Goleuadau 'hudol' y gogledd yn goleuo'r nos yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd y llun yma ei dynnu yn edrych tua Pen-y-fan a Chorn Du ym Mannau Brycheiniog
Cafodd pobl mewn sawl rhan o Gymru wledd nos Sul, wrth i oleuadau'r gogledd - ffagl yr arth - oleuo'r nos.
Mae goleuadau'r gogledd, neu aurora borealis, yn ymddangos fel ardaloedd mawr o liwiau fel gwyrdd, pinc, melyn, glas a phorffor yn yr awyr i gyfeiriad y gogledd.
Mae gronynnau o'r haul yn gweithio gyda'r nwyon yn yr atmosffer i greu'r lliwiau anhygoel.
Mae'r goleuadau i'w gweld, fel arfer, yn Yr Alban a gogledd Lloegr ac mae'r cyfle i weld 'ffagl yr arth' neu'r aurora borealis yng Nghymru yn brin iawn.
Mae'r lluniau yma gafodd eu tynnu ym Mhorthdinllaen yn dangos sut newidiodd y lliwiau yn yr awyr nos Sul.

Roedd y lliwiau yn yr awyr yn newid wrth i Dylan Morris dynnu lluniau ym Mhorthdinllaen

Roedd y lliwiau'n adlewyrchu ar y môr ym Mhorthdinllaen
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai'r goleuadau i'w gweld yn y gogledd yn bennaf am gyfnod nos Sul.
Ond cafodd y goleuadau hefyd eu gweld yn y de-ddwyrain, yn ardal y Fenni.
Aeth y ffotograffydd, Julie Tattersfield, allan i dynnu lluniau ohonyn nhw.
Dywedodd: "Mae'r tywydd wedi bod yn rhyfedd yma heddiw... yn gynnes iawn ger y Fenni ond roedd llawer o eira ar y mynyddoedd a wedyn fe welais i oleuadau'r gogledd!

Dywedodd Julie Tattersfield bod y tywydd "wedi bod yn rhyfedd iawn" yn y Fenni cyn iddi weld goleuadau'r gogledd
"Roedd lliw yr awyr yn anarferol ond wrth edrych drwy lens y camera, roedd e'n anhygoel pan sylweddolon ni be' oedd o flaen ein llygaid ni.
"Roedd y lliwiau yn newid bob tro roedden i'n tynnu llun ac roedd gallu gweld yr adlewyrchiad yn y llyn hyd yn oed yn fwy hudol.
"Ar ôl bod yno'n gynharach, a hithau'n gynnes ac wedi bwrw eira, roedd mynd yn ôl yno ddiwedd y dydd a gweld goleuadau'r gogledd yn dangos pa mor lwcus ydyn ni i fyw mewn ardal mor brydferth."
Dyma luniau eraill a gafodd eu tynnu mewn sawl rhan o Gymru nos Sul.

Yr awyr yn binc, melyn a gwyrdd uwchben Bae Rhosili ar y Gŵyr

Roedd goleuadau'r gogledd i'w gweld yn glir yn y llun yma gafodd ei dynnu ar Ynys Môn

Yr olygfa nos Sul ger Goleudy Talacre yn Sir y Fflint

Yr awyr yn binc a melyn yng Nghaergybi ar Ynys Môn

Dyma oedd yr olygfa o Lanfairfechan, yn edrych tuag at Y Gogarth

Yr olygfa yn ardal Abergwyngregyn nos Sul

Cafodd y goleuadau eu gweld yn y de-ddwyrain hefyd, yn ardal y Fenni

Roedd yr awyr yn fôr o liw yn ardal Abergwyngregyn
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023