VAR a'r TMOs: Achubiaeth neu ymyrraeth?

  • Cyhoeddwyd
refFfynhonnell y llun, Getty Images

Dros y degawdau mae'r byd chwaraeon wedi gweld newidiadau aruthrol, gyda phroffesiynoldeb ac arian mawr yn arwain y ffordd. Un newid mawr yn ddiweddar yw dyfodiad VAR (Video Assistant Referee) a TMO (Television Match Official).

Yma, mae'r cyflwynydd Gareth Rhys Owen yn trafod y dechnoleg, a sut mae wedi newid y campau.

Joe Jordan ac Andy Hayden. Dychmygwch tase'r ddau ddihiryn yma wedi troseddu yn yr oes fodern?

Mae'r lluniau o Jordan yn llechwennu wrth iddo ddwyn cic o'r smotyn i'r Alban yn parhau i gnoi hyd heddiw. Ei fraich ef gyffyrddodd â'r bêl yn y cwrt cosbi, ffaith base wedi eu gywiro'n ddiffwdan tase VAR yn bodoli yn 1977, a pwy a wŷr falle byddai hanes y bêl gron yng Nghymru wedi dilyn trywydd gwahanol iawn o ganlyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Joe Jordan yn y gêm enwog yn erbyn Cymru yn Anfield, 12 Hydref 1977

Blwyddyn yn ddiweddarach, clo Seland Newydd, Andy Haden oedd y dihiryn wrth i'r Kiwi blymio'n ddramatig o'r lein gan hawlio cic gosb i ladd gobeithion Cymru o drechu'r Crysau Duon. O am gael troi'r cloc yn ôl.

Mae cwyno am VAR wedi troi'n destun ffasiynol iawn yn y byd pêl-droed ers cyflwyno'r dechnoleg yn Uwch Gynghrair Lloegr bum tymor yn ôl. Does dim penwythnos yn pasio heb i rywun gael cam yn dilyn penderfyniad gan VAR - yn ddiweddar cafodd gôl gan gapten Lerpwl Virgil Van Dijk yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ei wrthod wedi i'w gyd chwaraewr Wataru Endo gael ei gosbi am gamsefyll.

Y feirniadaeth bennaf yn erbyn VAR yw bod y system yn arafu llif y gêm a'r gwirionedd rhyfedd bod modd anghytuno gyda nifer o'r penderfyniadau, sy'n eironig o ystyried mai pwrpas defnyddio'r dechnoleg oedd i ddileu camgymeriadau.

Cafodd technoleg fideo ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn rygbi nol ym 1995, ac hyd yn oed heddiw bron i dri degawd yn ddiweddarach mae'r TMO yn parhau i gorddi'r dyfroedd.

Disgrifiad o’r llun,

Andy Hayden a'r naid enwog yng nghanol y llinell

Cafodd cais hwyr yr Albanwr Sam Skinner yn erbyn Ffrainc ddim ei ganiatáu er bod y dystiolaeth yn awgrymu mae'r tebygolrwydd oedd i'r bêl gael ei thirio. Roedd y ddadl hon yn ymwneud â'r cwestiynau a ddefnyddiwyd wrth i'r dyfarnwr drafod gyda'r swyddog fideo. Tase'r dyfarnwr wedi gofyn am rheswm i beidio a chaniatáu'r cais yn hytrach na'r gwrthwyneb base'r Albanwyr wedi ennill.

Teg dweud bod rygbi wedi cael tasg anoddach na champau megis criced a thenis i sicrhau'r defnydd mwya' effeithiol o dechnoleg fideo. Hynny yn bennaf oherwydd mai dehongli cyfraith y gêm yw rôl y dyfarnwr (sylwch mae cyfraith yn hytrach na rheolau), ac o ganlyniad mae yna le i gytuno ac anghytuno gyda'r mwyafrif o benderfyniadau'r swyddog.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddglo dramatig i'r gêm rhwng Yr Alban a Ffrainc yn Murrayfield, 10 Chwefror, 2024

Mae'r rheolau lawer cliriach yn y byd tenis; Oedd y bêl wedi cyffwrdd â'r llinell neu beidio? neu criced; A fyddai'r bêl wedi bwrw'r wiced? Mae'n gwestiwn o 'ie' neu 'na', 'du' neu 'gwyn'...

Y cyfaddawd gyda'r bêl hirgron yw i glustnodi'r TMO am achosion o droseddu peryglus a'r weithred o sgorio ceisiau, gan dderbyn bod barn a chwaeth bersonol y dyfarnwyr am effeithio holl benderfyniadau eraill y gêm. Ac mae hyd yn oed y digwyddiad rhwng yr Alban a Ffrainc yn arwydd bod y gamp, ar y cyfan yn parhau i roi'r gair olaf i'r dyfarnwr ar y cae, gan mai ei ddehongliad gwreiddiol ef o'r digwyddiad effeithiodd ar y penderfyniad terfynol.

Sy'n dod a ni nôl at y bêl gron a'r ddadl ddi-ddiwedd am y VAR felltith 'na. Fel gyda rygbi fe fydd y system yn cael ei wirio a'i wella dros amser. Does dim amheuaeth bydd y chwaraewyr cyn hir yn gwisgo sensoriaid fydd yn cadarnhau, nail ffordd na'r llall, os iddyn nhw gamsefyll.

Mae'r ffaith mai'r dyfarnwyr fideo sy'n galw am atal chwarae hefyd yn cadw llif y gêm yn fwy cyson na champau eraill sydd wrth eu natur yn llawer mwy stacato. Mae ambell i un wedi awgrymu rhoi cyfres o heriau i'r rheolwyr fel y welw ni yn criced a'r NFL. Fe geisiwyd yr arbrawf yma yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig rhai blynyddoedd yn ôl a bu'n fethiant trychinebus, wrth i'r capteiniaid storio'u cynigion tan y munudau olaf ac yna herio pob fan-drosedd dan haul.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y TMO yn cael ei ddefnyddio yn y gêm rhwng Cymru a'r Ariannin yng Nghwpan y Byd 2023

Does dim amheuaeth bydd VAR yn creu strach swnllyd arall cyn pen tro a bydd 'na ambell i gŵyn achlysurol am y TMO hefyd. I mi, mae hi eisoes yn rhy hwyr i ddychwelyd i'r cyfnod naiif yna cyn i'r camerâu ladd ar y gêm.

Ydyn, ry' ni 'di arfer 'da rheolwyr ac arbenigwyr yn lladd ar dechnoleg, ond mae hynny os i ni am fod yn gwbl onest, bron wastad yng nghyd-destun y rhai sy'n teimlo eu bod nhw wedi cael cam.

Credwch chi fi, os bydd un o chwaraewyr Y Ffindir yn llawio yn cwrt cosbi ar 21 Mawrth, a dim technoleg fideo i newid penderfyniad anghywir y dyfarnwr, fe fydde ni fel gwlad yn cofio'r anghyfiawnder am ddegawdau, yn byddwn ni Joe Jordan?!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig