Y Bala: Menter yn atgyfodi papur newydd y Cyfnod

  • Cyhoeddwyd
Lowri-Rees Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri-Rees Roberts eisoes yn gweithio ar y rhifyn nesaf o bapur newydd Y Cyfnod - y cyntaf ers pedair blynedd

Bydd papur newydd lleol yn ôl mewn print yn dilyn ymgais gymunedol i'w atgyfodi.

Cafodd y Cyfnod ei sefydlu bron i 90 o flynyddoedd yn ôl, ac fe ddaeth yn un o hanfodion wythnosol teuluoedd ardal Y Bala a'r cylch.

Oherwydd y pandemig nid oes rhifyn wedi bod o'r Cyfnod - na'i chwaer bapur The Corwen Times - ers pedair blynedd.

Ond bellach mae Cwmni Pum Plwy Penllyn, sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Henblas Y Bala, wedi denu arian grant i gyhoeddi 12 rhifyn Cymraeg o'r papur newydd hanesyddol.

Gyda bwriad i'r rhifyn cyntaf fod yn y siopau erbyn 10 Ebrill, bydd yr arbrawf o dri mis yn gweld a oes digon o awch atgyfodi'r Cyfnod yn y tymor hir.

'Llinyn cyswllt'

Mae gwerthiant y mwyafrif llethol o bapurau newydd print wedi plymio dros y blynyddoedd diwethaf wrth i bobl droi at dechnoleg newydd a'r we.

Roedd y papur yn arfer gwerthu tua 1,000 o gopïau bob wythnos.

Ond yn ôl Pum Plwy Penllyn mae 'na alw am wythnosolyn fel y Cyfnod i redeg gyfochrog â phapurau bro misol.

Disgrifiad o’r llun,

Alwyn Jones, Elfyn Llwyd a Huw Antur o gwmni Pum Plwy Penllyn, sy'n gwasanaethu Llandderfel, Llanycil, Llanuwchllyn, Llangywer a'r Bala

Dywedodd Huw Antur, Ysgrifennydd Pum Plwy Penllyn: "Mae'r cwmni'n bodoli i ddatblygu unrhyw syniadau, unrhyw brosiectau cymunedol a petawn yn cael ceiniog am bob tro mae rhywun wedi dweud fasan nhw yn licio gweld y Cyfnod yn ôl mi fyddwn yn ddyn cyfoethog iawn!

"Felly mae o'n rhywbeth sydd wedi bod ar y gweill ers dipyn o amser gan fod 'na fwlch go fawr ers i'r Cyfnod beidio cael ei gyhoeddi, ac roedden yn teimlo fod ganddon ni le i roi cynnig arni am rhyw dri mis fel peilot a gweld os oes y diddordeb yna go iawn.

"Y gobaith ydy fydd 'na barhad i'r Cyfnod ac bydd o wedyn yn parhau fel rhyw fath o linyn cyswllt yn ardal Y Bala a Phenllyn, dod â'r newyddion a digwyddiadau, hysbysebion a straeon."

'Platfform digidol'

Eisoes yn gweithio ar y rhifyn cyntaf mae Lowri Rees-Roberts, Swyddog Prosiect yng Nghanolfan Henblas a oedd yn after gweithio fel is-olygydd i bapur newydd y Cymro.

Mae hi hefyd o'r farn fod digon o alw yn lleol.

Ffynhonnell y llun, Mari Williams

"Dwi wedi'n magu yn yr ardal, bellach yn byw yn Llanuwchllyn, ac mae'r Cyfnod wastad wedi bod yn rhan bwysig o fagwraeth rhywun yn tyfu fyny," meddai.

"Ar fore Mawrth yma, mae 'na baned a sgwrs gyda'r henoed ac mi o'n i'n sgwrsio hefo nhw ac mi oedden nhw'n awyddus iawn i weld y Cyfnod yn ôl fel fod nhw'n gwybod beth sy'n mynd ymlaen yma ac ati.

"Aethon ati i wneud cais grant ac roeddem yn ffodus i sicrhau cyllid Grymuso Gwynedd er mwyn ei wneud am 12 wythnos ond hefyd platfform digidol.

"Fyddwn wedyn yn gallu rhoi rhywbeth i'r bobl ifanc, sy'n fwy digidol yn amlwg, a hefyd copi caled i'r pobl hŷn."

'Yr un mor boblogaidd'

Yn ôl rhai o drigolion Y Bala bydd llawer yn croesoawu'r Cyfnod ar ei newydd wedd.

Dywedodd Ria Fergus Jones: "Dwi'n meddwl fod o'n beth da yn sicr.

"Yn enwedig i'r genhedlaeth hŷn, falle, sydd ddim yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ria Fergus Jones a Elinir Jones yn credu bod galw i bapur Y Cyfnod

Barn debyg sydd gan Elinir Jones: "Oedd 'na lot yn dweud eu bod yn ei golli, ond wneith pobl ail gydio ynddo de?

"Mi oedd 'na lawer iawn yn ei brynu pan oedd ar fynd, oedd pawb eisiau'r Cyfnod bob wythnos i gael yr hanes.

"Dyna mae rhywun yn golli rŵan, fod 'na fore goffi neu gyngerdd yn rhywle, 'da chi'n colli pethau fel'na."

Ychwanegodd Gwyn Sion Ifan o siop Awen Meirion y dref: "Mae darllen wedi newid dros y blynyddoed ond dwi'n siwr fydd y Cyfnod yr un mor boblogaidd a mae wedi bod dros y blynyddoedd.

"Does ganddon ni ddim byd wythnosol arall yn y cylch."

'Gwirioneddol gymunedol'

Dywedodd Cadeirydd Pum Plwy Penllyn, y cyn-Aelod Seneddol Elfyn Llwyd, eu bod hefyd yn agored i syniadau gan bobl leol.

"Cwmni nid er elw ydan ni gyda'r bwriad o wella gwasanaethau ar gyfer pobl lleol y pum plwy, a does 'na ddim byd yn fy nhyb i tebyg i gael y papur wythnosol yma sy'n wirioneddol gymunedol," meddai.

"Dwi'n meddwl fydd hwn yn boblogaidd iawn, ond 'da ni isho gweithio gyda [papur bro] Pethe Penllyn ac nid eu tanseilio ar unrhyw siâp.

Disgrifiad o’r llun,

Mae papur Y Cyfnod yn gwasanaethu tref Y Bala a'r cylch

"Mae 'na fwlch ar hyn o bryd, mae ganddon ni theatr a sinema, er enghraifft, ond dydy lot o bobl hŷn ddim yn mynd ar y we.

"Fydd rhaid adolygu'r sefyllfa ar ôl tri mis i weld sut 'da ni'n cydweithio a chydblethu gyda Pethe Penllyn ac unrhyw syniadau sydd gan pobl y pum plwyf."

Dywedodd aelod arall o Pum Plwy Penllyn, Alwyn Jones: "Mae Penllyn yn ardal Gymreig iawn a gobeithio bydd yn apelio gan mai papur Cymraeg fydd o.

"Arbrawf tri mis ydi hwn i weld os fydd yn cydio ac yn talu ei ffordd ond mae'n reit gyffrous.

"Mae'n dibynnu ar bobl rwan os fyddan nhw'n ei brynu, a dyna fydd y prawf."

Pynciau cysylltiedig