar ddiwedd ein hymchwiliad, byddwn yn penderfynu a ddylai'r swyddogion yma wynebu unrhyw gamau disgyblu neu a ddylai unrhyw faterion gael eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron."
'Ymchwiliad agored a chynhwysfawr'
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Mark Horbrough: "Mae ein meddyliau ni yn dal i fod gyda teuluoedd a ffrindiau'r rhai fu farw a'r rhai gafodd eu hanafu yn y digwyddiad yma.
"Rydym yn cydnabod effaith yr hyn ddigwyddodd, a'n bod yn deall pa mor bwysig fydd casgliadau'r ymchwiliad hwn i'r rhai gafodd eu heffeithio ac i'r gymuned yn ehangach.
"Rydyn ni wedi bod yn cefnogi ymchwiliad yr IOPC ac yn parhau i wneud hynny. Mae hi'n bwysig bod yr ymchwiliad i'r materion hyn yn agored ac yn gynhwysfawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023