Ymestyn oriau Radio Cymru 2 i gyrraedd cynulleidfa newydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dafydd Meredydd: 'Ceisio cyrraedd cynulleidfa iau a llai rhugl'

Denu cynulleidfa sydd wedi bod yn anodd ei chyrraedd cyn hyn yw pwrpas ymestyn oriau Radio Cymru 2, yn ôl y pennaeth.

O ddydd Llun, fe fydd y gwasanaeth yn darlledu dros 60 awr yr wythnos o ddeunydd gwreiddiol - cynnydd sylweddol o'r 25 awr cyn hynny.

Fe fydd hyd rhaglenni presennol yn cael eu hymestyn, a bydd rhaglenni adloniant yn y prynhawn a'r nos yn cael eu darlledu ar y ddwy orsaf.  

Dywedodd cadeirydd y BBC, Y Fonesig Elan Closs Stephens y bydd ymestyn gwasanaeth Radio Cymru 2 yn fodd i ddenu gwrandawyr, yn enwedig pobl llai rhugl eu Cymraeg.

'Dewis arall'

Dywedodd pennaeth gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd: "Mae hyn yn cynnig dewis arall yn yr iaith Gymraeg i wrandawyr sydd eisiau cerddoriaeth ac adloniant."

Yn ogystal â chyrraedd mwy o bobl, mae'n gobeithio y bydd y gwasanaeth yn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Yn draddodiadol, mae hi wedi bod yn anodd i Radio Cymru gyrraedd rhai mathau o gynulleidfaoedd - pobl iau, llai rhugl a dosbarth gweithiol - ac mae'n hymchwil ni yn dangos fod canran ohonyn nhw yn chwilio am rywbeth fel hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rhydian Bowen Phillips a Lisa Gwilym yn parhau i ddarlledu ar foreau Llun i Iau

"Rwy' methu aros i ymestyn y Sioe Frecwast gydag awr ychwanegol yn llawn o'r tiwns gore' i ddechrau'ch diwrnod," meddai Rhydian Bowen Phillips, fydd yn cyflwyno o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 07:00 a 10:00.

Cerddoriaeth fydd pwyslais rhaglen Lisa Gwilym hefyd, a fydd yn dilyn Rhydian rhwng 10:00 a 14:00.

Yn y prynhawn bydd rhaglen Ifan Jones Evans - a Tudur Owen ar ddydd Gwener - yn cael eu darlledu ar y ddwy orsaf.

Rhestrau chwarae cerddoriaeth fydd yn lle rhaglenni newyddion a rhaglenni ffeithiol ddiwedd y prynhawn, cyn i'r ddau wasanaeth ddod ynghyd eto ar gyfer rhaglenni adloniant gyda'r hwyr.

Arferion gwrando yn newid

Fe wnaeth nifer gwrandawyr wythnosol BBC Radio Cymru ostwng yn is na 100,000 am y tro cyntaf yn y chwe mis hyd at ddiwedd Rhagfyr.

95,000 oedd cyrhaeddiad wythnosol mwyaf diweddar Radio Cymru a Radio Cymru 2, yn ôl corff casglu ffigyrau radio RAJAR.

Roedd hynny 7,000 o wrandawyr yn is na'r ffigyrau a gyhoeddwyd dri mis yn flaenorol, a 40,000 yn is na'r un cyfnod yn 2022.

Ar y pryd, fe ddywedodd Dafydd Meredydd fod y ffigyrau'n siomedig ond mynnodd hefyd fod pobl yn gwrando "mewn ffyrdd gwahanol" a bod gwrando'n ddigidol wedi cynyddu 10% mewn blwyddyn.

Mae arferion gwrando yn newid a phodlediadau yn tyfu yn eu poblogrwydd ond yn ôl Aled Jones, cyfarwyddwr cwmni podlediadau Y Pod, mae radio byw dal yn bwysig.

"Mae pobl ishe gwrando ar y radio achos maen nhw ishe clywed cerddoriaeth sydd wedi cael ei guradu gan rywun," meddai.

"Mae pobl yn hoff o wrando ar y radio... chi'n cael newyddion, chi'n cael chwaraeon, teithio a thywydd... chi ddim yn cael y pethe yna mewn podlediadau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Fonesig Elan Closs Stephens yn gobeithio "bydd na bobl yn troi at Radio Cymru 2 sydd isho clywed y Gymraeg"

Mewn cyfweliad ar raglen Bore Sul Radio Cymru, dywedodd cadeirydd y BBC, Y Fonesig Elan Closs Stephens y bydd ymestyn gwasanaeth Radio Cymru 2 yn fodd i ddenu gwrandawyr, yn enwedig pobl llai rhugl eu Cymraeg.

"Byddwch chi'n denu pobl sydd ddim eisiau gwrando gymaint ar y llais llafar, ond yn gwrando ar gerddoriaeth," meddai.

"Dwi'n gobeithio'n fawr bydd 'na bobl yn troi at Radio Cymru 2 sydd isio clywed y Gymraeg, sydd isio hoffi'r Gymraeg ond ddim yn abl efallai i ddilyn y math yma o sgwrs trwy'r amser."

Amserlen newydd BBC Radio Cymru 2

Dydd Llun - Iau

07:00 - 10:00 - Rhydian Bowen Phillips

10:00 - 14:00 - Lisa Gwilym

14:00 - 17:00 - Ifan Jones Evans (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

17:00 - 19:00 - Traciau Radio Cymru 2

19:00 - 21:00 - Rhys Mwyn, Georgia Ruth, Mirain Iwerydd, Huw Stephens (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

21:00 - 00:00 - Caryl Parry Jones (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

Dydd Gwener

07:00 - 09:00 - Lisa Angharad

09:00 - 11:00 - Trystan ac Emma (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

11:00 - 14:00 - Dom James

14:00 - 17:00 - Tudur Owen (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

17:00 - 18:00 - Parti Nos Wener

18:00 - 21:00 - Lauren Moore (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

21:00 - 00:00 - Ffion Emyr (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

Dydd Sadwrn

07:00 - 09:00 - Daniel Glyn

09:00 - 11:00 - Tudur Owen (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

11:00 - 14:00 - Sioe Sadwrn (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

14:00 - 17:30 - Traciau Radio Cymru 2 - yn cynnwys Dewis, Parti'r Penwythnos a Nôl i'r Nawdegau

17:30 - 21:00 - Marc Griffiths (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

21:00 - 00:00 - Ffion Emyr (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

Dydd Sul

07:00 - 10:00 - Mirain Iwerydd

10:00 - 21:00 - Traciau Radio Cymru 2 - yn cynnwys Dewis a Parti'r Penwythnos

21:00 - 00:00 - John ac Alun (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

Pynciau Cysylltiedig