RNLI yn 200: 'Angen addysgu pobl am y peryglon'

  • Cyhoeddwyd
PorthdinllaenFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gorsaf bad achub Porthdinllaen ei sefydlu 160 o flynyddoedd yn ôl

Gyda mwy o dwristiaid nag erioed o'r blaen yn ymweld â rhannau o Gymru, mae'r RNLI yn pwysleisio'r angen am ragor o addysg cyn i bobl fentro i'r môr.

Wrth nodi 200 o flynyddoedd ers ei sefydlu, mae'r elusen yn dweud eu bod wedi achub bron i 13,000 o bobl yng Nghymru.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae rôl yr elusen yr un mor bwysig ag y buodd hi erioed, gyda phwyslais bellach ar addysgu pobl o'r peryglon.

Cafodd gorsaf bad achub Porthdinllaen ar hyd arfordir Llŷn ei sefydlu 160 o flynyddoedd yn ôl ac ers hynny mae 391 o fywydau wedi eu hachub.

I'r cocsyn Owain Williams, mae'r orsaf yn rhan hanfodol o rwydwaith yr elusen.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cocsyn Porthdinllaen, Owain Williams, bod "wastad le am fwy o addysg"

"Mae gynnon ni ardal eang o Ynys Enlli yn y de, fyny i Gaernarfon a hanner ffordd i arfordir Môn ac yna hanner ffordd allan i Iwerddon," meddai.

"Dwi'n meddwl fod pobl yn cymryd hyn o ddifrif ond mae 'na wastad le am fwy o addysg.

"Mae'n hinsawdd beryg ynddo'i hun ac mae pobl yn cael eu hunain mewn i drafferth a dyna pam bod angen bad achub 200 o flynyddoedd yn ddiweddarach."

Ers ei sefydlu yng Nghymru, mae cychod y bad achub wedi eu lansio 47,596 ac yn denu bob math o wirfoddolwyr.

Un o'r swyddi pwysicaf ar unrhyw ymgyrch achub ydi swydd y morlywiwr, sy'n helpu'r cocsyn ddod o hyd i'r bobl sydd mewn peryg.

Ym Mhorthdinllaen, dyma swydd Mali Parry Jones sy'n eistedd yng nghrombil y cwch wrth y sgriniau.

"Dwi'n gweithio allan be mae'r gwynt yn ei 'neud, be mae'r llanw'n ei neud," meddai.

"Dwi'n gweithio'n agos efo'r cocsyn a chadw mewn cysylltiad efo gwylwyr y glannau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mali Parry Jones yn helpu'r cocsyn ddod o hyd i'r bobl sydd mewn peryg

Ar fwrdd y cwch yn ymarfer, mae tri aelod yn ferched, a gyda thair arall hefyd ar alw, mae gan orsaf Porthdinllaen gyfran uchel o ferched o'i gymharu â'r cyfartaledd ar draws Prydain.

Yn ôl Mali Parry Jones, mae'r tîm yn "ffodus iawn" o hynny.

"Does wybod mewn bach os fydd y chwech yma yn dal ar y llyfrau," meddai.

Yn ôl yr RNLI, mae canran y merched sy'n gwirfoddoli wedi codi o 8.6% yn 2015 i 14% yn 2022, ac wedi parhau i gynyddu.

'Dibynnu ar y cyhoedd'

Gyda dathliadau i nodi 200 mlynedd ers sefydlu elusen yr RNLI yn digwydd ar draws Prydain ddydd Llun, mae llwyddiant tîm Porthdinllaen yn rhoi balchder i aelod hyna'r criw, Ken Fitzpatrick BEM, sy'n 75 oed.

Fe ymunodd gyda'r criw yn 17 oed ym 1967, gan roi 44 o flynyddoedd o wasanaeth i'r orsaf yn y blynyddoedd ers hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ken Fitzpatrick wedi rhoi 44 o flynyddoedd o wasanaeth yn gwirfoddoli yng ngorsaf Porthdinllaen

"Mae'r RNLI yn un o'r pethau gorau ac fwyaf unigryw sydd wedi ei wneud," meddai.

"Ma' nhw'n buddsoddi yn y criw - er eu bod nhw'n wirfoddolwyr.

"Ond hefyd 'da ni eisiau recriwtio a gan fod ni'n elusen, 'da ni'n dibynnu ar y cyhoedd i roi pres i ni."

Pynciau cysylltiedig