Gobaith y bydd ffordd osgoi yn gwella tref Llandeilo

  • Cyhoeddwyd
Llandeilo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis llwybr ar gyfer y ffordd osgoi newydd o amgylch Llandeilo

Mae 'na obaith y bydd ffordd osgoi o gwmpas Llandeilo yn gwella'r dre wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu llwybr dewisol.

Ers yr 1960au mae cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi wedi cael eu trafod wrth i gerbydau trwm achosi trafferthion ar stryd gul Rhos-maen yng nghanol y dre.

Mae datblygu ffordd osgoi yn rhan o gytundeb cyllideb 2016 rhwng Plaid Cymru a llywodraeth Lafur Cymru a doedd y cynllun ddim yn rhan o adolygiad ffyrdd diweddar y llywodraeth.

Yn ôl yr aelod lleol yn Senedd Cymru mae £80m wedi ei glustnodi ar gyfer y cynllun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae siop goffi diod yn gweld effaith y traffig ar eu busnes

Yn ddyddiol mae ceir, lorïau, a bysys yn teithio ar hyd Stryd Rhos-maen yng nghanol Llandeilo. Ond mae'n ffordd gul ac mae cerbydau mawr yn gorfod aros er mwyn gadael i gerbydau eraill basio.

Ar y pwynt mwyaf cul mae siop goffi a gwin diod - ac mae effaith y traffig trwm i'w deimlo yn y caffi.

Dywedodd perchennog y caffi, Lisa Jones bod y "ffenestri'n gallu ysgwyd os ma' nhw'n pasio trwyddo ar speed".

Fe ychwanegodd Lisa bod y traffig yn golygu "nad yw'r lle'n ddiogel mewn ffordd".

Mae'r cyhoeddiad diweddaraf bod Llywodraeth Cymru wedi dewis llwybr i'r ffordd osgoi yn rhywbeth i'w groesawu, meddai Lisa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae perchennog siop goffi diod yn Llandeilo, Lisa Jones, yn croesawu'r ffordd osgoi

Er bod 'na ambell i farc cwestiwn ar effaith economaidd ffyrdd osgoi ar drefi yn gyffredinol, mae Lisa'n ffyddiog y bydd Llandeilo'n elwa o'r cynllun.

"Ni di gweld ffyrdd osgoi yn mynd i drefi eraill a dy'n nhw ddim cweit yr un peth ag o'n nhw arfer bod. Fi fel person busnes yn gobeithio 'neuth e wella'r dre.

"Bydd pobl dal yn dod fewn. Ma' digon o siopau a llefydd bwyta annibynnol gyda ni sydd yn denu pobol i'r dre.

Disgrifiad o’r llun,

Ffynhonnell: Astudiaeth Trafnidiaeth Llandeilo a Ffair-fach / Google

Bydd y llwybr newydd yn dechrau ger Ysgol Bro Dinefwr i'r de o Landeilo, cyn croesi Afon Tywi a bwrw tua'r gogledd ar ochr ddwyreiniol y dre gan ymuno â'r cylchfan i'r gogledd o Landeilo.

Yn ogystal â hynny mae'r cynllun ehangach yn anelu i dawelu traffig ynghanol y dre drwy gyflwyno system unffordd.

Cyhoeddiad 'arwyddocaol'

Yn ôl aelod lleol Plaid Cymru yn y Senedd, Adam Price, mae'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn un arwyddocaol.

Dywedodd: "Mae'r Llywodraeth wedi dweud am y tro cyntaf eu bod nhw wedi dewis yr heol fel y datrysiad.

"Nid yn unig hynny, ma' nhw wedi nodi llwybr yr heol hynny. Fe fyddan nhw yn fuan iawn yn gweithredu yn gyfreithiol i warchod y llwybr ac yn dechrau wedyn ar y gwaith manwl technegol o ddylunio ac adeiladu'r ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae aelod lleol Plaid Cymru, Adam Price yn dweud bod y cyhoeddiad yn 'arwyddocaol'

"Mae 'na arian sylweddol, dros £80m, wedi ei glustnodi ar gyfer y prosiect yma," ychwanegodd.

Mae adeiladu ffyrdd wedi bod dan y chwyddwydr yn ddiweddar yn dilyn adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru. Ond doedd cynllun ffordd osgoi Llandeilo ddim yn rhan o'r adolygiad.

Serch hynny mae'r pwyslais ar deithio llesol yn glir yn y cyhoeddiad yn ôl y newyddiadurwr trafnidiaeth Rhodri Clark.

"Ma nhw'n mynd i edrych ar ffyrdd eraill o deithio, efallai lleihau cyflymder rhai o'r ffyrdd o gwmpas yr ysgol, ac felly'n dangos bod polisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn ffitio mewn i'r cynllun yma," meddai.